Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Chris McGrath/Getty Images

Rhyfel—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

Rhyfel—Beth Mae Teyrnas Dduw yn Mynd i’w Wneud

 Ledled y byd, mae rhyfeloedd yn parhau i achosi poen a difrod di-ben-draw. Sylwch ar yr adroddiadau canlynol:

  •   “Mae ffigurau newydd yn dangos bod y nifer o bobl sy’n marw o ganlyniad i ryfel ar ei uchaf ers 28 o flynyddoedd, yn bennaf oherwydd y rhyfeloedd yn Ethiopia ac Wcráin.”—Sefydliad Ymchwil Heddwch Oslo, 7 Mehefin, 2023.

  •   “Roedd y rhyfel yn Wcráin yn un o nifer o ryfeloedd a wnaeth waethygu yn 2022. At ei gilydd, cynyddodd trais gwleidyddol 27 y cant drwy’r byd y llynedd, gan effeithio ar tua 1.7 biliwn o bobl.”— The Armed Conflict Location & Event Data Project (ACLED), 8 Chwefror, 2023.

 Mae’r Beibl yn cynnig gobaith. Mae’n dweud y “bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio.” (Daniel 2:44) O dan y Deyrnas, neu’r llywodraeth honno, bydd Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.