Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pam Mae Gwleidyddiaeth yn Creu Cymaint o Raniadau?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pam Mae Gwleidyddiaeth yn Creu Cymaint o Raniadau?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae rhaniadau gwleidyddol i’w gweld ledled y byd. Yn ôl arolwg gan y Pew Research Center yn 2022, “mae 65 y cant o oedolion a holwyd mewn 19 o wledydd yn dweud bod ’na anghydfod cryf, neu gryf iawn, rhwng pobl sy’n cefnogi pleidiau gwleidyddol gwahanol yn eu gwledydd.”

 Ydych chi’n teimlo bod mwy o anghydfod dros faterion gwleidyddol ymhlith pobl yn eich ardal chi? Pam mae hyn yn digwydd? A oes ateb? Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

Agweddau sy’n hollti barn

 Mae’r Beibl yn cyfeirio at ein amser ni fel “y dyddiau olaf” ac wedi rhagweld yr agweddau cyffredin a fyddai’n gwneud hi’n amhosib i bobl fod yn unedig.

  •   “Yn y dyddiau olaf bydd y sefyllfa’n hynod o anodd ac yn beryglus. Oherwydd bydd dynion yn eu caru eu hunain, . . . yn gwrthod cytuno â phobl eraill.”—2 Timotheus 3:1-3.

 Er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl, mae llywodraethau’n ei chael hi’n anodd gweithredu’n effeithiol. Mae pobl sydd â gwahaniaeth barn yn ei chael hi’n anodd, os nad yn amhosib, cydweithio i ddatrys problemau. Mae’r canlyniadau’n cadarnhau’r hyn a ddywedodd y Beibl amser maith yn ôl.

  •   “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.”—Pregethwr 8:9.

 Sut bynnag, mae’r Beibl yn tynnu sylw at yr ateb, sef llywodraeth dan arweiniad rhywun sy’n gallu cael gwared ar bob problem sydd yn bla ar ddynolryw heddiw.

Arweinydd cymwys sy’n ein caru ni

 Mae’r Beibl yn dweud mai Iesu Grist yw’r unig un sydd â’r gallu, yr awdurdod, a’r awydd, i uno dynolryw a dod â heddwch i’r byd.

  •   “Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu.”—Salm 72:7.

  •   “Bydd y . . . cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.”—Salm 72:11.

 Mae Iesu’n gofalu am bobl, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu trin yn annheg. Mae ef eisiau eu helpu. Dyna pam ei fod yn arweinydd delfrydol.

  •   “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais; mae eu bywyd nhw’n werthfawr yn ei olwg.”—Salm 72:12-14.

 Dysgwch fwy am Deyrnas Dduw, y llywodraeth nefol mae Iesu’n ei harwain. Gwelwch sut gall y Deyrnas eich helpu chi, a sut gallwch chi ei chefnogi.