Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Offer milwrol: Anton Petrus/Moment via Getty Images; money: Wara1982/iStock via Getty Images Plus

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Gwario Triliynau ar Ryfel—⁠Ond Beth Yw’r Wir Gost?

Gwario Triliynau ar Ryfel—⁠Ond Beth Yw’r Wir Gost?

 Mae cost rhyfel yn enfawr.

  •   “Llynedd, gwnaeth llywodraethau ledled y byd wario $2.2 triliwn (dros £1.73 triliwn) ar sawl rhyfel. Dyma’r swm mwyaf maen nhw wedi ei wario erioed ar ryfel.”—The Washington Post, Chwefror 13, 2024.

 Mae’r gost yn cynnwys llawer mwy nag arian. Ystyriwch un enghraifft: Y rhyfel yn Wcráin.

  •   Milwyr. Mae rhai arbenigwyr yn amcangyfrif bod bron i 500,000 o filwyr wedi cael eu lladd neu wedi eu hanafu ers dechrau’r rhyfel ddwy flynedd yn ôl.

  •   Sifiliaid. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae mwy na 28,000 o sifiliaid wedi marw neu wedi cael eu hanafu. Serch hynny, dywedodd un uwchswyddog: “Nid yw’n bosib cyfri faint o fywydau sydd wedi cael eu dinistrio gan effaith y rhyfel trychinebus hwn.” a

 Mae rhyfel a gwrthdaro byd-eang yn achosi dioddefaint ar bobl sy’n amhosib i’w fesur.

  •   114 miliwn. Y nifer o bobl sydd wedi eu dadleoli o ganlyniad i ryfel a thrais ledled y byd hyd at fis Medi 2023.

  •   783 miliwn. Y nifer o bobl sy’n dioddef prinder bwyd. “Y prif reswm i bobl ddioddef prinder bwyd yw rhyfel a gwrthdaro, oherwydd mae 70 y cant o’r bobl sy’n mynd heb fwyd yn y byd yn byw mewn ardaloedd lle mae rhyfel a thrais.”—Rhaglen Fwyd y Byd.

 A fydd rhyfel yn dod i ben rhyw ddydd? A oes unrhyw obaith ar gyfer heddwch? A fydd amser pan na fydd pobl yn dlawd neu’n mynd heb fwyd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Cyfnod o ryfel

 Mae’r Beibl wedi rhagfynegi y byddai rhyfeloedd drwy’r byd i gyd. Mae’n disgrifio rhyfel mewn ffordd symbolaidd fel marchog.

  •   “Daeth un arall allan, ceffyl fflamgoch, ac fe gafodd yr un a oedd yn eistedd arno yr awdurdod i gymryd heddwch oddi ar y ddaear er mwyn iddyn nhw ladd ei gilydd, ac fe gafodd cleddyf mawr ei roi iddo.”—Datguddiad 6:4.

 Mae dau farchog arall yn dilyn y marchog symbolaidd hwnnw sy’n cynrychioli prinder bwyd eang a marwolaeth o ganlyniad i bla ac achosion eraill. (Datguddiad 6:5-8) I ddysgu mwy am y broffwydoliaeth hon a pham y gallwn fod yn sicr ei bod yn cael ei chyflawni yn ein dyddiau ni, darllenwch yr erthygl Saesneg “The Four Horsemen—Who Are They?

Dyfodol o heddwch

 Yn fuan, ni fydd cyfoeth y byd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyfel. Ond, ni fydd hyn o ganlyniad i unrhyw beth y gall pobl ei wneud. Mae’r Beibl yn dweud:

  •   Mae Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.

  •   Bydd Duw yn dad-wneud effeithiau torcalonnus rhyfel. “Bydd ef yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”—Datguddiad 21:4

  •   Bydd Duw yn sicrhau y bydd pawb yn byw mewn heddwch. “Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.”—Eseia 32:18

 Yn ôl proffwydoliaethau’r Beibl, mae’r rhyfeloedd a digwyddiadau eraill rydyn ni’n eu gweld heddiw yn dangos yn glir bod heddwch yn dod yn fuan.

 Sut bydd Duw yn dod â heddwch inni yn y dyfodol? Bydd yn defnyddio ei lywodraeth yn y nef, sef y Deyrnas. (Mathew 6:10) I ddysgu beth ydy’r Deyrnas honno a beth fydd yn ei gwneud ar eich cyfer chi, gwyliwch y fideo byr Beth Yw Teyrnas Dduw?

a Miroslav Jenca, cynorthwyydd i ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop, Rhagfyr 6, 2023.