Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Prinder Bwyd a Welwn Heddiw?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Prinder Bwyd a Welwn Heddiw?

 “Dim newyn.” Dyna obaith arweinwyr y byd ynglŷn ag un o broblemau mwyaf y ddynoliaeth, sef darparu digon o fwyd i bawb ar y blaned. a Ond a ddaw amser pan na fydd neb ar y ddaear yn newynu? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Cafodd y prinder bwyd heddiw ei ragweld yn y Beibl

 Dywedodd y Beibl y byddai cyfnodau o brinder bwyd yn “y dyddiau olaf.” Dyna enw’r Beibl ar gyfer ein hoes ni. (2 Timotheus 3:1) Nid Duw sy’n gyfrifol am y prinder bwyd, ond y mae wedi ein rhybuddio ni i’w ddisgwyl. (Iago 1:13) Sylwch ar y ddwy broffwydoliaeth hyn.

 “Bydd ’na brinder bwyd . . . yn un lle ar ôl y llall.” (Mathew 24:7) Mae’r broffwydoliaeth hon yn rhagweld newyn mewn llawer man. Mae adroddiad diweddar gan grwpiau sy’n monitro sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu yn dweud: “O ran ei ymdrechion i roi terfyn ar newyn, diffyg diogeledd bwyd, a diffyg maeth, mae’r byd yn mynd ar yn ôl.” b Mae cannoedd o filiynau o bobl mewn dwsinau o wledydd yn methu cael y bwyd sydd ei angen arnyn nhw. O ganlyniad, mae llawer yn marw.

 “Fe welais geffyl du, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno glorian yn ei law.” (Datguddiad 6:5) Yn y broffwydoliaeth hon, mae’r ceffyl a’r marchog yn cynrychioli newyn yn y dyddiau olaf. c Mae’r glorian yn llaw’r marchog ar gyfer pwyso bwyd i’w rannu’n ddognau. Wrth iddo farchogaeth, clywir llais yn dweud y byddai prisiau bwyd yn codi’n aruthrol ac yn rhybuddio pobl i beidio â gwastraffu bwydydd sylfaenol. (Datguddiad 6:6) Mae hyn yn disgrifio’r argyfwng bwyd a welwn ni heddiw, gyda biliynau o bobl yn methu fforddio neu’n methu cael hyd i fwyd maethlon.

Sut bydd prinder bwyd yn dod i ben?

 Mae arbenigwyr yn dweud bod y ddaear yn cynhyrchu mwy na digon i fwydo pawb ar y blaned. Felly beth yw’r problemau sy’n achosi prinder bwyd? Ac yn ôl y Beibl, beth mae’r Creawdwr, Jehofa, d yn mynd i’w wneud er mwyn datrys y problemau hyn?

 Problem: Nid yw llywodraethau’n gallu cael gwared ar y tlodi a’r diffyg cyfartaledd economaidd sy’n creu newyn.

 Ateb: Bydd llywodraethau dynol amherffaith yn cael eu disodli gan lywodraeth berffaith—Teyrnas Dduw. (Daniel 2:44; Mathew 6:10) Heddiw, mae llawer o bobl dlawd yn cael trafferth talu am fwyd, ond o dan Deyrnas Dduw bydd hynny yn newid. Mae’r Beibl yn dweud am Iesu Grist, Brenin Teyrnas Dduw: “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu.” (Salm 72:12) Ac mae Duw yn addo: “Bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog.”—Eseia 30:23.

 Problem: Mae rhyfeloedd yn ddinistriol ac maen nhw’n creu ansefydlogrwydd economaidd. O ganlyniad mae’n anodd neu’n amhosib dosbarthu bwyd.

 Ateb: “Mae [Jehofa yn] dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.” (Salm 46:9) Bydd Duw yn dinistrio arfau rhyfel, a’r rhai sy’n hyrwyddo rhyfeloedd. O ganlyniad, bydd hi’n bosib i bawb gael bwyd yn hawdd ac yn ddiogel. Mae’r Beibl yn dweud am Frenin Teyrnas Dduw: “Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu.”—Salm 72:7.

 Problem: Mae tywydd eithafol a thrychinebau naturiol yn difa cnydau ac yn lladd anifeiliaid.

 Ateb: Bydd Duw yn rheoli grymoedd naturiol y ddaear, gan greu amgylchiadau a fydd yn ddelfrydol ar gyfer tyfu bwyd. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnaeth [Jehofa] i’r storm dawelu; roedd y tonnau’n llonydd. . . . Gall droi’r anialwch yn byllau dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau! Yna rhoi pobl newynog i fyw yno . . . Maen nhw’n hau hadau yn y caeau ac yn plannu coed gwinwydd, ac yn cael cynhaeaf mawr.”—Salm 107:29, 35-37.

 Problem: Mae pobl farus a llwgr yn gwerthu bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta, neu’n atal bwyd rhag cyrraedd y rhai sydd ei angen.

 Ateb: Bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar bawb sydd yn anonest ac yn llwgr. (Salm 37:10, 11; Eseia 61:8) Mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel Duw sy’n “rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, a bwyd i’r rhai newynog.”—Salm 146:7.

 Problem: Mae traean o’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu bob blwyddyn yn cael ei wastraffu neu ei golli.

 Ateb: O dan Deyrnas Dduw, bydd y cyflenwad bwyd yn cael ei reoli’n iawn. Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn ofalus i beidio â gwastraffu bwyd. Er enghraifft, ar un achlysur fe roddodd fwyd mewn ffordd wyrthiol i dorf o fwy na 5,000 o bobl. Ond ar y diwedd, dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Casglwch y tameidiau dros ben, fel nad oes dim gwastraff.”Ioan 6:5-13.

 Gan fydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar achosion sylfaenol newyn, bydd pawb ar y ddaear yn cael digonedd o fwyd da a maethlon. (Eseia 25:6) I weld pryd bydd Teyrnas Dduw yn gwneud hyn, gweler yr erthygl “Pryd Daw Teyrnas Dduw i Reoli’r Ddaear?

a Yr Agenda ar gyfer Datblygu Cynaliadwy 2030, a gafodd ei fabwysiadu gan bob Aelod-wladwriaeth o’r Cenhedloedd Unedig yn 2015.

b Adroddiad ar y cyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, y Gronfa Ryngwladol ar gyfer Datblygu Amaethyddol, Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig, Rhaglen Bwyd y Byd, a Sefydliad Iechyd y Byd.

c I ddysgu mwy am bedwar marchog llyfr Datguddiad, gweler yr erthygl “The Four Horsemen—Who Are They?

d Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?