Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Fydd Terfysgaeth yn Dod i Ben Ryw Ddydd?

A Fydd Terfysgaeth yn Dod i Ben Ryw Ddydd?

 Ar ôl ymosodiad terfysgol, hwyrach eich bod chi’n gofyn i chi’ch hun: ‘A oes ots gan Dduw? Pam mae pethau fel hyn yn digwydd? A fydd terfysgaeth a yn dod i ben ryw ddydd? Sut galla i fyw gyda’r fath ofn?’ Gall y Beibl ateb y cwestiynau hyn.

Sut mae Duw yn teimlo am derfysgaeth?

 Mae Duw yn casáu trais a therfysgaeth. (Salm 11:5; Diarhebion 6:16, 17) A phan ddefnyddiodd ei ddisgyblion drais, ymateb Iesu, cynrychiolydd Duw, oedd eu ceryddu. (Mathew 26:50-52) Er i rai honni eu bod yn gwneud pethau treisgar yn enw Duw, nid gan Dduw mae’r awdurdod yn dod i wneud hynny. Y gwir amdani yw, dydy ef ddim hyd yn oed yn gwrando ar eu gweddïau.—Eseia 1:15.

 Mae gan Dduw gonsýrn dros bob un sy’n dioddef, gan gynnwys y rhai sydd yn cael eu heffeithio gan ymosodiadau terfysgol. (Salm 31:7; 1 Pedr 5:7) Hefyd mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn gweithredu i ddod â thrais i ben.—Eseia 60:18.

Gwraidd terfysgaeth

 Mae’r Beibl yn datgelu’r rheswm sydd wrth wraidd terfysgaeth: Mae “dyn yn arglwyddiaethu ar ei gyd-ddyn i beri niwed iddo.” (Pregethwr 8:9, Beibl Cymraeg Newydd) Drwy gydol hanes, mae pobl gyda grym wedi defnyddio ofn i orthrymu eraill. Wrth ymateb i’r fath orthrwm, mae eraill wedi defnyddio terfysgaeth i frwydro’n ôl.—Pregethwr 7:7.

Diwedd ar derfysgaeth

 Mae Duw yn addo cael gwared ar ofn a thrais, a sefydlu heddwch ar y ddaear. (Eseia 32:18; Micha 4:3, 4) Mi fydd yn:

  •   Cael gwared â gwraidd terfysgaeth. Bydd tra-arglwyddiaeth dyn ar y ddaear yn dod i ben ac mi gaiff ei ddisodli gan lywodraeth fyd-eang Duw. Bydd Rheolwr y llywodraeth hon, sef Iesu Grist, yn trin pawb yn deg, ac yn cael gwared ar orthrwm a thrais. (Salm 72:2, 14) Bryd hynny, fydd neb yn troi at derfysgaeth. Bydd pobl yn “mwynhau heddwch llawn.”—Salm 37:10, 11, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   Dad-wneud pob effaith terfysgaeth. Bydd Duw yn iacháu pobl o sgileffeithiau terfysgaeth, boed hynny’n niwed corfforol neu emosiynol. (Eseia 65:17; Datguddiad 21:3, 4) Mae ef hyd yn oed yn addo atgyfodi’r meirw, gan ddod â nhw’n ôl i fyw ar ddaear heddychlon.—Ioan 5:28, 29.

 Mae’r Beibl yn rhoi rhesymau da dros gredu y bydd Duw yn gweithredu’n fuan. Ond, efallai y byddwch yn meddwl, ‘Pam nad ydy Duw wedi dod â therfysgaeth i ben yn barod?’ I gael yr ateb, gwyliwch y fideo Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

a Mae “terfysgaeth” fel arfer yn cyfeirio at y defnydd neu’r bygythiad o drais—yn enwedig yn erbyn sifiliaid—er mwyn codi ofn ar y boblogaeth a newid y drefn wleidyddol, grefyddol, neu gymdeithasol. Ond, gall pobl anghytuno ar beth dylai gael ei ystyried yn derfysgaeth.