Pam Mae’n Rhaid Inni Barhau i Fod yn Wyliadwrus?
“Ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.”—MATH. 24:42.
CANEUON: 136, 129
1. Esbonia pam ei bod hi mor bwysig inni wybod faint o’r gloch yw hi a beth sy’n digwydd o’n cwmpas. (Gweler y llun agoriadol.)
PUMP, pedwar, tri, dau, un! Wrth inni weld y cloc ar y sgrin fideo yn cyfri’n ôl, rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n hen bryd inni fod yn ein seddi er mwyn mwynhau’r preliwd cerddorol sy’n rhoi cychwyn ar sesiwn y gynhadledd. Dyma’r amser i wrando’n dawel ar gerddoriaeth hardd cerddorfa’r Tŵr Gwylio, a pharatoi ein meddyliau a’n calonnau ar gyfer yr anerchiadau a fydd yn dilyn. Ond beth petai rhai unigolion yn bell eu meddwl, yn crwydro o gwmpas neu’n sgwrsio, heb sylweddoli bod y rhaglen yn cychwyn? Yn amlwg, doedden nhw ddim yn wyliadwrus ac roedden nhw wedi methu sylweddoli faint o’r gloch oedd hi yn ogystal â’r hyn roedd yn digwydd o’u cwmpas—y cadeirydd ar y llwyfan, y gerddoriaeth yn chwarae, a’r gynulleidfa yn eistedd. Gall y senario honno ein helpu ni i ddeall ein bod ni’n cyfri’n ôl i ddigwyddiad llawer iawn mwy arwyddocaol, un sy’n gofyn inni fod yn ymwybodol iawn o’r hyn sydd ar fin dod yn y dyfodol agos. Pa ddigwyddiad yw hwnnw?
2. Pam dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion i fod yn wyliadwrus?
2 Wrth iddo siarad am “ddiwedd amser,” anogodd Iesu ei Math. 24:3; darllen Marc 13:32-37.) Wrth gyfeirio at yr un hanes, mae Mathew hefyd yn dangos bod Iesu wedi rhybuddio ei ddilynwyr i aros yn effro: “Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd. . . . Byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.” Ac unwaith eto, dywedodd: “Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na’r dydd na’r awr.”—Math. 24:42-44; 25:13.
ddisgyblion: “Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.” Ar ôl hynny, rhybuddiodd Iesu nhw dro ar ôl tro: “Byddwch wyliadwrus.” (3. Pam rydyn ni’n cymryd rhybudd Iesu o ddifrif?
3 Mae Tystion Jehofa yn cymryd rhybudd Iesu o ddifrif. Rydyn ni’n gwybod bod “amser y diwedd” yn prysur ddirwyn i ben ac mae’r amser yn brin cyn i’r “gorthrymder mawr” ddechrau! (Dan. 12:4; Math. 24:21) Rydyn ni’n gweld rhyfeloedd ofnadwy, anfoesoldeb ac anghyfraith yn cynyddu, dryswch crefyddol, diffyg bwyd, heintiau, a daeargrynfâu yn digwydd ledled y byd. Rydyn ni’n gwybod bod y gwaith aruthrol o bregethu’r newyddion da yn cael ei gyflawni gan bobl Jehofa ym mhobman. (Math. 24:7, 11, 12, 14; Luc 21:11) Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr amser pan fydd Iesu’n dod a chyflawni pwrpas ei Dad.—Marc 13:26, 27.
GWYLIO’R CLOC
4. (a) Pam y gallwn gredu bod Iesu, erbyn hyn, yn gwybod pa bryd y bydd Armagedon yn digwydd? (b) Er nad ydyn ni’n gwybod pryd y bydd y gorthrymder mawr yn dechrau, o beth y gallwn fod yn sicr?
4 Rydyn ni’n gwybod bod gan bob sesiwn yn y gynhadledd ei hamser penodol i gychwyn. Fodd bynnag, er gwaethaf pob ymdrech, ni fedrwn ddyfalu’n fanwl gywir yr union flwyddyn, heb sôn am ddyfalu’r dydd neu’r awr, pan fydd y gorthrymder mawr yn dechrau. Pan oedd ar y ddaear, dywedodd Iesu: “Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na’r Mab, neb ond y Tad yn unig.” (Math. 24:36) Ond, rhoddwyd yr hawl a’r gallu i Iesu frwydro yn erbyn byd Satan. (Dat. 19:11-16) Felly, rhesymol yw casglu bod Iesu’n gwybod erbyn hyn pa bryd y bydd Armagedon yn dod. Nid yw hynny’n wir amdanon ninnau. Hanfodol, felly, yw inni aros yn wyliadwrus nes i’r gorthrymder ddigwydd. Ond eto, nid yw amseru’r digwyddiad hwnnw byth wedi bod yn ansicr i Jehofa. Mae Duw wedi pennu pryd yn union y bydd y diwedd yn dod. Mae’n cyfri’r dyddiau tan ddechrau’r gorthrymder mawr, ac “mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.” (Darllen Habacuc 2:1-3, beibl.net.) Sut gallwn ni fod mor sicr?
