YMGYRCH Y GOFFADWRIAETH
Bydd Iesu yn Rhoi Terfyn ar Ryfeloedd
Yn ystod ei amser ar y ddaear, dangosodd Iesu gariad mawr tuag at bobl. Roedd Iesu hyd yn oed yn fodlon aberthu ei fywyd drostyn nhw. (Mathew 20:28; Ioan 15:13) Yn fuan, y mae’n mynd i ddangos ei gariad unwaith eto drwy ddefnyddio ei awdurdod fel Brenin Teyrnas Dduw i ‘ddod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.’—Salm 46:9.
Sylwch ar y ffordd mae’r Beibl yn disgrifio’r hyn mae Iesu’n mynd i’w wneud:
“Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais; mae eu bywyd nhw’n werthfawr yn ei olwg.”—Salm 72:12-14.
Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am bopeth mae Iesu wedi ei wneud ac y bydd yn ei wneud droston ni yn y dyfodol? Yn Luc 22:19, dywedodd Iesu y dylai ei ddilynwyr gofio ei farwolaeth. Dyna pam mae Tystion Jehofa yn dod at ei gilydd bob blwyddyn ar y diwrnod y bu farw Iesu. Rydyn ni’n estyn gwahoddiad ichi ymuno â ni i gofio marwolaeth Iesu, nos Sul, 24 Mawrth, 2024.