Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rui Almeida Fotografia/Moment via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Trais Gwleidyddol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Trais Gwleidyddol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae trais gwleidyddol yn lledaenu trwy’r byd.

  •   Ym Mecsico, cafodd 39 o wleidyddion eu lladd. Gwnaeth hyn ac ymosodiadau gwleidyddol eraill gymryd sylw’r bobl oddi wrth dymor etholiad 2023-2024.

  •   Yn ddiweddar mae Ewrop wedi gweld nifer o ymosodiadau gwleidyddol, gan gynnwys ceisio lladd prif weinidog Slofacia ar Fai 15, 2024.

  •   Mae pobl yn yr Unol Daleithiau wedi synnu bod rhywun wedi ceisio lladd y cyn-arlywydd Donald Trump ar Orffennaf 13, 2024.

 Pam mae ’na gymaint o drais gwleidyddol? A fydd yn dod i ben ryw ddydd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Rhaniadau gwleidyddol yn cael eu proffwydo

 Rhagfynegodd y Beibl, yn “y dyddiau olaf,” sef ein hamser ni, y bydd llawer o bobl yn dreisgar ac yn methu cyd-dynnu.

  •   “Yn y dyddiau olaf bydd y sefyllfa’n hynod o anodd ac yn beryglus. Oherwydd bydd dynion . . . yn anniolchgar, yn anffyddlon, . . . yn ffyrnig, . . . yn fradwyr, yn ystyfnig, yn llawn balchder.”—2 Timotheus 3:1-4.

 Mae’r Beibl hefyd yn proffwydo y bydd gwrthryfel a phroblemau gwleidyddol yn gyffredin yn y dyddiau olaf hyn. (Luc 21:9) Serch hynny, ni fydd trais a rhaniadau gwleidyddol yn para am byth.

Diwedd ar drais gwleidyddol

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd Teyrnas Dduw yn y nefoedd yn cymryd lle llywodraethau dynol.

  •   “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.”—Daniel 2:44.

 Bydd Teyrnas Dduw yn uno pobl a bydd y byd yn le heddychlon.

  •   Bydd y Brenin Iesu Grist, y “Tywysog heddychlon,” yn sicrhau “ni bydd diwedd ar . . . ei heddwch.”—Eseia 9:6, 7, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   Hyd yn oed nawr, mae’r rhai sy’n byw o dan Deyrnas Dduw yn dysgu sut i fyw mewn heddwch. Mae’r Beibl yn dweud: “Byddan nhw’n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:3, 4.

 I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?” a gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?