SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Cymorth ar ôl Trychineb yn 2023—“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”
IONAWR 26, 2024
Rhagfynegodd y Beibl y byddai “cenedl yn codi yn erbyn cenedl” a byddai trychinebau yn gyffredin yn ystod ‘cyfnod olaf y system hon.’ (Mathew 24:3, 7) Rydyn ni wedi gweld cyflawniad y geiriau hyn yn ystod y flwyddyn wasanaeth 2023. a Ond yng nghanol y rhyfeloedd a’r trychinebau naturiol sydd wedi effeithio ar bron i 100 o wledydd, mae Tystion Jehofa wedi bod yn efelychu cariad Jehofa. Sut?
Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023, cafodd ein brodyr eu heffeithio gan fwy na 200 o drychinebau a achoswyd gan rymoedd naturiol neu weithgareddau dynol. Mae corfforaethau sy’n cael eu defnyddio gan Dystion Jehofa wedi gwario bron i wyth miliwn o bunnoedd (deg miliwn o ddoleri b) er mwyn rhoi cymorth yn ystod y trychinebau. Roedd yr arian yn dod o gyfraniadau tuag at y gwaith byd-eang. Mae hynny ar ben yr arian a gafodd ei roi gan y brodyr a chwiorydd lleol i helpu pobl yn eu hardaloedd nhw. Ystyriwch sut mae eich cyfraniadau wedi helpu dioddefwyr dau drychineb a gafodd effaith ar ein brodyr.
“Mae Gwir Gariad yn Bodoli”
Mae rhai ardaloedd yn Nigeria wedi arfer â llifogydd tymhorol. Ond ym mis Hydref 2022 cawson nhw’r llifogydd gwaethaf ers deng mlynedd. Cafodd mwy na 676,000 hectar (1,670,432 erw) o dir amaethyddol ei ddinistrio, ac roedd yn rhaid i fwy na dwy filiwn o bobl adael eu cartrefi. Trefnodd y gangen yn Nigeria i Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb estyn cymorth ymarferol ac ysbrydol i’r brodyr yn syth.
Yr Effaith ar Ein Brodyr a Chwiorydd
7,505 o gyhoeddwyr yn gorfod gadael eu cartrefi
860 o gartrefi wedi eu difrodi neu eu dinistrio
90 Neuadd y Deyrnas ac un Neuadd Cynulliad wedi eu difrodi gan lifogydd
Defnydd o Gyfraniadau
Cafodd dros £195,000 ($250,000) ei wario ar gymorth ar ôl trychineb, a oedd yn cynnwys:
Bwyd fel reis, ffa a nwdls
Nwyddau cartref fel matresi a rhwydau mosgito
Trwsio neu ailadeiladu cartrefi a gafodd eu difrodi
Sut roedd ein brodyr yn sicrhau bod y cyfraniadau’n cael eu defnyddio’n ddoeth? Un ffordd oedd drwy archwilio pob adeilad yn ofalus er mwyn penderfynu a oedd yn bosib ei drwsio. Os nad oedd yn bosib, roedd un newydd yn cael ei godi yn ôl cynllun syml a oedd yn gyffredin yn yr ardal.
Mae’r brodyr a chwiorydd a gafodd help yn ddiolchgar iawn. Dywedodd un chwaer: “Roedd y llif yn troi ein bywydau ben i waered oherwydd collon ni ein ffermydd i gyd a’n cartrefi. Roedden ni mor hapus o weld ein brodyr a chwiorydd yn cyrraedd y diwrnod hwnnw er mwyn ein helpu a rhoi rhywle saff inni aros. Roedden ni’n ddiolchgar iawn o dderbyn bwyd gan y swyddfa gangen. Roedden ni’n gegrwth wrth weld cyflawniad Ioan 13: 34, 35 yn ein bywydau ein hunain. . . . Mae gwir gariad yn bodoli. Rydw i, a fy nheulu i gyd, eisiau diolch o waelod calon i’r brodyr am ddod i’n helpu ar yr union adeg iawn.”
Sylwodd eraill yn y gymuned ar ein gwaith cymorth. Dywedodd pennaeth cymuned yn Sabagreia, Bayelsa State: “Mae yna lawer o gyfundrefnau ac eglwysi yn y byd, ond dim ond Tystion Jehofa sydd wedi gwneud rhywbeth fel hyn . . . [Eich] cyfundrefn chi yw un o’r rhai gorau yn y byd.”
“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”
Yn ystod Chwefror 2023, achosodd dros 400 o danau ddifrod ofnadwy yn Tsile. Cafodd dros 430,000 hectar (1,062,553 erw) o dir, yn ogystal â rhai o’r gwasanaethu pwysicaf y wlad eu dinistrio’n llwyr. Roedd rhaid i oddeutu 8,000 o bobl adael yr ardal. Yn fuan ar ôl y trychineb, aeth y swyddfa gangen ati i drefnu ymdrechion cymorth.
Yr Effaith ar Ein Brodyr a Chwiorydd
222 o gyhoeddwyr yn gorfod gadael eu cartrefi
20 o gartrefi wedi cael eu dinistrio
Defnydd o Gyfraniadau
Cafodd dros £150,000 ($200,000) ei wario ar gymorth ar ôl trychineb, gan gynnwys:
Bwyd a dŵr
Tanwydd, pethau glanhau, a meddyginiaeth
Trwsio tai a oedd wedi eu difrodi
Roedd un teulu wedi eu syfrdanu o weld bod popeth oedd ganddyn nhw wedi ei dinistrio, gan gynnwys eu cartref a’u busnes. Nid oedd y teulu bellach yn gallu gwneud bywoliaeth ac roedd gweld y lle roedd eu cartref yn arfer sefyll yn gwneud iddyn nhw deimlo’n drist iawn. Ond o weld y tŷ yn cael ei ailadeiladu, cawson nhw eu calonogi. Roedd derbyn y fath gariad a gofal gan y gwirfoddolwyr yn codi eu calonnau. Cawson nhw gymaint o hwb, penderfynon nhw ymuno yn y gwaith o ailgodi tŷ brawd arall.
Cafodd y gwaith cymorth argraff fawr iawn ar y brodyr a chwiorydd. Dywedodd un brawd: “Mae’r Pwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb y mae Jehofa wedi eu trefnu yn fendigedig. Y diwrnod ar ôl y trychineb, roedden nhw yn darparu pethau angenrheidiol. Mae’n braf darllen am y cymorth ar ôl trychineb mewn gwledydd eraill. Ond pan fydd yn digwydd i chi, mae’n hollol wahanol. Rydych chi’n gwerthfawrogi’r gyfundrefn yn fwy; sut mae’r brodyr yn efelychu rhinweddau Jehofa; ac eisiau edrych ar ein holau, yn faterol, yn ysbrydol, ac yn emosiynol. Rydyn ni wedi gweld cariad Jehofa gyda’n llygaid ein hunain.”
Wrth i’r system hon ddod i ben, byddwn yn gweld mwy a mwy o drychinebau. (Luc 21:10, 11) Serch hynny, drwy’r gynulleidfa Gristnogol, rydyn ni’n gweld bod ein Brenin cariadus, Iesu Grist, gyda ni “bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.” (Mathew 28:20) Mae eich cyfraniadau hael i’r gwaith byd-eang, drwy donate.pr418.com a ffyrdd eraill, yn ogystal â’ch amser ac egni, yn dangos eich bod yn cefnogi’r Deyrnas a’i Brenin cariadus. Diolch o’r galon am eich caredigrwydd parhaol.