Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Kim Steele/The Image Bank via Getty Images

Problemau Economaidd—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

Problemau Economaidd—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

 I lawer o bobl ledled y byd, mae cael dau ben llinyn ynghyd yn frwydr barhaus sy’n mynd yn anoddach drwy’r amser.

  •   Yn ddiweddar, dywedodd un adroddiad byd-eang a fod “gwerth cyflogau misol wedi gostwng yn sylweddol.” Os nad oes dim byd yn cael ei wneud, mae’n rhybuddio “y bydd anghydraddoldeb yn cynyddu” a “bydd safonau byw llawer o weithwyr a’u teuluoedd” yn dirywio.

 A fydd llywodraethau’n gallu mynd i’r afael â’r argyfwng economaidd cynyddol hwn, heb sôn am lwyddo i’w ddatrys?

 Mae’r Beibl yn esbonio bod llywodraeth yn bodoli a fydd yn datrys yr holl broblemau economaidd, gan gynnwys anghydraddoldeb. Mae’n dweud y “bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas,” sef un llywodraeth a fydd yn gofalu am bawb a phopeth yn y byd. (Daniel 2:44) O dan y llywodraeth fyd-eang honno, fydd neb yn cael ei anghofio neu ei adael ar ôl. (Salm 9:18) Bydd pob un sy’n byw o dan Deyrnas Dduw yn cael yr hyn sydd ei angen er mwyn bod yn hapus. Bydd pawb yn gallu mwynhau ffrwyth eu gwaith.—Eseia 65:21, 22.

a International Labour Organization Global Wage Report 2022-23