Hen Gofnodion Sy’n Cadarnhau Lleoliad un o Lwythau Israel
Yn ôl y Beibl, pan wnaeth yr Israeliaid goncro Gwlad yr Addewid a’i rhannu ymysg eu llwythau, derbyniodd deg clan o lwyth Manasse diroedd ar ochr orllewinol yr Iorddonen, ar wahân i weddill y llwyth. (Josua 17:1-6) A oes tystiolaeth archaeolegol bod hyn wedi digwydd?
Ym 1910 cafodd casgliad o ddarnau o grochenwaith ei ddatgladdu yn Samaria. Ar y darnau, neu deilchion, hyn roedd cofnodion Hebraeg a oedd yn cofnodi cyflenwad o nwyddau moethus—gan gynnwys gwin ac olew cosmetig—ym mhalas brenhinol y brifddinas. Cafwyd hyd i 102 o deilchion i gyd a oedd yn dyddio yn ôl i’r wythfed ganrif COG, ond, dim ond 63 sy’n hollol ddarllenadwy. Gyda’i gilydd, mae’r 63 darn hyn yn datgelu dyddiadau ac enwau llwythau, yn ogystal â dangos pwy sydd wedi anfon a phwy sydd wedi derbyn y nwyddau.
Mae’n ddiddorol bod pob clan sy’n cael ei enwi ar y teilchion o Samaria yn perthyn i lwyth Manasse. Yn ôl yr NIV Archaeological Study Bible, mae hyn yn “ategu’r cysylltiad sy’n cael ei wneud yn y Beibl rhwng llwythau Manasse a’r ardal lle mae’r Beibl yn honni eu bod nhw wedi ymsefydlu.”
Mae’r teilchion o Samaria hefyd yn cadarnhau cywirdeb yr ysgrifennwr Beiblaidd Amos, a ddywedodd am bobl gyfoethog yr oes yna: “Dych chi’n yfed gwin wrth y galwyni ac yn pampro eich cyrff gyda’r olew gorau!” (Amos 6:1, 6) Mae’r teilchion o Samaria yn dangos bod y fath eitemau wedi cael eu mewnforio i’r ardal lle roedd deg clan Manasse yn byw.