Lledaenu’r Newyddion Da am Garedigrwydd Anhaeddiannol Duw
Tystiolaethu i Efengyl gras Duw.—ACTAU 20:24.
CANEUON: 101, 84
1, 2. Sut roedd yr apostol Paul yn dangos ei fod yn ddiolchgar am garedigrwydd anhaeddiannol Duw?
ROEDD yr apostol Paul yn gallu dweud yn onest: “Ac ni bu ei ras ef [sef Duw] tuag ataf yn ofer.” [1] (Darllen 1 Corinthiaid 15:9, 10.) Gan fod Paul wedi erlid Cristnogion yn y gorffennol, roedd yn ymwybodol iawn nad oedd wedi ennill trugaredd mawr Duw na’i haeddu.
2 Tua diwedd ei fywyd, ysgrifennodd Paul at Timotheus, ei gyd-weithiwr, gan ddweud: “Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a’m nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a’m penodi i’w wasanaeth.” (1 Tim. 1:12-14) Beth oedd y gwasanaeth roedd Paul yn cyfeirio ato? Eglurodd Paul wrth henuriaid y gynulleidfa yn Effesus yr hyn roedd ei wasanaeth, neu ei weinidogaeth, yn ei gynnwys, drwy ddweud: “Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a’r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.”—Act. 20:24.
3. Pa weinidogaeth gafodd Paul? (Gweler y llun agoriadol.)
Eff. 3:1, 2) Comisiynwyd Paul gan Iesu i bregethu i bobl nad oedden nhw’n Iddewon fel bod pobl y cenhedloedd hefyd yn gallu bod yn rhan o lywodraeth y Deyrnas sy’n cael ei rheoli gan y Meseia. (Darllen Effesiaid 3:5-8.) Wrth fod mor selog yn ei weinidogaeth, gosododd Paul esiampl ardderchog i Gristnogion heddiw, ac fe ddangosodd nad oedd caredigrwydd anhaeddiannol Duw tuag ato wedi bod “yn ofer.”
3 Pa newydd da roedd Paul yn ei bregethu a oedd yn tynnu sylw at garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa? Fe ddywedodd wrth Gristnogion Effesus: “Y mae’n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi.” (YDY CAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL DUW YN DY GYMELL DI?
4, 5. Pam y gallwn ni ddweud bod y newyddion da am y Deyrnas yr un peth ag “efengyl gras Duw”?
4 Rydyn ni heddiw yn byw yn ystod amser y diwedd, ac mae pobl Jehofa wedi cael eu comisiynu i gyhoeddi’r “efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Math. 24:14) “Efengyl gras Duw” yw’r newyddion da am y Deyrnas sy’n cael eu lledaenu gennyn ni. Sut mae hynny’n wir? Mae’r bendithion lu rydyn ni’n gobeithio eu derbyn o dan Deyrnas Dduw yn dod o ganlyniad i’w garedigrwydd anhaeddiannol. (Eff. 1:3) Ydyn ni fel unigolion yn efelychu Paul drwy ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am garedigrwydd anhaeddiannol Duw drwy fod yn selog yn y weinidogaeth?—Darllen Rhufeiniaid 1:14-16.
5 Yn yr erthygl flaenorol, dysgon ni am sut rydyn ni bechaduriaid yn cael lles o garedigrwydd anhaeddiannol Duw mewn sawl ffordd. Mae cyfrifoldeb mawr arnon ni, felly, i wneud popeth y gallwn i ddysgu eraill am gariad Jehofa ac am y ffordd y gallan nhw elwa’n bersonol. Beth yw rhai agweddau ar garedigrwydd anhaeddiannol Duw y dylen ni helpu eraill i’w deall?
LLEDAENU’R NEWYDDION DA AM Y PRIDWERTH ABERTHOL
6, 7. Wrth egluro’r pridwerth i bobl, sut rydyn ni’n lledaenu’r newyddion da am garedigrwydd anhaeddiannol Duw?
6 Heddiw, nid yw llawer o bobl yn teimlo cywilydd pan fyddan nhw’n pechu, ac felly dydyn nhw ddim yn deall pam mae angen y pridwerth arnyn nhw. Ond ar yr un pryd, mae llawer yn gweld nad yw eu ffordd o fyw yn dod â gwir hapusrwydd iddyn nhw. Hyd nes iddyn nhw siarad â Thystion Jehofa, nid yw llawer yn deall beth yw pechod, sut mae’n effeithio arnon ni, a beth sydd angen inni ei wneud er mwyn cael ein rhyddhau oddi wrtho. Pan fo pobl â chalonnau gonest yn dysgu bod Jehofa wedi anfon ei Fab i’r ddaear yn bridwerth i’n hachub ni rhag pechod a’i ganlyniadau, maen nhw’n teimlo rhyddhad. Anfonodd Jehofa ei Fab i farw droson ni oherwydd ei gariad mawr anhaeddiannol.—1 Ioan 4:9, 10.
