Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Dotiau Sy’n Newid Bywydau

Dotiau Sy’n Newid Bywydau

HYDREF 1, 2021

 “Mae’n debyg fod llawer o’n darllenwyr yn adnabod rhywun sy’n ddall,” meddai rhifyn Mehefin 1, 1912, Y Tŵr Gwylio. “Gallan nhw gael deunydd darllen am ddim . . . . Mae llenyddiaeth ar gyfer y deillion yn cael ei hargraffu drwy gyfrwng dotiau cyffyrddadwy y mae pobl ddall yn gallu eu darllen â blaenau eu bysedd.” Aeth yr erthygl yn ei blaen i ddweud: “Mae llawer o’r deillion yn gwerthfawrogi’n fawr y neges fod bendithion hyfryd yn dod i’r byd.”

 Pan gafodd y geiriau hynny eu hysgrifennu, roedd gan wahanol wledydd Saesneg eu hiaith wahanol systemau o braille. Ond roedd Tystion Jehofa eisoes yn cyhoeddi gwirionedd y Beibl “drwy gyfrwng dotiau cyffyrddadwy”—hynny yw, mewn braille. Ac rydyn ni’n dal wrthi! Bellach mae gynnon ni lenyddiaeth braille mewn mwy ’na 50 o ieithoedd. Sut mae mynd ati i’w chynhyrchu?

Mae grwpiau o un i chwech o ddotiau sydd wedi eu codi yn cynrychioli llythrennau. Mae’r dotiau wedi eu trefnu mewn cell chwe safle neu fatrics

Trawsgrifio a Boglynnu

 Y cam cyntaf wrth gynhyrchu braille yw trawsgrifio’r testun i lythrennau braille. “Yn y gorffennol, wnaethon ni ddefnyddio meddalwedd fasnachol i drawsgrifio braille, ond doedd y feddalwedd honno ddim yn gweithio ym mhob iaith roedden ni eu hangen,” meddai Michael Millen, sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Prosesu Testunau yn Patterson, Efrog Newydd. “Heddiw ’dyn ni’n defnyddio System Gyfieithu’r Tŵr Gwylio, sy’n cefnogi trawsgrifio braille i’r rhan fwyaf o ieithoedd y byd. Dw i ddim yn meddwl bod ’na rywbeth tebyg iddi yn unman arall.”

 Nid yn unig y mae llenyddiaeth braille yn cynnwys testun y cyhoeddiad ond disgrifiadau o’r lluniau hefyd. Er enghraifft, mae’r llun ar glawr yr argraffiad braille o Mwynhewch Fywyd am Byth! yn cael ei ddisgrifio fel hyn: “Dyn yn cerdded i lawr llwybr troellog a llystyfiant hardd, bryniau, a mynyddoedd bob ochr iddo.” Dywedodd Jamshed, gwas gweinidogaethol ac arloeswr sy’n ddall, “Mae’r disgrifiadau o’r lluniau yn werthfawr iawn imi.”

 Ar ôl eu trawsgrifio, mae’r ffeiliau yn cael eu hanfon i swyddfeydd cangen sy’n cynhyrchu cyhoeddiadau braille drwy eu boglynnu. (Boglynnu yw’r broses o gywasgu neu bwnsio dotiau ar bapur arbennig.) Yno, bydd print y cyhoeddiad yn cael ei argraffu ar bapur gwydn na fydd yn troi’n dyllau nac yn colli ei siâp o’i ddefnyddio’n aml. Nesaf, mae’r tudalennau yn cael eu casglu at ei gilydd, eu rhoi mewn rhwymiad troellog, a’u hanfon allan un ai gyda llwythi arferol ar gyfer y cynulleidfaoedd neu fel “deunydd am ddim ar gyfer y deillion,” os ydy’r gwasanaeth hwnnw ar gael gan swyddfa’r post. Pan fydd angen, gall canghennau hyd yn oed drefnu cludiant cyflym er mwyn i frodyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg gael y cyhoeddiadau y maen nhw’n eu hangen ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa.

 Mae’r holl waith yn cymryd llawer o amser ac arian. Y ffaith amdani yw, mae ein hargraffdy yn Walkill, Efrog Newydd, yn argraffu 50,000 o Feiblau yn yr un amser y mae’n cymryd i foglynnu dim ond 2 o Feiblau braille. Mae ’na 25 o gyfrolau ym mhob Beibl braille gradd dau, ac mae’r deunyddiau sydd eu hangen i gynhyrchu’r cyfrolau hynny yn costio 123 gwaith mwy na’r hyn sydd ei angen i gynhyrchu Beibl safonol. a Mae’r cloriau ar gyfer un set o 25 cyfrol yn costio tua £110!

Mae Cyfieithiad y Byd Newydd mewn braille Saesneg gradd dau yn cynnwys 25 o gyfrolau!

