BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Saethu Ofnadwy ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Yn ystod mis Gorffennaf 2022, roedd nifer o achosion o saethu ar draws y byd:
“Roedd llofruddiaeth un o wleidyddion mwyaf adnabyddus Japan, [y cyn-Brif Weinidog Shinzo Abe] yn sioc fawr i bobl y wlad, ac i bobl ledled y byd, yn enwedig o ystyried y lefelau isel o drosedd yn Japan a’r deddfau llym yn ymwneud â gynnau.”—Gorffennaf 10, 2022, The Japan Times.
“Mae pobl Denmarc wedi cael braw ar ôl i ddyn saethu tri yn farw mewn canolfan siopa yn Copenhagen.”—Gorffennaf 4, 2022, Reuters.
“De Affrica: 15 wedi marw ar ôl i ddynion ddechrau saethu pobl mewn bar yn Soweto.”—Gorffennaf 10, 2022, The Guardian.
“Dros benwythnos Gorffennaf 4 cafodd fwy na 220 eu saethu’n farw yn UDA.”—Gorffennaf 5, 2022, CBS News.
A oes unrhyw obaith y bydd trais o’r fath yn dod i ben? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
Diwedd ar Drais
Mae’r Beibl yn disgrifio’r amser rydyn ni’n byw ynddo fel y “dyddiau olaf,” ac yn dweud y byddai pobl yn ymddwyn yn ffyrnig, yn greulon, ac yn wyllt. (2 Timotheus 3:1, 3) Mae pobl yn byw mewn ofn oherwydd y trais. (Luc 21:11) Ond mae’r Beibl yn addo y bydd trais yn dod i ben yn fuan, a bydd pawb “yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.” (Eseia 32:18) Sut bydd hynny’n digwydd?
Bydd Duw yn cael gwared ar bobl ddrwg ac yn dinistrio holl arfau’r byd.
“Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd . . . o’r tir.”—Diarhebion 2:22.
“[Mae Duw yn] dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.”—Salm 46:9.
Bydd Duw yn cael gwared ar wraidd y broblem drwy ddysgu pobl i fyw mewn heddwch.
“Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.”—Eseia 11:9.
Hyd yn oed heddiw, mae Duw yn dysgu pobl ledled y byd i droi eu cefnau ar drais, i stopio defnyddio arfau, ac i guro “eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio.”—Micha 4:3.
I ddysgu mwy am addewid y Beibl am fyd heb ofn, darllenwch yr erthygl “Freedom From Fear—Is It Possible?”
I ddysgu mwy am ddiwedd i drais, darllenwch yr erthygl “Peace on Earth at Last!”