7 Wrth sôn am Fab annwyl Jehofa, ysgrifennodd Paul: “Ynddo ef [sef Iesu] y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras [sef gras Jehofa].” (Eff. 1:7) Tystiolaeth fwyaf o gariad mawr Jehofa a’i garedigrwydd anhaeddiannol yw’r pridwerth aberthol. Rhyddhad mawr yw dysgu y byddwn ni’n derbyn maddeuant am ein pechodau ac yn cael cydwybod lân os ydyn ni’n dangos ffydd yng ngwaed Iesu! (Heb. 9:14) Yn sicr, mae hyn yn newyddion ardderchog i’w rannu ag eraill!
HELPU POBL I FEITHRIN PERTHYNAS Â DUW
8. Pam mae angen i bobl bechadurus gymodi â Duw?
8 Rydyn ni’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb o roi gwybod i bobl eraill eu bod nhw hefyd yn gallu meithrin perthynas gyfeillgar â’u Creawdwr. Cyn i fodau dynol roi ffydd ym mhridwerth Iesu, mae Duw yn eu hystyried nhw’n elynion. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Pwy bynnag sy’n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy’n anufudd i’r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.” (Ioan 3:36) Rydyn ni’n ddiolchgar, felly, fod pridwerth Crist yn gwneud cymodi â Duw yn bosibl. Mynegodd Paul: “Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a’ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe’ch cymododd, yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth.”—Col. 1:21, 22.
9, 10. (a) Pa gyfrifoldeb a roddodd Crist i’w frodyr eneiniog? (b) Sut mae’r defaid eraill yn helpu eu brodyr eneiniog?
9 Mae Crist wedi rhoi gweinidogaeth y cymod i’w frodyr eneiniog ei chyflawni. Wrth egluro hyn, ysgrifennodd Paul at Gristnogion eneiniog y ganrif gyntaf: “A Duw sy’n gwneud y cwbl—mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. Dŷn ni’n llysgenhadon yn cynrychioli’r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni’n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw!”—2 Cor. 5:18-20, beibl.net.
10 Mae’r defaid eraill yn teimlo ei bod hi’n fraint i helpu eu brodyr eneiniog yn y weinidogaeth hon. (Ioan 10:16) Drwy wasanaethu fel negeswyr i Grist, fel petai, y defaid eraill sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith o ddysgu gwirioneddau ysbrydol i bobl, a’u helpu nhw i ddatblygu eu perthynas eu hunain â Jehofa. Mae hyn yn rhan bwysig o dystiolaethu “i efengyl gras Duw.”
RHANNU’R NEWYDDION DA FOD DUW YN GWRANDO AR WEDDÏAU
11, 12. Pam mae dysgu ein bod ni’n gallu gweddïo ar Jehofa yn newyddion da i bobl?
11 Mae llawer yn gweddïo oherwydd ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well, ond nid ydyn nhw’n gwir gredu bod Duw yn gwrando arnyn nhw. Mae angen iddyn nhw wybod bod Duw yn “gwrando gweddi.” Ysgrifennodd y salmydd Dafydd: “Ac i ti, sy’n gwrando gweddi, y telir adduned. Atat ti y daw pob un â’i gyffes o bechod: ‘Y mae ein troseddau’n drech na ni, ond yr wyt ti’n eu maddau.’”—Salm 65:2, 3.
12 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe’i gwnaf.” (Ioan 14:14) Wrth gwrs, mae’r “unrhyw beth” yn golygu unrhyw beth sy’n unol ag ewyllys Jehofa. Mae Ioan yn ein sicrhau ni: “A hwn yw’r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â’i ewyllys ef.” (1 Ioan 5:14) Peth da yw dysgu eraill fod gweddi yn llawer mwy na rhywbeth sy’n ein cynnal ni’n seicolegol; yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw ffordd o nesáu at “orsedd gras” Jehofa. (Heb. 4:16) Wrth ddysgu pobl i weddïo yn y ffordd iawn, ac ar y Person iawn, ac am y pethau iawn, gallwn eu helpu nhw i ddysgu eraill sut i agosáu at Jehofa a dod o hyd i gysur yn ystod cyfnodau anodd mewn bywyd.—Salm 4:1; 145:18.
CAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL YN Y BYD NEWYDD
13, 14. (a) Pa freintiau rhyfeddol sy’n disgwyl yr eneiniog yn y dyfodol? (b) Pa waith rhyfeddol bydd yr eneiniog yn ei wneud ar gyfer dynolryw?