5. Rho enghraifft sy’n dangos bod proffwydoliaethau Jehofa bob amser yn cael eu cyflawni’n brydlon.
5 Mae proffwydoliaethau Jehofa bob amser wedi eu cyflawni mewn pryd! Ystyria pa mor fanwl yw’r amseru pan achubodd Duw yr Israeliaid o’r Aifft. Gan gyfeirio at Nisan 14, 1513 COG, dywedodd Moses: “Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i’r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.” (Ex. 12:40-42) Dechreuodd y 430 mlynedd hynny pan ddaeth cyfamod Jehofa ag Abraham i rym yn 1943 COG. (Gal. 3:17, 18) Rywbryd yn ddiweddarach, dywedodd Jehofa wrth Abraham: “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw’n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe’u cystuddir am bedwar can mlynedd.” (Gen. 15:13; Act. 7:6) Mae’n debyg fod y 400 mlynedd hynny o gystudd, neu ddioddefaint, wedi dechrau yn 1913 COG pan wnaeth Ismael wawdio Isaac ar adeg ei ddiddyfnu, a bod y blynyddoedd hynny wedi gorffen pan aeth yr Israeliaid allan o’r Aifft yn 1513 COG. (Gen. 21:8-10; Gal. 4:22-29) Bedair canrif ymlaen llaw, roedd Jehofa wedi pennu’r union amser ar gyfer achub ei bobl!
6. Pam y gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn achub ei bobl?
6 Gwnaeth Josua, a oedd ymhlith y rhai a aeth allan o’r Aifft, atgoffa’r Israeliaid i gyd: “Y mae pob un ohonoch yn gwybod yn ei galon a’i enaid na phallodd dim un o’r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball.” (Jos. 23:1, 2, 14) Gallwn fod yn sicr y bydd addewid Jehofa i’n hachub ni rhag y gorthrymder mawr hefyd yn cael ei wireddu. Fodd bynnag, os ydyn ni eisiau goroesi dinistrio’r system hon, mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus o hyd.
MAE BOD YN WYLIADWRUS YN HANFODOL AR GYFER GOROESI
7, 8. (a) Yn yr oes a fu, beth oedd gwaith y gwylwyr, a beth yw’r wers inni? (b) Eglura beth allai ddigwydd petai gwylwyr yn syrthio i gysgu wrth eu gwaith.
7 Gallwn ddysgu gwers oddi wrth y gorffennol ynglŷn â phwysigrwydd bod yn wyliadwrus. Ers talwm, roedd dinasoedd mawrion, fel Jerwsalem, wedi eu hamgylchynu gan furiau uchel. Roedd y muriau hyn yn amddiffyn y bobl rhag ymosodwyr yn ogystal â bod yn lle uchel i fedru gweld yr ardal o gwmpas. Ddydd a nos, roedd gwylwyr wedi eu gosod ar y muriau ac wrth y pyrth. Eu gwaith oedd rhybuddio trigolion y ddinas am unrhyw berygl. (Esei. 62:6) Mater o fywyd a marwolaeth oedd i’r gwylwyr hyn aros yn effro a sylwgar.—Esec. 33:6.
8 Mae’r hanesydd Iddewig Josephus yn dweud bod byddin Rufeinig, yn y flwyddyn 70 OG, wedi meddiannu Tŵr Antonia, a oedd yn cyffwrdd â mur dinas Jerwsalem, oherwydd bod y gwylwyr yn cysgu! O’r fan honno, ymosododd y Rhufeiniaid ar y deml a’i rhoi ar dân, gan achosi’r gorthrymder mwyaf a welodd Jerwsalem a’r genedl Iddewig erioed.
