Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Gwneud Neuaddau’r Deyrnas yn Saff yn Ystod COVID-19

Gwneud Neuaddau’r Deyrnas yn Saff yn Ystod COVID-19

HYDREF 1, 2022

 “Mae’r Corff Llywodraethol wedi penderfynu annog pob cynulleidfa i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb eto o wythnos Ebrill 1 ymlaen, cyn belled â bod cyfyngiadau’r llywodraeth leol yn caniatáu hynny.” Roedd Tystion Jehofa ledled y byd wrth eu boddau i weld y cyhoeddiad hwn ar jw.org yn fuan ym mis Mawrth 2022. Ond doedd y pandemig COVID-19 heb orffen eto. a Pa newidiadau, offer, a nwyddau oedd eu hangen er mwyn amddiffyn y rhai byddai’n mynd i’r cyfarfodydd rhag y feirws? Ac ar ôl tua dwy flynedd heb gyfarfod wyneb yn wyneb, a fyddai Neuaddau’r Deyrnas yn barod?

 Wel, roedd ein brodyr wedi bod yn paratoi am fisoedd o flaen llaw er mwyn ail gychwyn cyfarfodydd yn Neuaddau’r Deyrnas.

Anghenion Gwahanol, Atebion Gwahanol

 Dim ond tua mis ar ôl inni stopio cyfarfod wyneb yn wyneb yn 2020, gwnaeth yr Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang (WDC) yn Warwick, Efrog Newydd, ddechrau gweithredu. Gwnaethon nhw ddechrau meddwl yn ofalus am sut byddai COVID-19 yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio Neuaddau’r Deyrnas, a beth fydd rhaid inni ei wneud er mwyn gwneud nhw’n saff inni gyfarfod gyda’n gilydd unwaith eto.

 Roedd gwahanol ardaloedd o gwmpas y byd angen gwahanol bethau. Dyma ddywedodd Matthew De Sanctis, sy’n gweithio gyda’r WDC: “Mewn rhai gwledydd, yr her ydy cael rhywle addas i olchi dwylo. Yr unig ffordd i gael dŵr i rai Neuaddau ydy drwy ei brynu, neu ei gario o afon leol neu ffynnon. Mewn llefydd eraill, mae’r llywodraethau wedi addasu’r gofynion ynglŷn ag aerdymheru, awyriad, ac arwyddion iechyd a hylendid.”

 Sut gwnaeth ein brodyr drechu’r heriau hynny? Roedden nhw’n gallu datrys problemau tebyg mewn llawer o Neuaddau’r Deyrnas mewn ffordd “syml, rhad, ac effeithiol,” meddai Matthew. Er enghraifft, yn Papwa Gini Newydd, gwnaethon nhw greu mannau golchi dwylo syml gan ddefnyddio bwcedi plastig 20 litr (4.3 galwyn) oedd â thap arnyn nhw. Roedd hynny’n golygu bod ein brodyr ond yn gorfod gwario tua $40 (UDA) er mwyn paratoi Neuaddau’r Deyrnas mewn ardaloedd gweledig. Ar gyfer Neuaddau’r Deyrnas yn Affrica, cafodd dros 6,000 o fannau golchi dwylo o safon uchel eu prynu oddi wrth gyflenwr yn Asia.

Gosododd rhieni esiampl dda i’w plant ynglŷn â hylendid

 Roedd hefyd angen gosod neu addasu ffaniau a pheiriannau awyru er mwyn gwella llif aer mewn llawer o Neuaddau’r Deyrnas. Gwnaeth llawer o gynulleidfaoedd brynu polion hir ar gyfer y meicroffonau, fel nad oedd angen i bawb cyffwrdd arnyn nhw. Gwnaethon nhw hefyd drefnu i leihau mannau cyffwrdd, fel tapiau a handlenni drws, a’u diheintio nhw yn aml. Mae rhai cynulleidfaoedd hyd yn oed wedi gosod tapiau gyda sensor arnyn nhw, sy’n dod ymlaen yn awtomatig yn eu tai bach. Yn Tsile, gwnaeth y newidiadau angenrheidiol gostio tua $1,400 (UDA) i bob Neuadd y Deyrnas.

