Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Llyfrgell yng Nghledr Eich Llaw

Llyfrgell yng Nghledr Eich Llaw

MEDI 1, 2021

 “Tan yn ddiweddar pwy fyddai wedi dychmygu cael ei lenyddiaeth ysbrydol yn ddigidol.” Allwch chi uniaethu â’r geiriau hynny? Roedden nhw’n rhan o anerchiad anogol gan Geoffrey Jackson yn Diweddariad #6 gan y Corff Llywodraethol 2020. Aeth ymlaen i ddweud: “Ac eto heddiw, mae’n debyg ein bod yn meddwl sut bydden ni wedi ymdopi yn y pandemig hwn heb adnoddau fel JW Library. Mae Jehofa wedi bod yn ein paratoi ni ers blynyddoedd i fod yn barod am rywbeth fel hyn.”

 Sut mae Jehofa wedi bod yn ein paratoi ni? Pa waith oedd ynghlwm wrth greu’r ap JW Library, a beth sydd ei angen i’w gynnal a’i wella?

Y Cyntaf o’i Fath

 Ym Mai 2013, gofynnodd y Corff Llywodraethol i’r adran Rhaglennu MEPS, sydd yn y pencadlys, i ddatblygu ap a fyddai’n cynnwys y fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd. “Hyd hynny, doedden ni ddim wedi rhyddhau ap symudol ar unrhyw un o’r siopau apiau,” meddai Paul Willies, sy’n gweithio gyda Rhaglennu MEPS. “Gwnaethon ni roi tîm at ei gilydd, stopio gweithio ar ambell i brosiect, a gweithio i gynllunio ac adeiladu’r ap a’i gynnwys. Wnaethon ni weddïo’n aml, a gyda chymorth Jehofa cafodd yr ap ei ryddhau yn y cyfarfod blynyddol cwta pum mis wedyn!”

 Yr her nesaf oedd troi’r ap mewn i lyfrgell go iawn gyda detholiad ehangach o gyhoeddiadau ac ieithoedd. Erbyn Ionawr 2015, roedd rhan fwyaf o’n cyhoeddiadau Saesneg diweddar ar gael ar yr ap, a dim ond chwe mis yn ddiweddarach, roedd cyhoeddwyr yn gallu lawrlwytho’r cyhoeddiadau hynny mewn cannoedd o ieithoedd eraill.

 Ers hynny, mae ein brodyr wedi gwella’r ap mewn sawl ffordd, drwy ychwanegu fideos, rhoi cyhoeddiadau a chyfryngau ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa o dan un tab, gan ganiatáu i ddefnyddwyr cael mynediad at gyfeiriadau yn Llawlyfr Cyhoeddiadau yn syth, drwy glicio ar unrhyw adnod yn y Beibl.

Cynnal y Llyfrgell

 Mae JW Library yn cael ei agor ar 8 miliwn o ddyfeisiau bob diwrnod ac ar 15 miliwn o ddyfeisiau bob mis! Beth sydd ei angen i gadw’r ap yn rhedeg yn ddidrafferth ar y dyfeisiau hynny? Mae’r Brawd Willies yn esbonio: “Mae diweddaru’r ap yn broses ddiddiwedd. ’Dyn ni wastad yn gweithio i ychwanegu nodweddion newydd a fydd yn gwneud yr ap yn fwy defnyddiol. Gan fod y systemau gweithredu masnachol ar gyfer dyfeisiau digidol yn cael eu diweddaru’n aml, mae’n rhaid inni addasu’r ap trwy’r amser er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gallu parhau i weithio gyda’r system ddiweddaraf. Hefyd, mae’n rhaid inni gynnal ac uwchraddio ein meddalwedd mewnol oherwydd mae nifer y cyhoeddiadau a recordiadau ar JW Library yn parhau i gynyddu.” Os ydyn ni’n cyfri pob fersiwn iaith, mae ’na tua 200,000 o gyhoeddiadau a thros 600,000 o recordiadau sain a fideo ar gael ar JW Library!

 Er mwyn cynnal yr ap, mae angen mwy na chaledwedd cyfrifiadurol. Mae rhaid prynu sawl trwydded meddalwedd hefyd. Mae un drwydded yn unig yn costio ychydig dros £1,000 y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae Rhaglennu MEPS yn gwario tua £7,000 bob blwyddyn ar ddyfeisiau gwahanol wneuthurwyr i wneud yn siŵr bob yr ap yn parhau i weithio’n ddidrafferth ar gyfrifiaduron, tabledi, a ffonau newydd.

