Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Newyddion Dibynadwy i Gryfhau Ein Ffydd

Newyddion Dibynadwy i Gryfhau Ein Ffydd

RHAGFYR 1, 2021

 Mae gan Dystion Jehofa ddiddordeb mawr yn eu cyd-gredinwyr. (1 Pedr 2:17) Mae llawer ohonon ni yn teimlo fel y mae Tannis, chwaer sy’n byw yng ngwlad Cenia. Meddai hi, “Dw i wrth fy modd yn gwybod beth sy’n digwydd i fy annwyl frodyr a chwiorydd o gwmpas y byd.” Sut mae Tannis a miliynau o Dystion eraill yn gwybod beth sy’n digwydd? Ers 2013, rydyn ni wedi gallu troi at Ystafell Newyddion ein gwefan, jw.org.

 Mae gan yr Ystafell Newyddion adroddiadau dibynadwy am Dystion Jehofa ar bynciau fel lansiadau Beiblau, gwaith cymorth ar ôl trychineb, prosiectau adeiladu, a digwyddiadau pwysig eraill. Mae’n gadael inni wybod pan fydd ein brodyr a’n chwiorydd yn cael eu carcharu oherwydd eu ffydd. Cawn wybod hefyd am brofiadau calonogol o’n hymgyrchoedd pregethu a dathlu’r Goffadwriaeth. Pwy sy’n gwneud yr ymchwil ar gyfer yr erthyglau newyddion, a sut maen nhw’n cael eu paratoi?

Gwneud Adroddiadau Newyddion

 Mae’r Ystafell Newyddion yn cael ei reoli gan Swyddfa Gwybodaeth i’r Cyhoedd. Lleolir yr adran yn y pencadlys ac mae’n dod o dan ofal Pwyllgor Cydlynwyr y Corff Llywodraethol. Mae mwy na 100 o frodyr a chwiorydd yn gweithio i’r Swyddfa Wybodaeth—llawer ohonyn nhw yn wirfoddolwyr yn y maes—gan gynnwys ysgrifenwyr, ymchwilwyr, artistiaid gweledol, a chyfieithwyr. Mae eraill yn gweithio fel cyswllt ar gyfer swyddogion llywodraethau, academyddion, a’r wasg. Mae’r Swyddfa Wybodaeth yn derbyn cymorth gan dros 80 o Ddesgiau Gwybodaeth i’r Cyhoedd mewn canghennau o gwmpas y byd.

 I baratoi eitem newyddion, mae’r Swyddfa Wybodaeth yn gweithio’n agos gyda’r Desgiau Gwybodaeth. Unwaith bydd ein brodyr yn clustnodi hanes sy’n werth ei hadrodd, byddan nhw’n mynd ati i wneud ymchwil ar y pwnc a hel manylion dibynadwy amdano. Gall hyn cynnwys trefnu cyfweliadau a siarad gydag arbenigwyr. Ar ôl iddyn nhw hel y ffeithiau, maen nhw’n mynd ati i ysgrifennu’r erthygl, ei holygu, ei phrawf-ddarllen, ychwanegu lluniau ati, a’i hanfon at Bwyllgor y Cydlynwyr iddyn nhw ei chymeradwyo.

Geiriau o Ddiolch

 Sut mae ein cyd-addolwyr yn teimlo am yr Ystafell Newyddion? Dywedodd Cheryl, chwaer yn Ynysoedd y Philipinau, “Dw i wrth fy modd cael dechrau fy niwrnod yn darllen newyddion am gyfundrefn Jehofa a’i bobl.”

 Mae llawer o ddarllenwyr yn siarad am y gwahaniaeth maen nhw’n ei gweld rhwng Ystafell Newyddion jw.org a gwasanaethau newyddion eraill. Mae Tatiana, yn Casachstan, yn dweud: “Dw i’n gwerthfawrogi’r ffaith mod i’n gallu trystio’r newyddion ar jw.org. Mae’n ddibynadwy ac yn cadw at y ffeithiau.” Mae chwaer ym Mecsico o’r enw Alma yn dweud: “O’i gymharu â’r newyddion drwg o’r Wasg draddodiadol, mae’r Ystafell Newyddion yn galonogol dros ben.”

 Nid yn unig y mae’r Ystafell Newyddion yn ddibynadwy; ond mae’n cryfhau ein ffydd hefyd. Dywedodd Bernard yng Nghenia: “Mae’r Ystafell Newyddion wedi fy helpu i weld y brodyr a’r chwiorydd o gwmpas y byd, waeth lle maen nhw’n byw, fel rhan o nheulu fy hun. Galla i sôn am enwau a sefyllfaoedd penodol yn fy ngweddïau.” Mae chwaer o’r enw Bybron, sydd hefyd yn byw yng Nghenia, yn dweud: “Dw i wedi gwirioni gweld yr holl erthyglau am Feiblau newydd yn cael eu rhyddhau! Mae’r erthyglau hyn yn fy atgoffa nad yw Jehofa yn dangos ffafriaeth.”

Mae’r Ystafell Newyddion yn ein helpu i fod yn benodol wrth weddïo am heriau sy’n wynebu ein brodyr a’n chwiorydd o gwmpas y byd

 Gall hyd yn oed straeon am frodyr yn wynebu erledigaeth gael effaith positif. “Mae meddwl am eu dewrder wedi cryfhau fy ffydd yn fawr iawn,” meddai Jackline, yng Nghenia. “Mi fydda i bob amser yn edrych ma’s am y pethau sy’n helpu nhw i ddyfalbarhau. Dw i wedi dysgu sut mae pethau ‘syml’—fel gweddi, darllen y Beibl, a hyd yn oed canu—yn chwarae rôl bwysig wrth gadw ein brodyr yn gryf.”

 Mae chwaer yng Nghosta Rica o’r enw Beatriz yn gwerthfawrogi eitemau newyddion am drychinebau naturiol. Dywedodd hi: “Mae’r Ystafell Newyddion yn helpu fi i weld sut mae ein cyfundrefn yn edrych ar ôl anghenion ein brodyr mewn ffordd gyflym, drefnus, a chariadus. Does dim dwywaith amdani, Jehofa sy’n arwain y gyfundrefn hon.”

 Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i gael y newyddion diweddaraf am ein brawdoliaeth fyd-eang! Fyddai hyn ddim yn bosib heb eich cyfraniadau at y gwaith byd-eang. Mae llawer o’r cyfraniadau yn dod trwy donate.pr418.com. Diolch yn fawr am eich cyfraniadau hael.