Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Rhaglenni Cynhadledd Sy’n Cael Eu Gweld a’u Clywed

Rhaglenni Cynhadledd Sy’n Cael Eu Gweld a’u Clywed

1 GORFFENNAF, 2024

 Am fwy na 130 o flynyddoedd, mae Tystion Jehofa yn yr oes fodern wedi cynnal cynadleddau blynyddol. Mae rhaglenni’r cynadleddau hyn yn cynnwys mwy na 40 o anerchiadau ynghyd â cherddoriaeth, cyfweliadau, a fideos. Er mwyn i’r rhai sy’n bresennol gael budd o’r rhaglen, mae’n bwysig eu bod nhw’n gallu clywed a gweld yn glir. (Luc 2:20) Sut mae eich cyfraniadau’n helpu i sicrhau bod pawb yn mwynhau’r cynadleddau, ni waeth lle maen nhw’n byw?

Addasu Systemau Sain a Fideo ar Gyfer Pob Lleoliad Unigol

 Mewn llawer o wledydd, mae gan stadiymau a lleoliadau eraill systemau sain a fideo. Sut bynnag, pan fyddwn ni’n llogi’r lleoliadau hyn, byddwn ni yn aml yn dewis defnyddio ein hoffer ni’n hunain. Mae David, sy’n gweithio yn Adran Ddarlledu’r Pencadlys, yn esbonio pam: “Ychydig iawn o’r lleoliadau rydyn ni’n eu llogi sydd wedi eu cynllunio ar gyfer cynulleidfa sy’n gwrando ar anerchiadau am fwy na chwe awr. Bydd stadiwm chwaraeon, fel enghraifft, yn defnyddio systemau sain ar gyfer cyhoeddiadau byrion a phytiau bach o gerddoriaeth. Bydd y sgriniau fideo yn dangos y sgôr a hysbysebion, ac yn ailchwarae clipiau o’r gêm. Ond rydyn ni eisiau i’r gynulleidfa wylio fideos eithaf hir a chlywed a deall pob gair sy’n cael ei ddweud o’r llwyfan.”

 Mae pob lleoliad yn unigryw, felly mae angen addasu system sain a fideo ar gyfer pob un. Ar ôl dewis lleoliadau, mae’r Adrannau Darlledu yn ein swyddfeydd cangen yn ystyried faint o bobl fydd yn dod, faint o seddi sydd, a lle bydd pobl yn eistedd. Yna maen nhw’n penderfynu’n fathemategol lle bydd angen seinyddion a sgriniau fideo er mwyn i bawb weld a chlywed y rhaglen.

Mae brodyr o Adran Ddarlledu’r Gangen (LBD) yn dilyn cynllun pwrpasol

 Mae’r systemau sain a fideo’n fwy cymhleth byth mewn cynadleddau lle bydd y rhaglen yn cael ei darlledu mewn nifer o ieithoedd. Os ceir cyfieithu ar y pryd, mae angen i’r sain a fideo fynd at y cyfieithwyr, ac yna mae angen darlledu eu cyfieithiad ar sianel radio wahanol ar gyfer y rhai sy’n deall yr iaith honno. Diolch i chwaraewyr cyfryngau arbennig, mae modd dangos fideo i bawb ar yr un pryd, a darlledu’r sain mewn hyd at wyth o wahanol ieithoedd. “Mae’r systemau hyn yn hynod o gymhleth,” meddai David, “ac mae angen llawer o hyfforddiant ar y gwirfoddolwyr sy’n eu trin.”

 Mae’r rhan fwyaf o ganghennau yn cadw offer sain a fideo a’u defnyddio bob blwyddyn. Maen nhw’n trefnu i’r offer hyn deithio o un gynhadledd i’r un nesaf. Mae cangen yr Unol Daleithiau yn gwario mwy na $200,000 a (tua £160,000) y flwyddyn yn cludo offer o un gynhadledd i’r llall, ond mae hyn yn llai costus na phrynu offer ychwanegol ac edrych ar eu hôl. Ar ôl helpu i oruchwylio’r sain a fideo mewn cynhadledd yng Nghanada, dywedodd Steven, “Gweithiodd y tîm sain a fideo yn galed iawn i sicrhau ein bod ni wedi casglu pob darn, pob nyten, bollten, a chebl, a’u pacio’n ddiogel ar gyfer y gynhadledd nesaf.”

