Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Chwith: Olena Yefremkina/stock.adobe.com; canol: lunamarina/stock.adobe.com; dde: Rido/stock.adobe.com

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pwy Gallwch Chi Ei Drystio?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pwy Gallwch Chi Ei Drystio?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae’n hawdd digalonni pan fydd pobl sydd i fod yn ddibynadwy yn ein siomi. Mae llawer wedi colli ffydd mewn . . .

  •   arweinwyr gwleidyddol sy’n rhoi eu buddiannau eu hunain o flaen anghenion y bobl.

  •   ffynonellau newyddion sy’n cyflwyno gwybodaeth nad yw’n deg nac yn gywir.

  •   gwyddonwyr nad ydyn nhw’n gweithio er lles y cyhoedd.

  •   arweinwyr crefyddol sy’n hyrwyddo gwleidyddiaeth yn lle cynrychioli Duw.

 Mae’n iawn i fod yn ofalus am bwy rydyn ni’n ei drystio. Mae’r Beibl yn rhybuddio:

  •   “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu​—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.”—Salm 146:3.

Rhywun y gallwch ei drystio

  Mae’r Beibl yn sôn am rywun y gallwch chi ei drystio’n llwyr: Iesu Grist. Roedd Iesu yn fwy na dyn da a fu farw ganrifoedd yn ôl. Mae Duw wedi penodi Iesu’n i reoli “fel Brenin . . . , a fydd ’na ddim terfyn ar ei Deyrnas.” (Luc 1:32, 33) Iesu ydy Brenin Teyrnas Dduw, llywodraeth sy’n rheoli heddiw o’r nefoedd.—Mathew 6:10.