9. Beth nad yw’r rhan fwyaf o bobl heddiw yn ymwybodol ohono?
9 Mae’r rhan fwyaf o wledydd heddiw yn gwarchod eu ffiniau gyda milwyr a systemau diogelwch sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Maen nhw’n gwylio rhag ofn i elynion ddod i mewn i’r wlad a bygwth ei diogelwch. Fodd bynnag, mae “gwylwyr” o’r fath yn gweld bygythiadau sy’n dod o lywodraethau dynol yn unig. Nid ydyn nhw’n ymwybodol o fodolaeth na gweithredoedd llywodraeth bwerus Duw sy’n cael ei rheoli o’r nefoedd gan Grist. Cyn bo hir, bydd y llywodraeth honno’n rhyfela yn erbyn llywodraethau’r ddaear. (Esei. 9:6, 7; 56:10; Dan. 2:44) Ar y llaw arall, drwy fod yn effro a gwyliadwrus yn ysbrydol, byddwn ni’n barod ar gyfer dydd y farn, bryd bynnag y daw.—Salm 130:6.
CANOLBWYNTIA AR FOD YN WYLIADWRUS
10, 11. (a) Beth sy’n rhaid inni fod yn ofalus ohono, a pham? (b) Pam rwyt ti’n credu bod y Diafol wedi perswadio pobl i anwybyddu proffwydoliaethau’r Beibl?
10 Dychmyga fod gwyliwr wedi bod yn effro wrth ei waith drwy gydol y nos. Mae’n debygol o fod yn hynod o flinedig ac o syrthio i gysgu ychydig cyn iddo orffen ei waith. Yn yr un modd, y mwyaf agos yr ydyn ni at ddiwedd y drefn hon, y mwyaf yw’r her o aros yn effro. Byddai peidio ag aros yn wyliadwrus yn
drychineb llwyr! Gad inni ystyried tri dylanwad negyddol a allai, os nad ydyn ni’n ofalus, danseilio ein hawydd i aros yn effro.11 Mae’r Diafol yn achosi pobl i deimlo’n ddifater yn ysbrydol. Ychydig cyn iddo farw, rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion dair gwaith ynghylch “tywysog y byd hwn.” (Ioan 12:31; 14:30; 16:11) Gwyddai Iesu y byddai’r Diafol yn cadw pobl mewn tywyllwch meddyliol er mwyn tanseilio’r ymdeimlad o frys sy’n treiddio trwy broffwydoliaethau Duw am y dyfodol. (Seff. 1:14) Mae Satan wedi dallu meddyliau pobl drwy ddefnyddio’r ymerodraeth gau grefyddol fyd-eang. Beth rwyt ti wedi ei sylwi yn dy sgyrsiau ag eraill? Onid yw’r Diafol eisoes wedi dallu meddyliau’r anghredinwyr ynglŷn â diwedd y system hon ynghyd â’r ffaith fod Iesu nawr yn rheoli Teyrnas Dduw? (2 Cor. 4:3-6) Pa mor aml y clywi di bobl yn dweud: “Does gen i ddim diddordeb”? Ar y cyfan, pan ydyn ni’n esbonio beth fydd yn digwydd i’r drefn bresennol, does dim ots ganddyn nhw.
12. Pam mae’n rhaid inni beidio â gadael i’r Diafol ein twyllo?
12 Paid â gadael i ddifaterwch pobl dy ddigalonni a’th berswadio i roi’r gorau i aros yn effro. Rwyt ti’n gwybod yn well na hynny. Ysgrifennodd Paul at ei gyd-gredinwyr: “Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.” (Darllen 1 Thesaloniaid 5:1-6.) Rhybuddiodd Iesu: “Byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.” (Luc 12:39, 40) Yn fuan, bydd Satan yn twyllo’r byd i gredu bod cyfnod o “dangnefedd a diogelwch” yn bodoli. Bydd Satan wedi camarwain pobl i feddwl bod popeth yn iawn yn y byd. Ond beth amdanon ni? Does dim rhaid i ddydd y farn ein goddiweddyd fel lleidr, nac ein dal yn annisgwyl, cyn belled â’n bod ni’n aros “yn effro a sobr.” Dyna pam mae’n rhaid inni ddarllen Gair Duw a myfyrio ar yr hyn mae Jehofa yn ei ddweud wrthyn ni.