13 Bydd caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y byd drwg hwn. Wrth gyfeirio at y fraint ryfeddol mae Jehofa wedi ei rhoi i’r 144,000, a fydd yn rheoli gyda Christ yn y Deyrnas nefol, ysgrifennodd Paul: “Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe’n gwnaeth ni, ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub. Yng Nghrist Iesu, fe’n cyfododd gydag ef a’n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd, er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy’n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu.”—Eff. 2:4-7.
14 Anodd yw dychmygu rhyfeddodau’r hyn sydd gan Jehofa ar gyfer y Cristnogion eneiniog pan fyddan nhw’n eistedd ar eu gorseddau yn y nefoedd i reoli gyda Christ. (Luc 22:28-30; Phil. 3:20, 21; 1 Ioan 3:2) Tuag atyn nhw’n enwedig y bydd Jehofa yn dangos cyfoeth “difesur ei ras trwy ei diriondeb.” Y nhw fydd yn ffurfio’r “Jerwsalem newydd,” sef priodferch Crist. (Dat. 3:12; 17:14; 21:2, 9, 10) Byddan nhw’n gweithio gyda Iesu i iacháu’r cenhedloedd drwy helpu bodau dynol ufudd i gael eu rhyddhau rhag pechod a marwolaeth, ac i ddod yn berffaith.—Darllen Datguddiad 22:1, 2, 17.
15, 16. Sut bydd Jehofa yn dangos caredigrwydd anhaeddiannol tuag at y defaid eraill yn y dyfodol?
15 Darllenwn yn Effesiaid 2:7 y bydd caredigrwydd anhaeddiannol Duw yn cael ei fynegi “yn yr oesoedd sy’n dod.” Heb os, bydd trefn newydd Jehofa yn gweld cyfoeth “difesur ei ras trwy ei diriondeb.” (Luc 18:29, 30) Ar y ddaear, tystiolaeth fawr o gariad Jehofa fydd atgyfodi pobl o’r “bedd.” (Job 14:13-15; Ioan 5:28, 29) Bydd merched a dynion ffyddlon a fu farw cyn i Iesu roi ei fywyd yn bridwerth, ynghyd â’r defaid eraill sy’n marw’n ffyddlon yn ystod y dyddiau olaf, yn cael eu hatgyfodi er mwyn parhau i wasanaethu Jehofa.
16 Bydd miliynau o bobl, a fu farw heb adnabod Duw, yn cael eu hatgyfodi. Byddan nhw’n cael y cyfle i ymostwng i sofraniaeth Jehofa. Ysgrifennodd Ioan: “Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe’u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd.” (Dat. 20:12, 13) Wrth gwrs, bydd gofyn i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi ddysgu sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith. Ar ben hynny, bydd rhaid iddyn nhw ddilyn cyfarwyddiadau newydd, a ddatgelir yn “y llyfrau,” a fydd yn amlinellu gofynion Jehofa ar gyfer byw yn y drefn newydd. Bydd datgelu gwybodaeth y llyfrau hyn yn fynegiant arall o garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa.
DAL ATI I LEDAENU’R NEWYDDION DA
17. Beth dylen ni ei gadw mewn cof wrth inni wneud y gwaith pregethu?
17 Yn fwy nag erioed o’r blaen, wrth i’r diwedd agosáu, ein nod yw pregethu’r newyddion da am y Deyrnas! (Marc 13:10) Yn ddiamau, mae’r newyddion da yn pwysleisio caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa. Dylen ni gadw hyn mewn cof wrth inni wneud y gwaith pregethu. Pan ydyn ni’n tystiolaethu, ein bwriad yw anrhydeddu Jehofa. Gallwn wneud hyn drwy ddangos i bobl fod addewidion Jehofa am y byd newydd yn fynegiant clir o’i garedigrwydd rhyfeddol.
18, 19. Sut rydyn ni’n gogoneddu caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa?
18 Wrth inni bregethu i eraill, gallwn egluro y bydd dynolryw yn mwynhau holl fendithion y pridwerth, ac yn raddol yn dod yn berffaith o dan deyrnasiad Crist. Dywed y Beibl: “Y câi’r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a’i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw.” (Rhuf. 8:21) Dim ond oherwydd caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa y mae hyn yn bosibl.
19 Mae gennyn ni’r fraint o rannu’r addewid yn Datguddiad 21:4, 5 (beibl.net) â phawb sy’n fodlon gwrando. Mae’n dweud: “Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.” Ac mae Jehofa, yr un sy’n eistedd ar yr orsedd yn dweud: “Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!” Mae hefyd yn dweud: “Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.” Pan ydyn ni’n pregethu’r newyddion da i eraill, rydyn ni’n wir yn gogoneddu caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa!
^ [1] (paragraff 1) Pan fydd y gair “gras” yn ymddangos yn nyfyniadau Ysgrythurol yr erthygl hon, mae’n cyfeirio at garedigrwydd anhaeddiannol Duw.