Chafodd y meicroffonau ddim eu pasio rhwng pawb

 Er mai gwneud Neuaddau’r Deyrnas yn saff oedd blaenoriaeth y brodyr, gwnaethon nhw hefyd drio gwneud y defnydd gorau o’r arian oedd wedi cael ei gyfrannu. Er enghraifft, mewn rhai gwledydd, gwnaethon nhw fanteisio ar help gan y llywodraeth i dalu am fannau golchi dwylo a pholion ar gyfer y meicroffonau. Gwnaeth swyddfeydd Cangen gyd-weithio i arbed arian drwy brynu swmp fwy nag arfer o nwyddau. Ac yn aml, roedd y Canghennau a’r Adran Brynu Byd-Eang yn trefnu prynu pethau oddi wrth gynhyrchwyr yn uniongyrchol. Drwy wneud hynny, gwnaethon nhw nid yn unig leihau’r gost, ond hefyd yr amser danfon.

Safle diheintio

‘Gwneud imi Deimlo’n Saff’

 Mae’r holl ymdrechion i wneud Neuaddau’r Deyrnas yn saff wedi amddiffyn y rhai sydd wedi mynd yn ôl i’r cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac wedi tawelu eu meddyliau. Gwnaeth Dulcine, chwaer ym Mheriw, cyfaddef bod ganddi “ychydig o ofn” o glywed y bydd Neuaddau yn agor unwaith eto. “Wnes i ddal COVID-19 yn nyddiau cynnar y pandemig,” meddai. “Felly o’n i’n poeni am fynd yn ôl i’r Neuadd, gan wybod y byddai’n bosib imi ddal y feirws eto. Ond, unwaith imi gyrraedd y Neuadd, wnes i sylwi gymaint oedd yr henuriaid wedi ei wneud i’n cadw ni’n saff, fel gosod mannau diheintio dwylo, defnyddio polion ar gyfer y meicroffonau, a threfnu i’r Neuadd cael ei glanhau cyn ac ar ôl pob cyfarfod. Dyna’n union beth o’n i ei angen i wneud imi deimlo’n saff!” b

Glanhau Neuadd y Deyrnas

 Wynebodd Sara, chwaer yn Sambia, her wahanol. “Bu farw fy nghwr rhai misoedd yn ôl oherwydd COVID-19. Felly o’n i’n poeni sut byddwn i’n teimlo am fynd i gyfarfod wyneb yn wyneb hebddo am y tro cyntaf.” Ond sut mae hi’n teimlo bellach? “Mae’r cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi fy ngwneud i’n fwy sicr byth bod Jehofa gyda ni yn y dyddiau diwethaf ’ma. Nawr, yn fwy nag erioed, dw i’n teimlo cefnogaeth a chariad yr henuriaid a fy mrodyr a chwiorydd.”

Hapus i gyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto

 Mae brodyr a chwiorydd ledled y byd wedi gwirioni am eu bod nhw’n gallu cyfarfod yn Neuaddau’r Deyrnas unwaith eto. Mae’r rhan fwyaf o’ch cyfraniadau wedi dod trwy donate.pr418.com. Diolch yn fawr iawn amdanyn nhw! Maen nhw wedi gwneud hi’n bosib i’r Neuaddau bod yn llefydd cyffyrddus a diogel i gyfarfod.

a Lle bynnag oedd hi’n bosib, roedd y rhai a oedd angen ymuno â chyfarfod drwy fideo-gynadledda neu dros y ffôn yn gallu gwneud hynny.

b Roedd ’na hefyd anogaeth gryf i wisgo mwgwd yn y cyfarfodydd.