Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Surasak Suwanmake/Moment via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Tywydd Poeth Eithafol Haf 2023—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Tywydd Poeth Eithafol Haf 2023—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae pobl ledled y byd yn ymdopi â thywydd poeth eithafol a thrychinebau cysylltiedig sy’n torri pob record mewn mannau. Sylwch ar yr adroddiadau canlynol:

  •   “Mae’r byd newydd chwysu drwy’r Mehefin poethaf ers i bobl ddechrau cofnodi’r tymheredd 174 o flynyddoedd yn ôl.”—National Oceanic and Atmospheric Administration, U.S. Department of Commerce, 13 Gorffennaf, 2023.

  •   ”Mae’r Eidal, Sbaen, Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Pwyl i gyd yn wynebu tywydd crasboeth, ac mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 48°C [118°F] ar ynysoedd Sisili a Sardinia. Mae’n bosib mai dyna fydd y tymheredd uchaf i gael ei gofnodi erioed yn Ewrop.—European Space Agency, 13 Gorffennaf, 2023.

  •   “Wrth i’r blaned gynhesu, mae disgwyl inni weld mwy a mwy o lawogydd trymion difrifol a fydd yn arwain at fwy o lifogydd difrifol.”—Stefan Uhlenbrook, cyfarwyddwr hydroleg, dŵr a’r cryosffer yn Sefydliad Meteorolegol y Byd. 17 Gorffennaf, 2023.

 Ydy’r cynnydd yn y nifer o adroddiadau am dywydd eithafol yn gwneud ichi deimlo’n bryderus? Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y pwnc pwysig hwn.

A ydy tywydd eithafol yn cael ei broffwydo yn y Beibl?

 Ydy. Mae tywydd eithafol yn cyd-fynd â rhai o’r digwyddiadau mae’r Beibl wedi eu rhagweld ar gyfer ein hamser ni. Er enghraifft, dywedodd Iesu y bydden ni’n gweld “pethau dychrynllyd.” (Luc 21:11) Mae llawer sy’n gweld tymheredd y ddaear yn codi wedi dechrau poeni y bydd y ddynolryw yn dinistrio’r ddaear.

A fydd y ddaear yn mynd yn ddiffaith?

 Na fydd. Mae Duw wedi creu’r ddaear i fod yn gartref parhaol i’r ddynolryw; ni fydd yn caniatáu i neb ei dinistrio. (Salm 115:16; Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) I’r gwrthwyneb, mae Duw wedi addo ‘dinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.’—Datguddiad 11:18.

 Mae’r Beibl yn dangos bod gan Dduw’r gallu i achub y ddaear rhag trychineb amgylcheddol a dyna’n union beth y bydd yn ei wneud.

  •   “Gwnaeth [Duw] i’r storm dawelu; roedd y tonnau’n llonydd.” (Salm 107:29) Mae gan Dduw’r nerth i reoli grymoedd natur. Mae ganddo’r gallu i ddatrys y problemau amgylcheddol sy’n gwneud i bobl ddioddef oherwydd tywydd eithafol.

  •   “Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a’i gwneud yn hynod ffrwythlon.” (Salm 65:9) Gyda bendith Duw, caiff y ddaear ei throi’n baradwys.

 Mae’r Beibl yn dweud y caiff yr amgylchedd ei adfer. I wybod mwy am yr addewid hwn, gweler yr erthygl “Who Will Save the Earth?