Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Caneuon Sy’n Helpu Ni Glosio at Dduw

Caneuon Sy’n Helpu Ni Glosio at Dduw

TACHWEDD 1, 2021

 Mae cerddoriaeth yn rhodd hyfryd gan Jehofa. Gall effeithio ar ein meddyliau, newid y ffordd rydyn ni’n teimlo, a rhoi hwb inni. Yn sicr, gallwn ddweud hyn am ein caneuon gwreiddiol. Gall y caneuon hyn wneud hyd yn oed mwy: gallan nhw wneud inni glosio at Jehofa.

 Ers 2014, mae dros 70 o ganeuon gwreiddiol wedi cael eu cynhyrchu, a nawr mae o leiaf un o’r caneuon hynny ar gael mewn dros 500 o ieithoedd! Ond efallai eich bod chi wedi meddwl, ‘Pwy sy’n gweithio ar y caneuon, a sut maen nhw’n cael eu cynhyrchu?’

Cipolwg y tu ôl i’r Llenni

 Mae’r caneuon gwreiddiol yn cael eu cynhyrchu gan y tîm cerddoriaeth yn adran Gwasanaethau Sain a Fideo, sydd yn gweithio dan oruchwyliaeth Pwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol. Mae ’na 13 o frodyr a chwiorydd yn y tîm. Mae rhai wrthi’n cyfansoddi, eraill yn beirianwyr sain, ac eraill eto’n gwneud amserlenni a gwaith angenrheidiol arall. Yn ogystal â hyn, mae’r Pwyllgor Addysgu wedi cymeradwyo gwirfoddolwyr pell, ledled y byd, i gynorthwyo’r gwaith, gan gynnwys cyfansoddwyr, cerddorion, a chantorion. Mae’r Brodyr a chwiorydd hyn wrthi’n defnyddio eu doniau yn ostyngedig heb geisio unrhyw glod nac anrhydedd am eu gwaith.

 Sut maen nhw’n mynd ati i gynhyrchu cân wreiddiol? Yn gyntaf, mae’r Pwyllgor Addysgu yn penderfynu pa adnodau dylai fod yn sail i’r gân a pha fath o emosiwn dylai pobl ei gael o wrando arni. Yna bydd y tîm cerddoriaeth yn aseinio’r gwaith o gyfansoddi’r gerddoriaeth ac o ysgrifennu’r geiriau. Maen nhw’n paratoi recordiad fel sampl. Bydd y Pwyllgor Addysgu’n gwrando ar y recordiad ac yn rhoi awgrymiadau pellach. Wedyn bydd y tîm cerddoriaeth yn addasu’r gân ac yn recordio’r fersiwn derfynol. Caiff y caneuon eu recordio mewn amryw o leoliadau gwahanol, gan gynnwys stiwdios mewn canghennau a chartrefi personol.

 Er mwyn cyfansoddi caneuon a’u recordio, bydd ein brodyr yn defnyddio cyfrifiaduron sy’n delio â sain ddigidol, rhaglen nodiant cerddorol, a llyfrgelloedd sain, ymhlith pethau eraill. I gyflawni’r gwaith mae angen yr offer canlynol hefyd, sef offerynnau cerddorol, consolau cymysgu, mwyaduron i godi lefel y sain, seinyddion, a meicroffonau. Gall meicroffonau gostio o £70 i £700 neu fwy. Yn 2020, gwnaethon ni wario tua £84,000 ar offer recordio cerddoriaeth.

 Pa ymdrech sy’n cael ei wneud i ddefnyddio cyfraniadau yn ofalus? Yn lle cael tîm cerddoriaeth mawr ym Methel, mae llawer o wirfoddolwyr pell yn cael eu defnyddio. Bydd brodyr yn aml yn cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth yn ddigidol yn lle dod at ei gilydd mewn cerddorfa fawr.

“Rhaff Achub Ysbrydol”

 Mae brodyr a chwiorydd wrth eu boddau yn gwrando ar ganeuon gwreiddiol. Mae Tara, sy’n byw yn yr Almaen, yn dweud: “Mae’r caneuon yn fy helpu i ymlacio pan fydda i’n bryderus. Mae gwrando arnyn nhw yn fy mamiaith yn debyg i gael cwtsh gan Jehofa.” Dywedodd Dmitry, brawd o Gasachstan: “Dw i’n hoffi gallu gwrando ar y caneuon heb orfod poeni a ydyn nhw’n unol ag egwyddorion y Beibl neu beidio. Ar ben hynny, mae’r caneuon yn fy helpu i ganolbwyntio ar bethau ysbrydol.”

 Mae Delia, sy’n byw yn Ne Affrica, yn disgrifio sut mae hi’n teimlo am y caneuon gwreiddiol: “Maen nhw wedi dod yn rhaff achub ysbrydol imi. Pan fydda i’n teimlo’n isel neu’n wynebu rhyw her, mae ’na wastad cân sy’n gweddu i’m sefyllfa yn berffaith. Yn aml, bydd hyd yn oed tôn y gân yn ddigon i newid y ffordd dw i’n teimlo!”

 Mae rhai caneuon gwreiddiol wedi dod yn ffefrynnau. Yn ôl Lerato, sydd hefyd o Dde Affrica: “Mae’r caneuon ‘Ar y Gorwel’ a ‘The New World to Come’ yn fy helpu i ddychmygu croesawu fy annwyl fam yn ôl yn fyw. Bob tro dw i’n gwrando ar y caneuon hynny, dw i’n ei gweld hi’n rhedeg tuag ata i â’i breichiau’n agored.”

 Roedd un o’r caneuon gwreiddiol yn help mawr i chwaer ifanc yn Sri Lanca. Dywedodd hi: “Gwnaeth fy athrawes gwyddoniaeth fy ngheryddu’n llym o flaen y dosbarth am fod yn un o Dystion Jehofa. Mi wnaeth hynny godi ofn arna i, a do’n i ddim yn gwybod beth i ddweud. Pan gyrhaeddais gartref, gwnaeth Mam fy annog i wrando ar y gân ‘Study Makes You Strong.’ Helpodd y gân honno imi weld yr angen i wneud ymchwil a pharatoi ateb. Y diwrnod wedyn siaradais a’m hathrawes. Gwrandawodd arna i a dywedodd ei bod hi bellach yn deall daliadau Tystion Jehofa yn well. Dw i’n diolch i gyfundrefn Jehofa am roi’r fath ganeuon calonogol inni.”

 O le mae’r arian yn dod i dalu am gynhyrchu’r caneuon hyn? Drwy gyfraniadau at y gwaith byd-eang. Mae llawer ohonyn nhw yn cael eu rhoi drwy’r dulliau gwahanol a geir ar donate.pr418.com. Diolch yn fawr am eich rhoddion hael.