Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Mae Sianel Loeren Tystion Jehofa yn Cyrraedd Lle Mae’r Rhyngrwyd yn Methu

Mae Sianel Loeren Tystion Jehofa yn Cyrraedd Lle Mae’r Rhyngrwyd yn Methu

EBRILL 1, 2021

 Bob mis, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at raglenni ysbrydol a fideos ar JW Broadcasting. Ond, mae llawer o’n brodyr yn Affrica yn methu cael mynediad at y rhaglenni hyn ar y Rhyngrwyd. Pam?

 Mae mynediad at y Rhyngrwyd yn gyfyngedig mewn llawer o lefydd yn Affrica. A hyd yn oed lle mae mynediad ar gael, yn aml mae’n araf neu’n ddrud iawn. Er enghraifft, aeth arolygwr cylchdaith ym Madagasgar ati i lawrlwytho un rhaglen fisol o JW Broadcasting mewn caffi Rhyngrwyd. Cafodd fil am £11, sy’n fwy na chyflog wythnos i rai pobl!

 Er gwaethaf yr anawsterau hyn, bellach gall miliynau yn Affrica fwynhau JW Broadcasting heb ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Sut?

 Ers 2017, mae JW Broadcasting ar gael i’r rhai sy’n byw yn Affrica Is-Sahara drwy gyfrwng sianel deledu lloeren. Mae’r sianel hon yn cael ei darlledu yn rhad ac am ddim, drwy’r dydd, bob dydd, mewn 16 o ieithoedd.

Brodyr ym Mosambîc yn addasu derbynnydd sianel loeren Tystion Jehofa yn eu Neuadd y Deyrnas, 2018

 I gyflawni hyn, mae gan Dystion Jehofa gytundeb â gwasanaeth deledu i ddarlledu rhaglenni drwy loeren. Mae’r lloeren sy’n cael ei defnyddio yn cyrraedd rhyw 35 o wledydd yn Affrica Is-Sahara. Mae’r cytundeb yn costio mwy nag £8,000 y mis. O dro i dro, bydd swm ychwanegol yn cael ei dalu er mwyn darlledu digwyddiadau byw ar sianel wahanol. Fel hyn mae miloedd yn medru mwynhau cynadleddau neu raglenni arbennig pan fydd ’na ymweliad i’r gangen.

Grŵp Dylunio ac Adeiladu o dan Gangen Malawi yn gwylio sianel loeren Tystion Jehofa, 2018

 Mae llawer o bobl, gan gynnwys rhai sydd ddim yn Dystion, yn gwylio sianel loeren Tystion Jehofa ar deledu gartref. Ond, mae nifer o’n brodyr yn methu fforddio prynu’r offer sydd ei angen i wylio’r sianel loeren. Felly i’w helpu, mae dros 3,670 o Neuaddau’r Deyrnas wedi cael offer derbyn lloeren er mwyn i’r brodyr a chwiorydd allu gwylio JW Broadcasting yno. Mae’r offer, gan gynnwys cludiant, yn costio tua £50 os oes gan Neuadd y Deyrnas deledu neu daflunydd yn barod. Fel arall gall yr offer angenrheidiol gostio hyd at £375.

 Mae ein brodyr a chwiorydd yn gwerthfawrogi’r sianel yn fawr iawn. Dywedodd henuriad yn Camerŵn: “Mae fel manna yng nghanol yr anialwch ar gyfer ein teulu ni.” Dywedodd brawd o Nigeria o’r enw Odebode: “’Dyn ni’n gwylio’r sianel fel teulu dair gwaith yr wythnos. Mae’r plant bob amser yn edrych ymlaen at yr adegau hynny. Maen nhw hyd yn oed yn gofyn inni newid drosodd i sianel Tystion Jehofa ar adegau eraill.“ Mae Rose sydd hefyd yn byw yn Nigeria yn dweud: “O’n i’n gaeth i’r sianel newyddion gynt ond bellach dw i’n hapus i ddweud fy mod i nawr yn gwylio’r sianel loeren Tystion Jehofa yn ei lle. Wrth wylio’r newyddion, byddwn i’n cynhyrfu’n hawdd gan yr hyn o’n i’n ei weld a byddai fy mhwysau gwaed yn codi. Ond mae JW Broadcasting yn ddigynnwrf, mor heddychlon ac adeiladol! Dyma fy hoff sianel. Mae’n fendith fawr gan Jehofa.”

Teulu ym Malawi yn gwylio fideo ar gyfer plant ar ein sianel loeren

 Dywedodd arolygwr cylchdaith ym Mosambîc fod Neuaddau’r Deyrnas yn ei gylchdaith wedi cael offer i dderbyn sianel loeren. Mae brodyr yn y cynulleidfaoedd hyn yn cyrraedd awr neu fwy cyn y cyfarfod i wylio JW Broadcasting drwy gyfrwng lloeren.

Cynulleidfa yn Ethiopia yn mwynhau rhaglen JW Broadcast heb ddefnyddio’r Rhyngrwyd, 2018

 Cafodd y sianel hon ei ddefnyddio ar gyfer cynhadledd ryngwladol 2019 yn Ne Affrica. Cafodd y prif anerchiadau, gan gynnwys y rhai a gafodd eu traddodi gan aelod o’r Corff Llywodraethol, eu trosglwyddo i naw lleoliad arall. Dywedodd Sphumelele, o’r Adran Ddarlledu leol yng nghangen De Affrica: “O’r blaen bydden ni wedi gorfod darlledu’r anerchiadau dros y Rhyngrwyd. Ond mae hyn yn gofyn am gysylltiad sefydlog â’r We a thalu costau data. Roedd sianel loeren Tystion Jehofa yn fwy cost effeithiol a dibynadwy.”

 Diolch i’ch cyfraniadau gwerthfawr i’r gwaith byd-eang, mae llawer o’n brodyr a chwiorydd yn Affrica yn gallu gwylio JW Broadcasting drwy gyfrwng lloeren. Gwerthfawrogwn y cyfraniadau rydych chi wedi eu gwneud drwy’r gwahanol ddulliau ar donate.pr418.com.