Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Swyddfeydd Cyfieithu Sydd o Fudd i Filiynau

Swyddfeydd Cyfieithu Sydd o Fudd i Filiynau

MAWRTH 1, 2021

 Mae mwy na 60 y cant o’n timoedd cyfieithu llawn amser yn gweithio, nid mewn swyddfeydd cangen, ond mewn swyddfeydd cyfieithu (RTO) yn y maes. Pam mae’r trefniad hwn yn dda? Pa gyfarpar sydd eu hangen ar gyfieithwyr er mwyn iddyn nhw weithio’n effeithiol mewn RTO? A sut mae lleoliad tîm cyfieithu yn effeithio ar safon ei waith?

 Mae RTO yn caniatáu i gyfieithwyr fyw ble mae llawer o bobl yn siarad eu hiaith. Mae Karin, sy’n cyfieithu i Isel Almaeneg, yn esbonio: “Ers inni symud i’r RTO yn Cuauhtémoc, Chihuahua, Mecsico, ’dyn ni wastad yn siarad Isel Almaeneg—gyda’n cyd cyfieithwyr, yn y weinidogaeth, a phan ’dyn ni’n siopa. Mae pawb o’n cwmpas yn siarad ein hiaith. ’Dyn ni’n clywed idiomau am y tro cyntaf ers talwm, a ’dyn ni wedi arfer gyda iaith bob dydd y bobl.”

 Mae James, sy’n gweithio gyda’r tîm cyfieithu Ffraffreg yn Ghana, yn cyfaddef ei fod weithiau yn colli cymdeithasu â’r teulu Bethel yn y gangen. Ond mae’n ychwanegu: “Dw i wrth fy modd yn gweithio yn yr RTO. Mae pregethu yn y iaith leol a gweld sut mae pobl yn ymateb yn cyffwrdd fy nghalon.”

 Sut mae ein brodyr yn penderfynu ble i sefydlu RTO? “Un her ’dyn ni’n ei hwynebu ydy mewn rhai lleoliadau mae’n anodd cael trydan sefydlog, dŵr, neu Rhyngrwyd sy’n ddigon da i dderbyn y ffeiliau sydd angen eu cyfieithu,” meddai Joseph, sy’n gweithio i’r Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang yn Warwick, Efrog Newydd, UDA. “Felly wrth sefydlu RTO, ’dyn ni’n edrych ar fwy nag un lleoliad lle mae’r iaith yn cael ei siarad.”

 Fel arfer, y ffordd gyflymach a rhatach yw sefydlu RTO ar safle Neuadd Cynulliad, Neuadd y Deyrnas, neu gartref cenhadon, fel bod y cyfieithwyr yn gallu cymudo yno. Os nad ydy hynny’n bosib, gall y brodyr dderbyn caniatâd i brynu fflatiau a swyddfeydd i’r cyfieithwyr fyw a gweithio ynddyn nhw. Os ydy anghenion y tîm cyfieithu yn newid, gall yr adeiladau hyn gael eu gwerthu a gall yr arian gael ei ddefnyddio lle mae ’na fwy o angen.

Wedi Eu Galluogi i Barhau â’r Gwaith

 Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, gwnaethon ni wario 13 miliwn o ddoleri (UDA) i redeg pob RTO. Mae’r timoedd yn ein swyddfeydd cyfieithu angen cyfrifiaduron, meddalwedd arbennig, y Rhyngrwyd, gwasanaethau sylfaenol, ac offer ar gyfer recordio. Er enghraifft, mae’n gallu costio tua $750 (UDA) i osod popeth cyfrifiadurol ar gyfer pob defnyddiwr. Mae cyfieithwyr yn defnyddio meddalwedd fasnachol ynghyd â Watchtower Translation System, rhaglen sy’n eu helpu nhw i drefnu’r gwaith a gwneud ymchwil yn hawdd.

 Mae cyfieithwyr hefyd wedi derbyn offer ar gyfer recordio sy’n caniatáu iddyn nhw recordio yn eu swyddfeydd. Roedd yr offer hwn yn ddefnyddiol iawn pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, achos roedd llawer o’r cyfieithwyr yn gallu cymryd yr offer adref gyda nhw a chario ymlaen i recordio eu cyfieithiadau o ddeunydd ysgrifenedig a fideos.

 Yn aml, gall gwirfoddolwyr lleol helpu drwy adolygu cyhoeddiadau sydd wedi eu cyfieithu, neu drwy wneud gwaith cynnal a chadw yn y swyddfa. “Mae llawer o gyhoeddwyr ac arloeswyr llawn amser yn cael y cyfle i weithio yma,” meddai Cristin, sy’n gwasanaethu yn yr RTO Affricaneg yn Cape Town, De Affrica.

 Mae’r gwirfoddolwyr yn mwynhau’r fraint. Mae un chwaer sy’n helpu mewn RTO yn dweud: “Mae gweithio yno yn rhoi hwb imi ac yn codi fy nghalon.” Mae rhai brodyr a chwiorydd lleol hefyd yn cael eu recordio. Mae Juana, sy’n cyfieithu i Totonac yn nhalaith Veracruz ym Mecsico, yn dweud: “Rŵan ’dyn ni’n agosach i’r trefi sy’n siarad ein hiaith, mae’n haws i fwy o frodyr a chwiorydd helpu i recordio ein cyhoeddiadau sain.”

 Ydy cael swyddfeydd yn y maes wedi gwella safon y cyfieithu? Mae llawer o’n darllenwyr yn dweud ‘ydy.’ Mae Cédric, sy’n gweithio gyda’r tîm Kongo yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, yn dweud: “Roedd rhai o’r brodyr a’r chwiorydd yn galw ein cyfieithiadau ‘Kongo y Tŵr Gwylio,’ oherwydd nad oedd yn adlewyrchu’r ffordd roedd pobl yn siarad y iaith. Ond nawr, maen nhw’n dweud bod ein cyhoeddiadau wedi cael eu cyfieithu i Kongo fodern, y ffordd mae pobl yn mynegi ei hunain bob dydd.”

 Mae Andile, sy’n gweithio gyda’r tîm Xhosa, wedi clywed pethau tebyg yn Ne Affrica. “Mae llawer yn dweud eu bod nhw wedi gweld gwahaniaeth yn y cyfieithiad,” meddai. “Mae hyd yn oed plant oedd yn arfer darllen Y Tŵr Gwylio Saesneg nawr yn ei ddarllen yn Xhosa. Maen nhw yn enwedig yn hoff iawn o ba mor naturiol yw’r New World Translation diwygiedig.”

 Mae cyfraniadau gwirfoddol i’r gwaith byd-eang, gan gynnwys y rhai ar donate.pr418.com, yn talu am gostau sefydlu a rhedeg pob RTO.