Rhyfeddod Môr-wennol y Gogledd
AM AMSER maith, y gred oedd bod môr-wenoliaid yn hedfan tua 22,000 o filltiroedd ar eu taith o’r Arctig i’r Antartig ac yn ôl. Fodd bynnag, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod yr adar hyn yn hedfan ymhellach.
Cafodd dyfais fach o’r enw geo-leolydd ei roi ar nifer o adar. Yn pwyso tua yr un fath â chlip papur, mae’r teclynnau rhyfeddol hyn wedi datgelu bod rhai o’r môr-wenoliaid wedi hedfan, ar gyfartaledd, 56,000 o filltiroedd ar eu taith gyfan—y mudo hiraf gan anifail rydyn ni’n gwybod amdano. Gwnaeth un aderyn hedfan tua 60,000 o filltiroedd! Pam cafodd yr amcangyfrifon eu diwygio?
Ni waeth o ble yr oedden nhw’n cychwyn ar eu taith, roedd y môr-wenoliaid yn hedfan ar lwybr anuniongyrchol. Fel y gwelir yn y llun, roedd y llwybrau cyffredin hyn ar draws y Môr Iwerydd yn debyg i siâp y llythyren S. Y rheswm? Yn syml, mae’r adar yn manteisio ar systemau’r prifwyntoedd.
Mae môr-wenoliaid yn byw am oddeutu 30 mlynedd, ac yn ystod eu hoes maen nhw’n teithio ymhell dros 1.5 miliwn o filltiroedd. Mae hynny’n cyfateb i dair neu bedair taith i’r lleuad ac yn ôl! “Mae hi’n anodd credu y gallai aderyn sy’n pwyso ychydig dros 100 gram wneud y fath beth,” meddai un ymchwilydd. Ar ben hynny, oherwydd bod môr-wenoliaid y Gogledd yn treulio’r haf ym Mhegwn y Gogledd ac ym Mhegwn y De, maen nhw’n gweld “mwy o olau dydd nag unrhyw greadur arall,” meddai’r llyfr Life on Earth: A Natural History.