Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

kovop58/stock.adobe.com

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Oes Modd i’r Gemau Olympaidd Ddod â Phobl at ei Gilydd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Oes Modd i’r Gemau Olympaidd Ddod â Phobl at ei Gilydd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ystod Gemau Olympaidd Haf 2024, bydd tua 5 biliwn o bobl yn gwylio mabolgampwyr o 206 o wledydd yn cymryd rhan. “Rydyn ni’n rhan o ddigwyddiad sy’n uno’r byd mewn heddwch,” meddai Thomas Bach, llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. “Gadewch inni ddathlu’r ysbryd Olympaidd o fyw yn heddychlon, fel yr unig deulu dynol, yn unedig yn ein holl amrywiaeth.”

 A yw’n bosib i’r Gemau Olympaidd wireddu’r dyheadau aruchel hyn? A oes gobaith inni gael gwir heddwch ac undod?

Ydy’r gemau yn creu heddwch ac undod?

 Mae’r Gemau Olympaidd eleni wedi gwneud i bobl feddwl am fwy na chwaraeon. Mae’r Gemau wedi tynnu sylw at faterion cymdeithasol a gwleidyddol sy’n gwahanu pobl, gan gynnwys hawliau dynol, hiliaeth, gwahaniaethu ar sail crefydd, ac anghydraddoldeb.

 Mae digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol fel y Gemau Olympaidd yn diddanu pobl. Ond maen nhw hefyd yn rhoi llwyfan i agweddau ac ymddygiad sy’n creu rhaniadau yn hytrach na hybu heddwch ac undod.

 Roedd yr agweddau sy’n gwneud undod mor anodd heddiw wedi eu rhagweld yn y Beibl. (2 Timotheus 3:1-5) I ddysgu mwy am y broffwydoliaeth hon yn y Beibl, darllenwch yr erthygl “A Wnaeth y Beibl Ragfynegi Meddylfryd ac Ymddygiad Pobl Heddiw?

Gwir obaith am heddwch ac undod trwy’r byd

 Mae’r Beibl yn cynnig gobaith am heddwch ac undod ledled y byd. Mae’n addo y bydd ‘Teyrnas Dduw,’ sydd yn llywodraeth nefol, yn uno pawb ar y ddaear.​—Luc 4:43; Mathew 6:10.

 Bydd Brenin y Deyrnas honno, Iesu Grist, yn dod â heddwch i’r byd cyfan. Mae’r Beibl yn dweud:

  •   “Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu.”—Salm 72:7.

  •   “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen . . . Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:12, 14.

 Hyd yn oed heddiw, mae dysgeidiaethau Iesu wedi uno miliynau o bobl mewn 239 o wledydd. Mae Tystion Jehofa ledled y byd wedi dysgu i fod yn Gristnogion heddychlon. I weld sut, darllenwch rifyn o’r Tŵr Gwylio gyda’r teitl “Torri’r Cylch o Gasineb.”