SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Gwaith Adeiladu sy’n Hwyluso’r Gwaith Pregethu
20 HYDREF, 2023
Mae’r Corff Llywodraethol yn awyddus i ddefnyddio cyfraniadau i ddarparu adeiladau a fydd yn ein helpu ni i bregethu am y Deyrnas. Er enghraifft, yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023, gwariodd corfforaethau sy’n cael eu defnyddio gan swyddfeydd cangen Tystion Jehofa fwy na £412 miliwn ($500 miliwn) ar brynu, adeiladu, adnewyddu, a chynnal a chadw Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad ledled y byd. a Mae’r swm hwn yn ychwanegol i’r arian a wariwyd gan gynulleidfaoedd unigol ledled y byd i ofalu am eu Neuaddau’r Deyrnas.
Hefyd, mae cyfraniadau’n cael eu defnyddio i adeiladu a chynnal a chadw swyddfeydd cangen, sy’n helpu i drefnu a chefnogi’r gwaith pregethu drwy’r byd. Rydyn ni wedi symleiddio llawer o’r gwaith mewn swyddfeydd cangen er mwyn medru defnyddio’r arian i gefnogi’r gwaith o adeiladu ac atgyweirio Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad. Ond mae angen o hyd am adnoddau i atgyweirio, ail-lunio, neu symud swyddfeydd cangen. Pam mae’r prosiectau hyn yn bwysig? Sut mae swyddfeydd cangen yn cefnogi’r gwaith yn y maes? Dewch inni weld.
“Ymestyn Bywyd Adeiladau”
Mae 30 neu 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i rai o’n swyddfeydd cangen gael eu hadeiladu. Dywed Nicholas, sy’n gweithio gyda’r Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang: “Mae hyd yn oed adeiladau sydd wedi eu cynnal a’i chadw’n dda yn dirywio dros amser. Mae gwaith adnewyddu yn gallu ymestyn bywyd adeiladau er mwyn inni barhau i’w defnyddio.”
Mae angen addasu adeiladau Bethel hefyd er mwyn dal i fyny ag anghenion y gyfundrefn. Ledled y byd, mae’r nifer o gyhoeddwyr wedi tyfu’n sylweddol ers inni godi llawer o’n swyddfeydd cangen. I ymdopi â’r twf, bu angen mwy o wirfoddolwyr i weithio yn y swyddfeydd hyn. O ganlyniad, mae swyddfeydd a oedd ar un adeg yn addas bellach yn orlawn!
Diogelwch yw ffactor arall. Wrth i’r dyddiau olaf fynd yn eu blaen, rydyn ni’n wynebu mwy o drychinebau naturiol a all beryglu bywydau. (Luc 21:11) Drwy ddefnyddio’r dulliau adeiladu diweddaraf i adnewyddu adeiladau, rydyn ni’n eu gwneud nhw’n llawer mwy diogel i’r rhai sy’n gweithio yno. Mae hyn hefyd yn golygu bod yr adeiladau’n fwy addas i’w defnyddio fel canolfannau i drefnu cymorth ar ôl trychinebau ac i barhau i gefnogi’r gwaith yn y maes.
“Mae Jehofa Wedi Bendithio’r Penderfyniad”
O dan arweiniad y Corff Llywodraethol, cafodd gwaith adeiladu sylweddol ei wneud ar 43 o swyddfeydd cangen yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023. Mae hyn yn golygu bod gwaith adeiladu yn digwydd mewn bron i hanner y swyddfeydd cangen drwy’r byd. Dyma rai enghreifftiau sy’n dangos pa mor werthfawr yw’r gwaith.
Angola. Mae Matt, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen yn Angola yn dweud: “Mae wedi bod yn fraint inni weld geiriau’r broffwydoliaeth yn Haggai 2:7 yn dod yn wir. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, gwelon ni gynnydd o 60 y cant yn y nifer o gyhoeddwyr! Er mwyn eu cefnogi, roedd angen tair gwaith y nifer o bobl yn y teulu Bethel. Ond oherwydd diffyg lle, nid oedd yn bosib inni wahodd digon o bobl i weithio yma. O ganlyniad, roedd yn rhaid i lawer yn y teulu Bethel weithio’n galed iawn ac am fwy o oriau.”
Gofynnwyd i’r brodyr edrych am ffyrdd i ehangu’r gangen er mwyn cwrdd â’r angen. Ar y dechrau, roedden nhw’n teimlo y byddai adnewyddu’r swyddfeydd a oedd yno’n barod yn gyflymach ac yn fwy ymarferol. Ond ar ôl ymchwilio’r prosiect yn ofalus, daethon nhw i’r casgliad nad dyna oedd y ffordd orau i ddefnyddio cyfraniadau. Yn lle hynny, eu cyngor oedd y dylid prynu ac adnewyddu adeilad arall gerllaw. “Ar y dechrau, roedd Pwyllgor y Gangen yn poeni na fyddai’r adeilad hwnnw cystal ag un roedden ni’n ei adeiladu ein hunain,” meddai Matt. “Ond nawr rydyn ni’n gweld bod yr adeilad yn ein siwtio ni i’r dim. Mae Jehofa wedi bendithio’r penderfyniad.”