 Sut mae’r rhai sydd yn helpu cynhyrchu cyhoeddiadau braille yn teimlo am eu gwaith? Dywedodd Nadia, sy’n gwasanaethu yng Nghangen De Affrica: “Dydy bywyd ddim yn hawdd ar ein brodyr a’n chwiorydd dall neu sydd â nam ar eu golwg, felly dw i’n ei gweld hi’n fendith i wneud rhywbeth sy’n eu helpu. Mae’n amlwg fod Jehofa yn eu caru yn fawr iawn.”

Dysgu Darllen Braille

 Ond beth sy’n digwydd pan fydd rhywun dall yn methu darllen braille? Ychydig o flynyddoedd yn ôl, mi wnaethon ni ryddhau Learn to Read Braille, gweithlyfr sy’n cynnwys testun braille a thestun printiedig. Mae wedi ei dylunio ar gyfer rhywun sy’n gallu gweld a pherson dall gyda’i gilydd. Mae’r llyfryn yn rhan o becyn sy’n cynnwys llechen bositif a steilws. Mae’r dysgwr braille yn defnyddio’r teclynnau hyn i bwnsio pob llythyren braille drosto’i hun. Mae’r ymarferion boglynnu yn helpu’r dysgwr i gofio pob llythyren ac yn ei helpu i adnabod y llythyren drwy ei chyffwrdd.

Maen Nhw “Wedi Mynd i Ngwaed I”

 Sut mae brodyr a chwiorydd sydd yn ddall neu sydd â nam ar eu golwg wedi elwa ar y cyhoeddiadau hyn? Roedd Ernst, sy’n byw yn Haiti, yn arfer mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa, ond doedd ganddo ef ddim cyhoeddiadau braille. O ganlyniad i hyn, roedd yn gorfod dibynnu yn helaeth ar ei gof er mwyn rhoi ei aseiniadau o’r llwyfan ac wrth roi sylwadau mewn eitemau holi ac ateb. “Ond nawr,” meddai, “galla i godi fy llaw a rhoi ateb ar unrhyw adeg. Dw i wir yn teimlo’n unedig gyda’m brodyr a’m chwiorydd. ’Dyn ni i gyd yn derbyn yr un bwyd ysbrydol!”

 “Mae ein cyhoeddiadau yn haws eu darllen na chyhoeddiadau braille eraill dw i wedi eu darllen,” meddai Jan, henuriad rhannol ddall yn Awstria sy’n arwain yr astudiaeth o’r Tŵr Gwylio ac Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa. “Er enghraifft mae gynnon ni rifau tudalennau, troednodiadau sy’n hawdd cael hyd iddyn nhw, a disgrifiadau manwl o’r lluniau.”

 Mae Seon-ok, arloeswraig o Dde Corea, yn ddall ac yn fyddar. Yn y gorffennol roedd hi’n dibynnu ar arwyddo cyffyrddol, ond nawr mae hi’n gallu defnyddio llyfrau astudio’r Beibl mewn braille ar ei phen ei hun. “Gall cyhoeddiadau eraill mewn braille fod yn anodd eu darllen, oherwydd mae ’na ddotiau ar goll, mae’r llinellau’n gam, neu mae’r papur yn rhy denau,” meddai hi. “Ond mae Tystion Jehofa yn defnyddio papur o ansawdd gwell ac yn gwneud i’r dotiau sefyll allan yn fwy, sy’n gwneud hi’n haws imi eu darllen.” Aeth ymlaen i ddweud: “Yn y gorffennol, roeddwn i ond yn gallu astudio cyhoeddiadau Beiblaidd gyda help pobl eraill. Ond nawr, galla i astudio ar fy mhen fy hun. Mae gallu paratoi ar gyfer ein cyfarfodydd wythnosol a chymryd rhan lawn ynddyn nhw yn fy ngwneud i’n hapus. Dw i’n darllen pob un o’n cyhoeddiadau braille. Gallwch chi ddweud bod nhw wedi mynd i ngwaed i.”

 Fel ein llenyddiaeth brintiedig, mae ein cyhoeddiadau braille yn cynnwys y datganiad canlynol: “Ni chodir tâl am y cyhoeddiad hwn. Fe’i darperir fel rhan o waith addysgol Beiblaidd byd-eang a gefnogir gan gyfraniadau gwirfoddol.” Diolch am eich cyfraniadau caredig, drwy ddefnyddio’r dulliau a ddisgrifir ar donate.pr418.com. Mae eich haelioni yn helpu ni ddarparu bwyd ysbrydol i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.

a Mewn rhai systemau braille, mae geiriau yn cael eu talfyrru i arbed lle. Mewn braille gradd dau, er enghraifft, mae geiriau a chyfuniadau o lythrennau cyffredin yn cael eu talfyrru. Felly, mae llyfr mewn braille gradd dau yn llai na’r un llyfr mewn braille gradd un.