Y FFORDD I HAPUSRWYDD
Bodlonrwydd a Haelioni
OES RHAID MESUR HAPUSRWYDD YN NHERMAU CYFOETH? Yr agwedd honno sy’n gyfrifol am filiynau o bobl yn gweithio oriau hir a blinedig er mwyn ennill mwy o arian. Ond, a ydy arian a phethau materol yn dod â hapusrwydd sy’n para? Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos?
Yn ôl y Journal of Happiness Studies, unwaith i’n hanghenion sylfaenol gael eu diwallu, dydy mwy o incwm ddim o reidrwydd yn ein gwneud ni’n fwy hapus nac yn fwy bodlon. Nid arian yw’r broblem. Ond yr hyn sy’n broblem yw “ceisio [arian] sy’n gysylltiedig ag anhapusrwydd,” meddai’r cylchgrawn Monitor on Psychology. Mae’r geiriau hyn yn debyg iawn i’r cyngor a ysgrifennwyd yn y Beibl bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl: “Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi . . . achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.” (1 Timotheus 6:9, 10) Am ba fath o loes rydyn ni’n sôn?
COLLI CWSG OHERWYDD Y MAE’N RHAID GWARCHOD CYFOETH “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i’w fwyta, ond mae’r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu’n dawel.”—Pregethwr 5:12.
CAEL SIOM PAN NA FYDD YR HAPUSRWYDD DISGWYLIEDIG YN DOD. Mae’r siom yn digwydd oherwydd bod ceisio arian yn chwant na ellir byth mo’i fodloni. “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na’r un sy’n caru cyfoeth yn hapus gyda’i enillion.” (Pregethwr 5:10) Hefyd, gall ceisio cyfoeth achosi person i aberthu pethau pwysig sy’n hyrwyddo hapusrwydd, fel, er enghraifft, yr amser gwerthfawr y mae rhywun yn ei dreulio gyda’i deulu a’i ffrindiau, ac yn ei dreulio mewn materion sy’n ymwneud â’i ffydd.
PRYDER PAN FYDD ARIAN A BUDDSODDIADAU YN COLLI EU GWERTH. “Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian; bydd yn ddigon call i ymatal. Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae’n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.”—Diarhebion 23:4, 5.
RHINWEDDAU SY’N HYRWYDDO HAPUSRWYDD
BODLONRWYDD. “Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.” (1 Timotheus 6:7, 8) Dydy pobl sy’n fodlon ddim fel arfer yn cwyno ac mae eu hagwedd yn eu helpu nhw i beidio â bod yn genfigennus. Ac oherwydd dydyn nhw ddim eisiau pethau na allan nhw eu fforddio, maen nhw’n eu gwarchod eu hunain rhag pryder a straen diangen.
HAELIONI. “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Actau 20:35) Mae pobl hael yn hapus oherwydd eu bod nhw’n mwynhau gwneud i bobl eraill fod yn hapus, hyd yn oed os mai’r unig beth y maen nhw’n gallu ei roi yw ychydig o’u hamser a’u hegni. Yn aml, maen nhw’n cael pethau na all faint fynnir o arian eu prynu—cariad, parch, a ffrindiau go iawn sy’n rhoi yn ôl yn hael!—Luc 6:38.
RHOI POBL O FLAEN PETHAU. “Mae platiaid o lysiau lle mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.” (Diarhebion 15:17) Beth yw’r pwynt? Mae cael perthynas gariadus ag eraill yn fwy gwerthfawr na chyfoeth materol. Ac mae cariad, fel y byddwn ni’n ei weld yn nes ymlaen, yn hanfodol ar gyfer bod yn hapus.
Gwnaeth Sabina, dynes o Dde America, ddysgu pa mor werthfawr oedd egwyddorion y Beibl. Ar ôl i’w gŵr ei gadael hi, roedd Sabina yn ei chael hi’n anodd gofalu am anghenion materol y teulu, hithau a’i dwy ferch. Roedd ganddi ddwy swydd ac yn codi am 4:00 a.m. bob bore. Er gwaethaf ei hamserlen flinedig, penderfynodd Sabina astudio’r Beibl. Y canlyniad?
Gwnaeth ei sefyllfa ariannol aros yr un fath. Ond gwnaeth y ffordd roedd hi’n edrych ar fywyd newid yn aruthrol! Er enghraifft, gwnaeth hi brofi’r hapusrwydd sy’n dod o fodloni anghenion ysbrydol. (Mathew 5:3) Daeth o hyd i wir ffrindiau ymysg ei chyd-gredinwyr. A dyma hi’n profi’r hapusrwydd sy’n dod o rannu ag eraill yr hyn roedd hi wedi bod yn dysgu amdano.
“Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.” (Mathew 11:19, Beibl Cymraeg Diwygiedig) O’u rhoi ar waith, fe welwn ni fod rhinweddau fel bodlonrwydd a haelioni ynghyd â rhoi pobl o flaen pethau materol yn profi bod doethineb Duw yn iawn!