Teimlo’n Unig—Sut Gallwch Chi Ymdopi?
“Mae tua hanner yr oedolion yn yr Unol Daleithiau yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig, a’r rhai sy’n dioddef fwyaf yw oedolion ifanc.”—Our Epidemic of Loneliness and Isolation: The U.S. Surgeon General’s Advisory on the Healing Effects of Social Connection and Community, 2023.
“Mae [Sefydliad Iechyd y Byd] wedi cyhoeddi Comission on Social Connection newydd, i fynd i’r afael ag unigrwydd fel bygythiad i iechyd, i annog pobl i gymdeithasu ag eraill, ac i edrych am ffyrdd gwell i drin unigrwydd ym mhob gwlad, ni waeth beth yw’r sefyllfa economaidd.”—Sefydliad Iechyd y Byd, 15 Tachwedd, 2023.
Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol i’n helpu ni i feithrin perthynas dda ag eraill.
Egwyddorion o’r Beibl a all helpu
Peidiwch â gwneud gormod ar eich pen eich hun. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gormod ar y cyfryngau cymdeithasol. Llawer gwell yw edrych am gyfle i dreulio amser gyda phobl wyneb yn wyneb, a gwneud ffrindiau da.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.
Chwiliwch am gyfle i helpu eraill. Mae gwneud pethau caredig i helpu eraill nid yn unig yn cryfhau’r berthynas rhyngon ni ond mae hefyd yn gwneud i ni deimlo’n well.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Actau 20:35.
Gweler ein gwefan am fwy o wybodaeth o’r Beibl am sut i wneud ffrindiau da.