Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Y Newyddion Da yn ôl Iesu​—Tu ôl i’r Camera

Y Newyddion Da yn ôl Iesu​—Tu ôl i’r Camera

1 HYDREF, 2024

 Un o’r pethau mae Tystion Jehofa wedi edrych ymlaen ato’n eiddgar eleni yw gweld Pennod 1 o’r Newyddion Da yn ôl Iesu. Mae miliynau eisoes wedi ei gweld. Bydd 18 pennod yn y gyfres gyfan. Beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i greu’r fideo hwn, a sut mae eich cyfraniadau wedi cefnogi’r gwaith?

Gofalu am yr Actorion a’r Criw

 Mae’r rhan fwyaf o’r gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghangen Awstralasia, ac mae rhwng 50 ac 80 o bobl ar y set ar gyfer pob golygfa. a Mae’r actorion a’r criw yn cael cinio, swper, a byrbrydau. Mae’r fwydlen yn cael ei chynllunio ymhell ymlaen llaw. “Rydyn ni’n prynu bwyd o wahanol gwmnïau er mwyn cael bwyd o safon da am y pris gorau,” meddai Esther, sy’n gweithio yn Adran Gwasanaethau Bwyd. “Ac rydyn ni’n addasu ryseitiau drwy’r amser er mwyn peidio â gwastraffu bwyd.” Mae’r bwyd yn costio tua tair punt y pen ($4 UDA) bob dydd.

 Mae angen mwy na bwyd ar y cast a’r criw; mae angen eu hamddiffyn hefyd. Ond rhag beth? Mae’r tywydd yn Awstralia yn braf ac yn heulog, ond mae’r lefelau uwchfioled yn uchel iawn. I gadw pawb rhag llosgi yn yr haul neu ddioddef yn y gwres, mae’r tîm cynhyrchu yn gweithio’n galed i drefnu pebyll ac ardaloedd lle mae pobl yn gallu oeri. Maen nhw’n sicrhau bod digonedd o eli haul, ymbarelau, a dŵr ar gael. Mae Kevin, sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Sain a Fideo, yn esbonio: “Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n helpu’r tîm cynhyrchu yn teithio o’u cartrefi i’r Bethel bob dydd. Maen nhw’n gwneud y gwaith yn llawen ac yn wylaidd. Fydden ni ddim yn gallu gwneud y prosiect hebddyn nhw.”

Ffilmio ar Leoliad

 Nid yw’n bosib ffilmio pob golygfa yn y stiwdio neu ar safle y gangen. Weithiau mae angen ffilmio ar leoliad. Er mwyn ffilmio golygfeydd o Israel gynt, mae angen mynd i ardaloedd anghysbell lle nad oes dim polion gyda gwifrau, dim wyneb caled ar y ffyrdd, a dim tai modern. Mae’n rhaid pacio’r holl wisgoedd, propiau, ac offer, cyn eu cludo i’r lleoliad a’u cadw’n ddiogel. Cyn dechrau ffilmio, mae cydlynwyr cynhyrchu yn sicrhau bod peiriannau cynhyrchu trydan, dŵr glân, a thoiledau ar gael. Mae’r cast a’r criw yn aros gyda’r Tystion lleol, mewn carafannau, gwestai, neu gabanau.

Mae ffilmio ar leoliad yn heriol

 Gall ffilmio ar leoliad gymryd llawer o amser, a gall fod yn ddrud ac yn flinedig i bawb. Felly yn 2023, cafwyd caniatâd gan y Corff Llywodraethol i wario bron i ddwy filiwn o bunnoedd ($2.5 miliwn) ar wal fideo ar gyfer cynhyrchu rhithiol. Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio sgriniau fideo clir iawn, a system goleuo arbennig er mwyn creu’r argraff bod yr olygfa wedi ei ffilmio yn yr awyr agored. Fel hyn, gallwn ni osgoi costau mawr ffilmio ar leoliad. Mae Darren, sydd yn aelod o Bwyllgor Cangen Awstralasia, yn esbonio: “Mae ffilmio gyda wal fideo yn osgoi blino’r actorion, ac mae’n caniatáu i’r criw ail-wneud golygfeydd. Er enghraifft, petasen ni’n ffilmio machlud yr haul yn yr awyr agored, bydden ni’n cael dim ond ychydig o funudau cyn iddo ddiflannu. Ond gyda wal fideo, gallwn ni ail-greu’r machlud drosodd a throsodd nes inni ei gael yn iawn.”

Addasu a phrofi’r wal fideo newydd cyn dechrau ffilmio

”Doedd Hi Ddim yn Teimlo Fel Aberth”

 Mae angen cannoedd o actorion a hyd yn oed mwy o griw i gynhyrchu pob pennod o’r gyfres Newyddion Da. Sut maen nhw’n teimlo am yr holl waith mae’r brodyr a chwiorydd yn ei wneud i edrych ar eu holau?

 Teithiodd Amber fwy na 435 o filltiroedd (700 cilomedr) o’i chartref ym Melbourne i gymryd rhan yn y prosiect. Mae hi’n dweud: “O’r funud cyrhaeddais y maes awyr, roedd y brodyr o’r Bethel yn gofalu amdana i. Ces i wahoddiadau oddi wrth lawer o’r teulu Bethel i fynd am baned neu am bryd o fwyd. Ar y set, roedd pawb yn dangos cariad ac yn gwneud imi deimlo’n gyfforddus. Roedd yr holl brofiad yn llawn bendithion. Doedd hi ddim yn teimlo fel aberth o gwbl!”

 Mae Derek yn gweithio gyda’r tîm cynhyrchu. Mae’n dweud: “Mae cymaint o adrannau wedi ein cefnogi o’r cychwyn cyntaf. Dw i’n ddiolchgar iawn i’r brodyr a chwiorydd yma sydd wedi rhoi o’u hamser, eu hadnoddau, a’u hegni ar gyfer y prosiect hwn. Maen nhw’n gefnogol, yn garedig, ac yn barod i helpu. Mae Jehofa wedi eu bendithio nhw ac wedi ein bendithio ni. Mae ein gwaith yn bwysig i Jehofa, ond yn sicr, mae’r ffordd rydyn ni’n gwneud y gwaith yr un mor bwysig.”

 Diolch yn fawr ichi am y ffordd rydych chi wedi cefnogi’r gyfres fideo hon drwy eich cyfraniadau, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu gwneud ar donate.pr418.com.

a Mae swyddfa gangen Awstralasia yn gofalu am ein gwaith mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Awstralia a rhai gwledydd eraill yn Ne’r Cefnfor Tawel. Mae’r swyddfa ar gyrion Sydney, Awstralia.