Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TheCrimsonMonkey/E+ via Getty Images

Problemau Amgylcheddol—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

Problemau Amgylcheddol—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

 “Mae’r argyfwng amgylcheddol yn rhoi straen ar bobl, ar ddinasoedd ac ar systemau ecolegol. Mae’r stormydd yn fwy ffyrnig oherwydd newidiadau i’r amgylchedd ac o ganlyniad yn dinistrio cartrefi a bywoliaeth pobl ledled y byd. Mae systemau ecolegol y cefnfor yn cynhesu, ac yn bygwth bodolaeth helaeth o rywogaethau.”—Inger Andersen, is-ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a chyfarwyddwr gweithredol o Gynllun yr Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, 25 Gorffennaf, 2023.

 A fydd llywodraethau yn gallu gweithio gyda’i gilydd i ddatrys y problemau sy’n effeithio ar y byd cyfan? A oes ganddyn nhw’r gallu i ddod o hyd i’r atebion parhaol?

 Mae’r Beibl yn sôn am lywodraeth sydd yn gallu datrys holl broblemau amgylcheddol y byd, a dyna’n union beth fydd llywodraeth Duw yn ei wneud. Mae’n dweud: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas,” sef llywodraeth a fydd yn rheoli dros faterion y ddaear. (Daniel 2:44) O dan y llywodraeth hon, “fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim.” Mae hyn yn golygu na fydd pobl yn brifo ei gilydd nac yn niweidio’r ddaear.—Eseia 11:9.