SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Cenhadon “Drwy’r Byd i Gyd”
MEHEFIN 1, 2021
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: ‘Byddwch chi’n dweud amdana i wrth bawb drwy’r byd i gyd.’ (Actau 1:8) Heddiw mae Tystion Jehofa yn cyflawni’r comisiwn hwnnw yn selog. Er hynny, mae ’na rannau o’r ddaear, gan gynnwys rhai ardaloedd poblog, sydd heb gael llawer o dystiolaeth eto. Ac mewn rhai gwledydd, ychydig iawn o Dystion sydd ’na. (Mathew 9:37, 38) Beth rydyn ni’n ei wneud i gyrraedd cymaint o bobl â phosib?
Er mwyn cyflawni gorchymyn Iesu, mae Pwyllgor Gwasanaeth Corff Llywodraethol Tystion Jehofa yn anfon cenhadon maes i ardaloedd o’r byd sydd mewn angen. Ar hyn o bryd mae ’na 3,090 o genhadon maes ledled y byd. a Mae’r mwyafrif wedi cael eu hyfforddi mewn ysgol Feiblaidd, fel yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae cenhadon yn fodlon gadael eu cartrefi a symud i wlad estron. Diolch i’w haeddfedrwydd, eu hyfforddiant, a’u profiad, mae’r cenhadon ffyddlon hyn yn helpu lledaenu’r newyddion da ac yn gosod esiampl dda ar gyfer disgyblion newydd.
Helpu Cenhadon i Helpu Eraill
Ym mhob swyddfa cangen, mae’r Swyddfa Gweinidogion Maes sy’n rhan o’r Adran Wasanaeth yn gweithio gyda Swyddfa’r Gangen i ofalu am anghenion y cenhadon, fel llety syml, gofal iechyd, a lwfans bach ar gyfer costau byw. Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, gwariodd Tystion Jehofa yn agos i £20 miliwn ar ofalu am genhadon. Diolch i’r ddarpariaeth hon, mae cenhadon yn gallu canolbwyntio eu holl sylw ac egni ar y weinidogaeth, yn ogystal â chryfhau eu cynulleidfaoedd lleol.
Sut mae cenhadon maes wedi bod o les i’r gwaith pregethu? Dywedodd Frank Madsen sy’n gwasanaethu ar Bwyllgor Cangen Malawi: “Gyda’u dewrder a’u sgiliau, mae’r cenhadon wedi helpu cynulleidfaoedd i ddechrau pregethu mewn tiriogaethau heriol, fel cymunedau tu ôl i giatiau caeedig a meysydd iaith estron. Hefyd, mae eu hymdrech i ddysgu’r iaith a diwylliant lleol yn gosod esiampl dda i eraill, ac mae eu hymroddiad i’r gwasanaeth llawn amser yn ddylanwad cadarnhaol i’r rhai ifanc. Diolchwn i Jehofa am genhadon maes.”
Mae aelod Pwyllgor Cangen wlad arall yn dweud; “Mae cenhadon yn esiamplau byw fod pobl Jehofa wedi eu huno yn fyd-eang. Mae hyd yn oed pobl sydd ddim yn Dystion yn gallu gweld yn glir nad yw diwylliant yn ein rhannu, ond fod dysgeidiaethau’r Beibl wedi ein helpu i ddod yn frawdoliaeth unedig.”
Sut mae cenhadon maes yn helpu cyhoeddwyr lleol? Mae Paolo o Ddwyrain Timor, yn gwerthfawrogi’r cenhadon sydd wedi eu haseinio i’w gynulleidfa. “Mae’n hardal ni yn hynod o boeth,” meddai, “ond er bod y cenhadon yn dod o le oer, dydyn nhw byth yn gadael i’r tywydd eu rhwystro nhw rhag pregethu. Bob bore, maen nhw yn y cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth. Ynghanol dydd pan fydd hi’n boeth iawn, bydda i’n aml yn eu gweld nhw’n galw’n ôl ar bobl, a gyda’r nos hefyd. Maen nhw wedi helpu llawer o bobl i ddysgu’r gwir, gan gynnwys fi. Maen nhw’n gwasanaethu Jehofa â’u holl fywyd yn llawn sêl a brwdfrydedd, ac mae hyn yn cymell y gynulleidfa gyfan i wneud mwy yn Ei wasanaeth.”
Mae Ketti, arloeswraig llawn amser ym Malawi, yn esbonio sut helpodd cenhadon ei theulu: “Pan gafodd cwpl priod a oedd yn genhadon eu haseinio i’n cynulleidfa, fi oedd yr unig Dyst yn fy nheulu. Ond ces i lawer o gefnogaeth gan y cwpl, a daethon nhw’n ffrindiau agos i’r teulu. Gwnaeth eu hesiampl dda helpu fy mhlant i weld sut mae gwasanaethu Jehofa yn rhoi hapusrwydd a bodlonrwydd mewn bywyd. Diolch i ddylanwad da’r cenhadon, mae fy nhair merch bellach yn gwasanaethu fel arloeswyr llawn amser ac mae fy ngŵr wedi dechrau mynd i’r cyfarfodydd.”
Sut rydyn ni’n gofalu am dreuliau’r cenhadon maes? Drwy gyfraniadau at y gwaith byd-eang, sydd yn aml yn cael eu gwneud gan ddefnyddio un o’r ffyrdd a ddisgrifir ar donate.pr418.com. Gwerthfawrogwn eich cyfraniadau hael yn fawr iawn.
a Mae’r cenhadon hyn yn cael eu haseinio i gynulleidfaoedd sydd angen help yn y gwaith pregethu. Mae ’na 1,001 o genhadon maes yn gwasanaethu yn y gwaith cylch.