Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

alashi/​DigitalVision Vectors via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pam Mae Cymaint o Gasineb?​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pam Mae Cymaint o Gasineb?​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae troseddau casineb, iaith casineb, trais ethnig, a rhyfel yn llenwi’r newyddion.

  •   “Wedi ei sbarduno gan y gwrthdaro rhwng Israel a Gasa, ac wedi ei hybu gan eithafwyr, bu cynnydd sydyn mewn iaith casineb ar y cyfryngau cymdeithasol.”​—The New York Times, 15 Tachwedd, 2023.

  •   “Ers y 7fed o Hydref, mae’r byd wedi gweld cynnydd sydyn a phryderus mewn casineb, iaith casineb a throseddau casineb.” Dennis Francis, llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, 3 Tachwedd, 2023.

 Does dim byd newydd am drais, rhyfel ac iaith llawn casineb. Yn wir, ceir disgrifiadau yn y Beibl o bobl yn y gorffennol a oedd “yn anelu eu geiriau creulon fel saethau” ac a oedd eisiau rhyfela a defnyddio trais i gyrraedd eu hamcanion. (Salm 64:3; 120:7; 140:1) Ond mae’r Beibl hefyd yn esbonio bod y casineb a welwn ni heddiw yn arwyddocaol.

Casineb​—Un o arwyddion yr oes

 Mae’r Beibl yn rhoi dau reswm pam mae cymaint o gasineb heddiw.

  1.  1. Fe ragwelodd gyfnod pan fyddai “cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.” (Mathew 24:12) Yn lle dangos cariad, byddai gan lawer o bobl agweddau sy’n meithrin casineb.​—2 Timotheus 3:1-5.

  2.  2. Mae’r casineb a welwn ni heddiw yn ganlyniad i ddylanwad maleisus a chreulon Satan y Diafol. Mae’r Beibl yn dweud bod y “byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg.”—1 Ioan 5:19; Datguddiad 12:9, 12.

 Sut bynnag, mae’r Beibl hefyd yn dweud y bydd Duw yn cael gwared ar yr hyn sydd wrth wraidd casineb yn fuan. Ar ben hynny fe fydd yn helpu pobl i anghofio’r holl boen y mae casineb wedi ei hachosi. Mae’r Beibl yn addo:

  •   Bydd Duw “yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”​—Datguddiad 21:4.