SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Cymorth ar ôl Trychinebau yn 2022—Brawdgarwch ar Waith
IONAWR 1, 2023
Dywedodd y Beibl y byddai rhyfeloedd, daeargrynfeydd, heintiau, a ‘phethau dychrynllyd’ eraill, yn ddigwyddiadau cyffredin yn ein dyddiau ni. (Luc 21:10, 11) Mae’r geiriau proffwydol hynny yn dal i gael eu gwireddu yn ystod blwyddyn wasanaeth 2022. a Er enghraifft, mae’r rhyfel yn Wcráin wedi parhau’n ddi-dor, gan effeithio ar filiynau o bobl. Roedd rhan helaeth o’r byd yn dal i geisio dod dros bandemig COVID-19. Ar ben hynny, cafodd nifer mawr o bobl eu heffeithio gan drychinebau naturiol, gan gynnwys daeargrynfeydd yn Haiti, a stormydd enfawr yng Nghanolbarth America, Ynysoedd y Philipinau, a de-ddwyrain Affrica. Sut mae Tystion Jehofa yn yr ardaloedd hynny wedi helpu pobl?
Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2022, mae ein cyfundrefn wedi rhoi cymorth i bobl oedd wedi dioddef mewn rhyw 200 o drychinebau! Gwarion ni bron i 12 miliwn o ddoleri ar gymorth. b Dyma ddwy enghraifft o’r ffordd cafodd cyfraniadau ariannol eu defnyddio i helpu pobl mewn trychinebau.
Daeargrynfeydd yn Haiti
Ar Awst 14, 2021, cafodd rhan ddeheuol Haiti ei tharo gan ddaeargryn maint 7.2. Er tristwch mawr, bu farw tri o Dystion Jehofa—un o’n brodyr a dwy o’n chwiorydd. Mae’r rhai a oroesodd wedi gorfod delio â’r difrod a’r boen emosiynol y mae’r daeargryn wedi eu hachosi. Dywed brawd o’r enw Stephane: “Bu farw cynifer o bobl yn y ddinas, roedd angladdau’n cael eu cynnal drwy’r wythnos bob wythnos am fwy na dau fis.” Dywed brawd arall, Éliézer: “Roedd llawer o’r Tystion heb gartref, heb ddillad, heb esgidiau, a heb angenrheidiau sylfaenol eraill. Am fisoedd roedd pobl yn byw mewn ofn oherwydd yr ôl-gryniadau.”
Ymatebodd ein cyfundrefn yn gyflym. Darparodd cangen Haiti dros 53 tunnell o fwyd, yn ogystal â phebyll, tarpwlinau, matresi, a phaneli solar bach i wefru ffonau symudol. Ar ben hynny, cafodd mwy na 200 o gartrefi eu trwsio neu eu hailgodi yn ystod blwyddyn wasanaeth 2022. Cafodd mwy na miliwn o ddoleri eu gwario ar gymorth.
Mae ein brodyr a’n chwiorydd yn ddiolchgar iawn. Dywed Lorette: “Cafodd ein tŷ a’n busnes eu dinistrio’n llwyr gan y daeargryn. Doedd gynnon ni ddim byd i’w fwyta. Ond daeth cyfundrefn Jehofa i’r adwy mor gyflym, a rhoi inni bopeth oedd ei angen.” Dywed Micheline: “Cafodd y lloches lle roedd fy nau fab a minnau’n byw ei difrodi gan y ddaeargryn. Yr unig beth o’n i’n gallu ei wneud oedd gweddïo am help. Atebodd Jehofa drwy ei gyfundrefn, a heddiw mae gynnon ni dŷ cadarn. Dw i eisiau gwneud popeth posib i ddangos i Jehofa fy mod i’n ddiolchgar.”
Fe wnaeth yr awdurdodau lleol sylwi ar ein hymdrech i estyn cymorth. Dywedodd cyfarwyddwr neuadd dinas L’Asile: “Diolch yn fawr iawn am estyn cymorth mor gyflym, ac rydw i eisiau eich canmol chi am y ffordd rydych chi wedi parchu’r awdurdodau. Rydych chi’n helpu pobl, nid am resymau ariannol, ond oherwydd eich bod yn eu caru.”