13. Sut mae ysbryd y byd yn dylanwadu ar ddynolryw, a sut gallwn ni osgoi’r dylanwad peryglus hwnnw?
13 Mae ysbryd y byd yn suo pobl i gysgu’n ysbrydol. Mae llawer wedi ymgolli cymaint ym mhethau pob dydd y byd hwn fel nad ydyn nhw’n cydnabod bod ganddyn nhw angen ysbrydol. (Math. 5:3) Maen nhw wedi eu llwyrfeddiannu gan bethau materol y byd sy’n meithrin “trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid.” (1 Ioan 2:16) Hefyd, mae’r diwydiant adloniant yn gwneud i bobl feddwi ar garu pleser, ac mae’r temtasiynau yn dwysáu flwyddyn ar ôl blwyddyn. (2 Tim. 3:4) Dyna pam y dywedodd Paul na ddylai Cristnogion roi eu bryd ar foddhau eu chwantau cnawdol oherwydd bod gwneud hynny’n achosi cwsg ysbrydol.—Rhuf. 13:11-14.
14. Pa rybudd a gawn ni yn Luc 21:34, 35?
14 Yn hytrach na chroesawu ysbryd y byd, rydyn ni’n croesawu dylanwad ysbryd Duw yn ein bywydau, oherwydd trwy’r ysbryd hwn mae Jehofa wedi ein helpu ni i ddeall yn glir y digwyddiadau sydd o’n blaenau. [1] (1 Cor. 2:12) Ond eto, nid pethau anghyffredin o reidrwydd sy’n achosi cwsg ysbrydol—bydd pethau cyffredin bywyd yn gwneud i hynny ddigwydd os ydyn ni’n gadael iddyn nhw dagu ein gweithgareddau ysbrydol. (Darllen Luc 21:34, 35.) Efallai y bydd eraill yn ein gwawdio ni am barhau i fod yn wyliadwrus, ond nid yw hynny’n rheswm inni golli ein sêl. (2 Pedr 3:3-7) Yn hytrach, mae’n rhaid inni gymdeithasu’n rheolaidd â’n cyd-Gristnogion yn ein cyfarfodydd, lle mae ysbryd Duw yn bresennol.
15. Beth ddigwyddodd i Pedr, Iago, ac Ioan, a sut gall yr un peth ddigwydd i ni hefyd?
15 Gall ein cnawd amherffaith wanhau ein hymdrechion i aros yn effro. Roedd Iesu yn gwybod bod pobl amherffaith yn dueddol o ildio i wendidau’r cnawd. Rho sylw i’r hyn a ddigwyddodd y noson cyn i Iesu gael ei ladd. Er mwyn aros yn ffyddlon, roedd yn rhaid iddo weddïo ar ei Dad nefol am nerth. Gofynnodd Iesu i Pedr, Iago, ac Ioan aros yn effro tra oedd yntau’n gweddïo. Fodd bynnag, nid oedden nhw’n sylweddoli difrifoldeb yr hyn oedd ar fin digwydd. Yn hytrach na gwarchod eu Meistr, dyma nhw’n ildio i’r cnawd a mynd i gysgu. Er bod Iesu wedi llwyr ymlâdd, roedd yn effro ac yn gweddïo’n daer ar ei Dad. Dyna’n union roedd Iesu yn disgwyl i’w ddisgyblion ei wneud.—Marc 14:32-41.
16. Yn ôl Luc 21:36, sut gwnaeth Iesu ein dysgu ni i aros yn effro?
16 Mae aros yn effro’n ysbrydol yn golygu llawer mwy na chael bwriadau da. Ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad yng Ngardd Gethsemane, dywedodd Iesu wrth yr un grŵp o ddisgyblion i ddeisyfu ar Jehofa. (Darllen Luc 21:36.) Felly, i aros yn wyliadwrus yn ysbrydol, mae’n rhaid i ninnau hefyd aros yn effro a gweddïo.—1 Pedr 4:7.
BYDDA BOB AMSER YN WYLIADWRUS
17. Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer yr hyn sy’n dod yn y dyfodol agos?
17 Gan fod Iesu wedi dweud y bydd y diwedd “yn cyrraedd pan na [fyddwn ni’n] disgwyl,” nid nawr yw’r amser i bendwmpian yn ysbrydol gan feddwl y bydd byd Satan yn dod â hapusrwydd inni. (Math. 24:44, beibl.net) Yn y Beibl, mae Duw a Christ yn dweud wrthyn ni beth sy’n ein disgwyl ni yn y dyfodol agos a sut gallwn ni barhau i fod yn wyliadwrus. Pwysig iawn yw rhoi sylw i’n hysbrydolrwydd, i’n perthynas â Jehofa, ac i bethau’r Deyrnas. Mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o’r amser rydyn ni’n byw ynddo a’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas er mwyn bod yn barod ar gyfer y dyfodol. (Dat. 22:20) Mae ein bywyd yn y fantol!
^ [1] (paragraff 14) Gweler pennod 21 y llyfr God’s Kingdom Rules!