Yn y dyfodol, mae’n debyg y bydd angen mwy o le ar y gangen yn Angola. Ond mae’r adeilad newydd, ynghyd â llety y bydd modd ei addasu yn y dyfodol, a fflatiau wedi eu rhentu ar safle arall, wedi creu digon o le i’r gangen barhau i gefnogi’r twf aruthrol yn y maes.
Japan. Cafodd y prif adeiladau eu codi bron i 40 mlynedd yn ôl, ac nid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu hadnewyddu’n sylweddol ers hynny. Er bod y brodyr wedi gweithio’n galed i’w cynnal a chadw, roedd yr adeiladau wedi hen ddod at ddiwedd eu hoes ddefnyddiol. Dyna pam mae prosiect adnewyddu helaeth ar y gweill.
Dros y blynyddoedd mae bywyd Bethel hefyd wedi newid. Cyn 2015, roedd y teulu Bethel yn cael pob pryd o fwyd gyda’i gilydd mewn ffreutur a dim ond ceginau bach iawn oedd yn yr ystafelloedd preswyl. Heddiw, mae’r brodyr a chwiorydd yn paratoi’r rhan fwyaf o’u bwyd eu hunain. Felly mae eu hystafelloedd wedi eu hadnewyddu i gynnwys cegin well lle mae paratoi bwyd yn haws. Mae chwaer o’r enw Kumiko, sydd yn gwasanaethu yn y Bethel yn Japan yn dweud: “Mae’r gegin yn gwneud imi deimlo’n fwy cartrefol, ac mae’n fy helpu i gefnogi’r trefniadau newydd yn y Bethel.”
Mae gwaith y gangen yn Japan yn rhan allweddol o’r gwaith byd-eang. (Mathew 28:19, 20) Mae Japan yn un o’r ddwy gangen yn unig sy’n argraffu’r Beibl cyfan. Felly un rhan o’r gwaith adeiladau sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yw gosod system tocio ymylon llyfrau sydd hefyd yn casglu’r llwch er mwyn diogelu pawb sy’n gweithio yn yr Argraffdy. Mae prynu a gosod y system hon wedi costio bron i £830,000 ($1 miliwn), ond mae’n sicrhau bod y gangen yn gallu parhau i argraffu a dosbarthu cyhoeddiadau, a Beiblau’n enwedig, sy’n cryfhau ein ffydd.
Roedd y gwaith o argraffu Beiblau’n flaenoriaeth yn ystod y prosiect adeiladu. Dywed Trey, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen yn Japan: “Yn ystod y prosiect adeiladu, roedd ein cyfundrefn yn argraffu mwy o gyfieithiadau o’r Beibl, ac roedd y galw am Feiblau yn cynyddu ledled y byd. Roedd yn rhaid i adrannau Bethel gydweithio’n ofalus gyda’r contractwyr er mwyn gosod yr offer newydd heb amharu ar y gwaith argraffu.” Ond er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, roedd bron i 220,000 o Feiblau’n cael eu hargraffu bob mis rhwng mis Mawrth a mis Awst 2023—pan oedd y gwaith adeiladu ar ei anterth. Cafodd yr holl waith ei wneud heb i’r gost godi.
Rhan allweddol arall o’r prosiect yw arbed ynni. Byddwn ni’n gosod paneli solar newydd, a fydd yn arbed tua £99,000 ($120,000) bob blwyddyn, a ffenestri gwydr triphlyg a fydd hefyd yn arbed tua £8,200 ($10,000) y flwyddyn. Bydd y camau hyn yn ychwanegu at gost y prosiect adnewyddu, ond rydyn ni’n amcangyfrif y byddan nhw’n arbed mwy na £2.9 miliwn ($3.5 miliwn) dros oes y paneli a’r ffenestri. Byddan nhw hefyd yn lleihau effaith yr adeiladau ar yr amgylchedd.
“Mae Llawer Eto i’w Wneud”
Mae’r ddau brosiect hyn yn dangos faint o waith sydd ei angen er mwyn sicrhau bod ein swyddfeydd cangen yn medru diwallu anghenion y maes. Ond nid yw’r gwaith wedi gorffen. “Mae llawer o waith wedi ei wneud, ond mae llawer eto i’w wneud,” meddai Aaron, o’r Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang. Sut bydd y gwaith yn cael ei gyflawni? Mae Aaron yn dweud: “Yn ogystal â’r cyfraniadau hael sy’n helpu i ariannu’r prosiectau pwysig hyn, rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gwirfoddoli yn y gorffennol, ac i bawb sy’n trefnu eu bywydau er mwyn bod ar gael ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Mae cefnogaeth ein brodyr, yn gorfforol ac yn ariannol, yn profi bod Jehofa’n bendithio ein gwaith.”—Salm 110:3.
Cyfraniadau gwirfoddol sy’n cefnogi’r holl waith adeiladu ac adnewyddu rydyn ni’n ei wneud. Mae llawer o’r cyfraniadau hyn yn cael eu gwneud drwy donate.pr418.com. Diolch o’r galon am eich haelioni parhaol.
a Cyfeiria pob swm mewn doleri yn yr erthygl hon at ddoleri UDA.