SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Cyfieithu’r Gynhadledd Ranbarthol “Llawenha Bob Amser!” 2020
GORFFENNAF 10, 2020
Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2020, am y tro cyntaf erioed, bydd y frawdoliaeth fyd-eang yn gwylio’r gynhadledd ranbarthol ar yr un pryd. I wneud hynny’n bosib, bu’n rhaid cyfieithu’r rhaglen i fwy na 500 o ieithoedd. Fel arfer, byddai prosiect fel hyn yn cymryd blwyddyn neu fwy i’w gwblhau. Ond oherwydd amgylchiadau yn sgil pandemig y coronafeirws, roedd rhaid cyfieithu’r gynhadledd “Llawenha Bob Amser!” ar gyfer 2020 mewn llai na phedwar mis.
Fe wnaeth yr Adran Gwasanaethau Cyfieithu a’r Adran Prynu Byd-eang ym Mhencadlys Tystion Jehofa helpu gyda’r prosiect anferth hwn. Sylweddolodd yr Adran Gwasanaethau Cyfieithu fod angen mwy o offer ar y timau cyfieithu i gyflawni’r dasg, yn enwedig meicroffonau o safon uchel. Trefnodd yr Adran Prynu Byd-eang i brynu mil o feicroffonau a’u danfon at tua 200 o leoliadau.
I arbed arian, archebwyd nifer mawr o feicroffonau. Cafodd y meicroffonau eu gyrru i un lleoliad, ac yna eu hanfon at gyfieithwyr ledled y byd. Trwy brynu fel hyn, roedd y meicroffonau’n costio £134 ar gyfartaledd, gan gynnwys cludo—sy’n 20 y cant yn llai na’r gost arferol.
Bu’n rhaid prynu a danfon yr offer hyn yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2020—ar adeg pan oedd llawer o gwmnïau yn cael trafferthion o ganlyniad i’r pandemig. Ond er gwaethaf hyn, erbyn diwedd mis Mai, roedd y rhan fwyaf o’r swyddfeydd cyfieithu, swyddfeydd cangen, a lleoedd cyfieithu eraill wedi derbyn yr offer angenrheidiol.
“Roedd yr adrannau Bethel a’r cwmnïau allanol yn cyd-weithio’n dda drwy gydol y prosiect hwn,” meddai Jay Swinney, arolygwr yr Adran Prynu Byd-eang. “Dim ond ysbryd Jehofa sy’n gallu hwyluso ein hymdrechion mewn ffordd mor gost-effeithiol i helpu ein brodyr a chwiorydd yn eu gwaith.”
Dywed Nicholas Ahladis, sy’n gweithio yn yr Adran Gwasanaethau Cyfieithu: “Roedd derbyn yr offer hyn yn rhoi hwb mawr i’r cyfieithwyr yn ystod y cyfnod clo. Er nad oedden nhw’n cael cyfarfod fel timau, roedden nhw’n gallu cyd-weithio’n ddigonol i gyfieithu a recordio yr anerchiadau, y dramâu, a’r caneuon mewn mwy na 500 o ieithoedd.”
Mae hwn yn un o nifer o brosiectau a gafodd eu cwblhau i sicrhau fod y Gynhadledd “Llawenha Bob Amser!” 2020 ar gael i’r brodyr a chwiorydd ledled y byd. Eich cyfraniadau hael drwy donate.pr418.com a thrwy ffyrdd eraill sydd wedi gwneud hi’n bosib inni brynu’r offer a oedd eu hangen.