Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Anton Petrus/Moment via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

A Oes Modd Osgoi Rhyfel Byd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

A Oes Modd Osgoi Rhyfel Byd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae llawer o bobl wedi credu bod y sefyllfa ryngwladol yn sefydlog neu hyd yn oed yn gwella. Ond mae digwyddiadau diweddar yn herio’r farn honno.

  •   “Israel a Hezbollah yn tanio ar ei gilydd ar draws ffin Libanus, ac yn codi ofnau y bydd y rhyfel yn Gasa yn lledaenu.”—Reuters, 6 Ionawr, 2024.

  •   “Gyda grwpiau dan ei rheolaeth yn ymosod o nifer o gyfeiriadau, a’i rhaglen niwclear yn ail-gychwyn, mae Iran yn herio’r Gorllewin mewn ffordd newydd—a’r tro hwn gyda chefnogaeth Rwsia a Tsieina.”—The New York Times, 7 Ionawr, 2024.

  •   “Ymosodiadau Rwsia yn parhau i achosi dinistr ar draws Wcráin.”—UN News, 11 Ionawr, 2024.

  •   “Gyda grym economaidd a milwrol Tsieina ar gynnydd, yr ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol yn tyfu yn Taiwan, a’r berthynas bigog rhwng Beijing a Washington, mae sefyllfa’n datblygu a allai yn hawdd droi’n argyfwng.”—The Japan Times, 9 Ionawr, 2024.

 A yw’r Beibl yn dweud unrhyw beth am yr ansefydlogrwydd a welwn ni drwy’r byd heddiw? A fydd yn arwain at ryfel byd?

Mae’r Beibl wedi rhagweld y pethau sy’n digwydd heddiw

 Nid yw’r Beibl wedi rhagweld unrhyw ryfel benodol sy’n digwydd heddiw. Ond y mae wedi rhagweld y byddai rhyfela yn rhemp yn ein hoes ni ac y byddai’n ‘cymryd heddwch o’r byd.’—Datguddiad 6:4.

 Dywedodd llyfr Daniel y byddai grymoedd y byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn “amser y diwedd,” mewn ymdrech i ymestyn eu dylanwad. Byddai’r ymdrech yn gofyn am wneud sioe o’u grym milwrol, a gwario “aur ac arian,” sef adnoddau ariannol mawr.—Daniel 11:40, 42, 43, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Rhyfel sydd ar ddod

 Mae’r Beibl yn esbonio y bydd y sefyllfa yn y byd yn gwaethygu cyn iddi wella. Rhagwelodd Iesu “drychineb mawr o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau’r byd.” (Mathew 24:21) Bydd y trychineb mawr hwnnw yn arwain at ryfel o’r enw Armagedon, sy’n cael ei disgrifio fel “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog.”—Datguddiad 16:14, 16.

 Sut bynnag, achub dynolryw fydd Armagedon, nid ei dinistrio. Bydd Duw yn defnyddio’r rhyfel honno i ddod â llywodraethau dynol, sydd wedi achosi cymaint o ryfeloedd dinistriol, i ben. I weld sut bydd Armagedon yn dod â heddwch parhaol, gweler yr erthyglau canlynol: