BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Rhyfel a Newid Hinsawdd yn Sbarduno Argyfwng Bwyd Byd Eang—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Mae’r rhyfel yn Wcráin, ynghyd ag effeithiau newid hinsawdd, yn parhau i amharu’n ddifrifol ar gyflenwad bwyd ledled y byd. Mae hyn yn arbennig o wir mewn gwledydd sy’n datblygu, lle mae bwyd yn brin i lawer o bobl.
“Mae gwrthdaro, newid hinsawdd, prisiau ynni, a ffactorau eraill yn amharu ar y system amaethyddol ac felly ar faint o fwyd sydd ar gael.”—António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, 17 Gorffennaf, 2023.
“Oherwydd bod Rwsia wedi tynnu’n ôl o’r cytundeb allforio grawn, mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd diogeledd y cyflenwad bwyd yn gwaethygu a phrisiau bwyd yn cynyddu mewn gwledydd incwm isel, yn enwedig yng Ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol.”—Atalayar.com, 23 Gorffennaf, 2023.
Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am argyfyngau bwyd a’r dyfodol.
Mae’r Beibl wedi rhagweld argyfyngau bwyd
Dywedodd Iesu: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd ’na brinder bwyd.”—Mathew 24:7.
Mae llyfr Datguddiad yn y Beibl yn disgrifio pedwar marchog symbolaidd. Mae un o’r marchogion hynny yn cynrychioli rhyfel. Yn dynn ar ei sodlau daw marchog arall sy’n cynrychioli newyn ac adeg y byddai bwyd yn brinnach ac yn cael ei werthu am grocbris. “Fe welais geffyl du, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno glorian yn ei law. Fe glywais rywbeth yn debyg i lais . . . yn dweud: ‘Litr o wenith am ddenariws [cyflog diwrnod] a thri litr o haidd am ddenariws.’”—Datguddiad 6:5, 6, troednodyn.
Mae’r proffwydoliaethau hyn am argyfyngau bwyd yn cael eu cyflawni heddiw, yn yr amser mae’r Beibl yn ei alw’n ‘ddyddiau olaf.’ (2 Timotheus 3:1) I ddysgu mwy am “y dyddiau olaf” a’r pedwar marchog yn llyfr Datguddiad, gwyliwch y fideo Mae’r Byd Wedi Newid Ers 1914 a darllenwch yr erthygl Saesneg “The Four Horsemen—Who Are They?”
Sut gall y Beibl helpu?
Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu ni i ymdopi ag amgylchiadau anodd, gan gynnwys cynnydd mewn prisiau bwyd neu hyd yn oed brinder bwyd. Darllenwch am rai esiamplau yn yr erthygl “Sut i Fyw ar Lai o Arian.”
Mae’r Beibl hefyd yn rhoi gobaith inni drwy ddweud y bydd pethau’n gwella. Mae’n addo y daw amser pan fydd “digonedd o ŷd yn y wlad” a bydd gan bawb ddigon i’w fwyta. (Salm 72:16) I ddysgu mwy am yr addewid hwn ar gyfer y dyfodol, a pham y gallwch chi ei gredu, darllenwch yr erthygl “Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell.”