Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Photo by Zhai Yujia/China News Service/VCG via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Llifogydd Dinistriol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Llifogydd Dinistriol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar draws y byd, mae llawer o bobl yn ymdopi â llifogydd dinistriol. Sylwch ar yr adroddiadau canlynol:

  •   “Dros y dyddiau diwethaf, mae prif ddinas Tsieina wedi gweld y glawogydd trymaf ers o leiaf 140 o flynyddoedd, ar ôl i 29.3 modfedd (744.8 milimetr) o law ddisgyn rhwng dydd Sadwrn a dydd Mercher.”—AP News, 2 Awst, 2023.

  •   “Daeth Teiffŵn Khanun â glawogydd trymion a gwyntoedd cryfion i dde Japan am yr ail ddiwrnod ddydd Iau, gan ladd dau o bobl. . . . Mae disgwyl i’r storm ddod â chyfanswm o hyd at 2 droedfedd (0.6 metr) o law i’r ardal fynyddig yng nghanol Taiwan.”—Deutsche Welle, 3 Awst, 2023.

  •   “Roedd y llifogydd [yn Nova Scotia] dros y penwythnos wedi eu hachosi gan y glawogydd trymaf i daro arfordir yr Iwerydd yng Nghanada ers 50 o flynyddoedd.”—BBC News, 24 Gorffennaf, 2023.

 Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddigwyddiadau o’r fath?

Un o arwyddion “y dyddiau olaf”

 Mae’r Beibl yn dangos ein bod ni’n byw mewn cyfnod o’r enw “y dyddiau diwethaf.” (2 Timotheus 3:1) Dywedodd Iesu y byddai pobl yn ein hoes ni yn gweld “pethau dychrynllyd yn digwydd.” (Luc 21:11) Mae newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu’n fawr at gyfnodau o dywydd garw dychrynllyd sy’n fwy anodd eu rhagweld, yn fwy eithafol, ac sy’n digwydd yn fwy aml.

Rheswm dros fod yn obeithiol

 Mae’r Beibl yn dweud bod llawer o’r pethau brawychus sy’n digwydd ar y ddaear heddiw mewn gwirionedd yn rheswm inni fod yn obeithiol. Pam? Dywedodd Iesu: “Pan welwch chi’r pethau yma’n digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod bod Teyrnas Dduw yn agos.”—Luc 21:31; Mathew 24:3.

 Mae’r pethau sy’n digwydd heddiw yn arwydd y bydd Teyrnas Dduw yn dod â grymoedd naturiol y ddaear o dan reolaeth yn fuan, gan gynnwys y gylchred ddŵr.—Job 36:27, 28; Salm 107:29.

 I ddysgu mwy am sut y bydd Teyrnas Dduw yn adfer yr amgylchedd, gweler yr erthygl Saesneg “Who Will Save the Earth?