Storm Drofannol Ana’n Taro Malawi a Mosambîc
Ar Ionawr 24, 2022, fe wnaeth Storm Drofannol Ana gyrraedd y tir ym Mosambîc cyn symud ymlaen i Malawi. Cafwyd glaw trwm a gwyntoedd cryfion hyd at 100 cilomedr yr awr (62 mi/a), gan ddod â llinellau trydan i lawr. Fe wnaeth y storm ddinistrio pontydd ac achosi llifogydd difrifol.
Effeithiodd y storm ar fwy na 30,000 o Dystion ym Malawi a Mosambîc. Mae brawd o’r enw Charles, oedd yn helpu gyda’r gwaith cymorth yn dweud: “Ro’n i’n torri fy nghalon o weld y brodyr yn dioddef a faint roedden nhw wedi ei golli.” I wneud pethau’n waeth, roedd y storm wedi difa eu cnydau a’r bwydydd oedd ganddyn nhw wrth gefn. Collodd llawer eu cartrefi. Yn drist iawn, collodd un brawd ei wraig a dwy ferch fach a foddodd pan drodd y cwch achub drosodd.
Roedd y storm yn frawychus. Am 1:00 y bore, yn nhref Nchalo ym Malawi, clywodd y teulu Sengeredo sŵn dŵr yn taranu. Roedd dwy afon wedi gorlifo! Penderfynodd y Brawd Sengeredo y dylen nhw adael y tŷ. Roedd hynny yn gall oherwydd yn fuan wedyn daeth y llifogydd i mewn i’r tŷ a’i chwalu. Cafodd eu heiddo naill ai ei ddifrodi neu ei ysgubo i ffwrdd. Penderfynodd y teulu gerdded i Neuadd y Deyrnas. Fel arfer mae hyn yn cymryd rhyw hanner awr, ond cymerodd ddwy awr. Erbyn iddyn nhw gyrraedd, roedden nhw’n wlyb at eu crwyn ac wedi blino’n lân, ond o leiaf roedden nhw’n saff.
Aeth y swyddfeydd cangen ym Malawi a Mosambîc ati ar unwaith i drefnu cymorth. Gofynnon nhw i’r arolygwyr cylchdaith a’r henuriaid asesu anghenion y brodyr, a rhoi cymorth ysbrydol ac emosiynol. Ffurfiwyd nifer o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb, ac aethon nhw ati’n syth i helpu’r brodyr i gael bwyd a phethau angenrheidiol eraill. Cafodd dros $33,000 eu gwario ar gymorth dyngarol, a dros $300,000 ar drwsio neu ailadeiladu tai.
Gan fod cyfradd chwyddiant mor uchel, roedd y Pwyllgorau yn gorfod defnyddio’r arian yn ofalus iawn. Er enghraifft, dros y saith mis cyntaf ar ôl y trychineb, bu cynnydd o tua 70 y cant ym mhris blawd india-corn, sydd yn brif fwyd ym Malawi. Cododd pris tanwydd hefyd. I arbed arian, prynodd y brodyr fwyd a deunydd adeiladu yn lleol ac mewn swmp. Felly roedden nhw’n gallu osgoi costau cludiant uchel a chael gostyngiadau ar y pris.
Roedd y cymorth yn cyffwrdd calonnau pobl Jehofa. Dywed Felisberto, brawd o Mosambîc: “Dw i erioed wedi gweld cyfundrefn yn rhoi cymaint o help: deunydd adeiladu a gweithwyr, cludiant, bwyd, ac arweiniad cariadus. Roedd y cymorth yn esiampl eithriadol o’r cariad brawdol mae’r Beibl yn ei ddisgrifio yn Ioan 13:34, 35.” Mae Ester yn wraig weddw sy’n byw ym Malawi. Cafodd ei thŷ ei ddinistrio yn y storm, ond mae hi’n dweud: “Ro’n i’n anobeithio’n llwyr oherwydd doedd gen i ddim digon o arian i godi tŷ arall. Felly pan ddaeth y brodyr ac adeiladu un newydd imi, ro’n i’n teimlo bod y Baradwys wedi cyrraedd.”
Wrth i’r byd newydd agosáu, rydyn ni’n disgwyl gweld mwy o drychinebau. (Mathew 24:7, 8) Ond, diolch i’ch cyfraniadau hael, rydyn ni’n hyderus y bydd pobl Jehofa’n cael y cymorth sydd ei angen. Mae rhai ffyrdd y gallwch chi gyfrannu yn cael eu hesbonio ar donate.pr418.com. Diolch o’r galon am eich haelioni.