BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Pwy Fydd yn Achub y Bobl Gyffredin?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Yn ôl adroddiad y Cenhedloedd Unedig:
Rhwng Hydref 7 a 23, 2023, cafodd 6,400 eu lladd a 15,200 eu hanafu yn y gwrthdaro rhwng Gasa ac Israel, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobl gyffredin. Ar ben hynny, mae cannoedd o filoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Erbyn 24 Medi, 2023, yn y rhyfel rhwng Rwsia a’r Wcráin, roedd 9,701 o bobl gyffredin wedi marw a 17,748 wedi’u hanafu.
Pa obaith mae’r Beibl yn ei gynnig i bobl sy’n dioddef o ganlyniad i ryfeloedd?
Rheswm dros fod yn obeithiol
Mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.” (Salm 46:9) Fe fydd yn defnyddio ei Deyrnas, sydd yn llywodraeth nefol, i ddisodli pob llywodraeth ddynol. (Daniel 2:44) Bydd Teyrnas Dduw yn datrys holl broblemau dynolryw.
Sylwch ar beth y bydd Brenin Teyrnas Dduw, Iesu Grist yn ei wneud:
“Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:12-14.
Drwy gyfrwng ei Deyrnas, bydd Duw yn dad-wneud yr holl dristwch a dioddefaint y mae rhyfel yn eu hachosi.
“A bydd ef yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”—Datguddiad 21:4.
Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn dod â newidiadau mawr i’r ddaear. Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n “mynd i glywed am ryfeloedd a chlywed sôn am ryfeloedd,” a dyna sy’n digwydd heddiw. (Mathew 24:6) Mae hyn yn dangos ein bod ni’n byw yn ‘nyddiau olaf’ llywodraethau dynol.—2 Timotheus 3:1.