Lawrlwythiadau Sy’n Arbed Arian

 Oherwydd JW Library mae llawer llai o arian yn cael ei wario ar argraffu, rhwymo, a chludo llenyddiaeth. Er enghraifft, ystyriwch y llyfryn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd. Gwnaethon ni argraffu bron i 12 miliwn o Chwilio’r Ysgrythurau—2013. Ond ar gyfer argraffiad 2020, gwnaethon ni argraffu pum miliwn o lyfrynnau yn unig—er bod gynnon ni bron i 700,000 mwy o gyhoeddwyr yn fyd-eang. Pam y gwahaniaeth? Mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn darllen testun y dydd ar JW Library. a

“Mae’n Wirioneddol Amhrisiadwy”

 Mae JW Library hefyd yn helpu ei ddefnyddwyr mewn llawer o ffyrdd eraill. Mae Geneviève sy’n byw yng Nghanada, yn teimlo bod yr ap wedi gwneud iddi astudio yn fwy rheolaidd. “A dweud y gwir, petaswn i’n gorfod tynnu pentwr o lyfrau allan i astudio, dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n astudio bob bore,” meddai hi. “Ond gyda’r ap, dw i’n codi fy nhabled ac mae popeth dw i angen yno o mlaen i. Mae’r astudiaeth reolaidd wedi cryfhau fy ffydd ac wedi gwneud imi glosio’n nes at Jehofa.”

Geneviève

 Mae’r ap wedi bod yn hynod o ddefnyddiol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Charlyn, o’r Unol Daleithiau, yn esbonio: “Gyda COVID-19 yn rhemp o gwmpas y byd, dydw i ddim wedi gweld ein cyhoeddiadau printiedig newydd ers dros flwyddyn. Ond mae JW Library wedi cadw ni’n gryf yn ysbrydol, a dw i’n diolch i Jehofa am y ddarpariaeth gariadus hon.”

 Mae Faye, sy’n byw yn Ynysoedd y Philipinau, yn mynegi sut mae hi a llawer o bobl eraill yn teimlo. “Mae fy holl fywyd a rwtîn ysbrydol wedi ei integreiddio mewn un ap pwerus. Dyma beth dw i’n ei ddarllen peth cyntaf bob bore. Dyma beth dw i’n gwrando arno wrth wneud fy ngwaith tŷ. Dyma beth dw i’n ei ddefnyddio i astudio ar gyfer y cyfarfod. Dyma beth dw i’n ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer fy astudiaeth Feiblaidd. Dw i’n gwylio fideos arno pan fydd gen i amser rhydd. Byddaf yn darllen erthyglau neu’r Beibl arno pan fydda i mewn ciw yn aros am rywbeth. Mae’n wirioneddol amhrisiadwy.”

 Mae’r ap wedi profi’n werthfawr iawn ar y weinidogaeth. Er enghraifft, wrth bregethu roedd chwaer yn Camerŵn eisiau defnyddio adnod roedd hi wedi gweld chwaer arall yn ei defnyddio ychydig o wythnosau ynghynt. Ond, doedd hi ddim yn cofio lle i gael hyd i’r adnod. Mae hi’n esbonio: “Yn ffodus, mi gofiais i un ymadrodd o’r adnod. Agorais i’r ap, mynd at y Beibl, a chwilio am yr ymadrodd. Ces i hyd i’r ymadrodd ar unwaith. Drwy ddefnyddio’r ap, fydda i’n gallu cael hyd i lawer o adnodau y bydda i weithiau yn eu hanghofio.”

 Diolch i’ch cyfraniadau caredig, drwy ddefnyddio’r dulliau a ddisgrifir ar donate.pr418.com, rydyn ni wedi gallu datblygu, cynnal, a gwella’r ap JW Library i’n brodyr a’n chwiorydd o gwmpas y byd. Diolch am eich haelioni.

Cerrig milltir JW Library

  1. Hydref 2013—Rhyddhau’r ap yn cynnwys Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig

  2. Ionawr 2015—Cyhoeddiadau eraill ar gael yn Saesneg ac wedyn cannoedd o ieithoedd eraill

  3. Tachwedd 2015—Ychwanegu’r nodwedd aroleuo geiriau

  4. Mai 2016—Ychwanegu’r tab Cyfarfodydd

  5. Mai 2017—Ychwanegu’r nodwedd cymryd nodiadau

  6. Rhagfyr 2017—Ychwanegu cymorth ar gyfer y Beibl Astudio

  7. Mawrth 2019—Ychwanegu’r gallu i lawrlwytho recordiadau sain, i ffrydio fideo, ac i gael mynediad at gyfeiriadau Llawlyfr Cyhoeddiadau

  8. Ionawr 2021—Ychwanegu gwelliannau ar gyfer Mwynhewch Fywyd am Byth!

a Mae pob lawrlwythiad oddi ar JW Library yn costio swm bach o arian. Er enghraifft, flwyddyn ddiwethaf, gwnaethon ni wario dros £1 miliwn i ddarparu ffrydio a lawrlwythiadau oddi ar jw.org ac ar gyfer yr ap. Eto, mae’n rhatach o lawer i lawrlwytho cyhoeddiadau digidol a recordiadau nag y mae hi i gynhyrchu a dosbarthu llenyddiaeth, cryno-ddisgiau, a DVDs.