Prynu Offer a’u Cynnal a Chadw

 Mae llogi offer sain a fideo yn gostus, ac yn amlach na pheidio mae offer o’r fath o ansawdd isel neu heb eu cynnal a’u cadw yn iawn. Dyna pam, gan amlaf, byddwn ni’n prynu’r hyn sydd ei angen. Ar hyn o bryd, mae wal fideo LED sy’n mesur pum metr wrth dri metr (16 wrth 10 tr) yn costio tua £19,000 ($24,000), ac mae un cebl meicroffon 15-metr (50 tr) yn costio tua £16 ($20). Felly mae’r Adran Ddarlledu yn cydweithio â’r Adran Brynu er mwyn ‘cyfri’r gost’ cyn prynu offer. (Luc 14:28) Er enghraifft, faint o bobl bydd yr offer yn eu helpu? Ai prynu offer newydd yw’r ffordd orau i gwrdd â’r anghenion? A oes digon o le i storio’r offer, ac a yw’r adnoddau a’r gwirfoddolwyr ar gael i’w cadw a chynnal?

 Er mwyn ymestyn oes offer sain a fideo, ac arbed arian, byddwn ni’n gwneud atgyweiriadau electronig a mecanyddol yn rheolaidd. Byddwn ni hefyd yn cludo’r offer mewn bocsys trwm i gadw popeth yn ddiogel, ac yn atgyweirio’r bocsys hynny pan fydd angen.

Mae gwaith cynnal a chadw yn ymestyn oes offer sain a fideo.

Tystiolaeth Dda a Rhaglen Glir

 Mae ansawdd y sain a fideo yn ein cynadleddau wedi gwneud argraff ar bobl nad ydyn nhw’n Dystion Jehofa. Er enghraifft, roedd dyn sy’n gweithio i un o’r cwmnïau darlledu mwyaf y byd wedi sylwi ar safon a chynnwys ein fideos. “Roedd yn syfrdan pan sylweddolodd mai gwirfoddolwyr ac nid pobl broffesiynol oedd aelodau ein timau i gyd,” meddai Jonathan, sy’n helpu i osod a defnyddio offer sain a fideo mewn cynadleddau. “Dywedodd y byddai’n cymryd pum diwrnod i’w gwmni ef osod yr offer a osodon ni mewn diwrnod a hanner.” Mewn cynhadledd arall, dywedodd rheolwr y lleoliad, “Mae llawer o bobl broffesiynol yn y maes sain a fideo wedi bod yma, ond dw i erioed wedi gweld y math yma o broffesiynoldeb ac arbenigedd!”

Brodyr a chwiorydd yn mwynhau’r rhaglen

 Sut mae’r systemau sain a fideo yn y gynhadledd wedi eich helpu chi? Efallai rydych chi’n teimlo fel David, o Loegr, sy’n dweud: “Dw i’n 88 oed ac dw i wedi mynychu cynadleddau ar hyd fy oes. Ond nawr mae’n haws nag erioed imi ganolbwyntio ar y rhaglen. Diolch i’r fideos, mae’r holl raglen yn symud yn ei blaen yn gyflymach ac mae’r neges yn dod drosodd yn glir ac yn gyson.” Mae Micheal, sy’n byw yn Nigeria, yn dweud, “Mae’n llawer haws i’r brodyr glywed y siaradwr a gweld y fideos, felly maen nhw’n gallu canolbwyntio yn well heb golli diddordeb.”

 Pan ewch chi i’r gynhadledd “Cyhoeddwch y Newyddion Da” eleni, ystyriwch am funud faint o waith oedd ei angen i’ch helpu chi i weld a chlywed y rhaglen. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eich cyfraniadau, gan gynnwys cyfraniadau drwy donate.pr418.com, sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosib. Diolch o’r galon.

a Mae’r doleri yn yr erthygl hon yn cyfeirio at ddoleri’r Unol Daleithiau.