Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y BROBLEM

Beth Sy’n Bygwth Ein Diogelwch?

Beth Sy’n Bygwth Ein Diogelwch?

“Mae’r genhedlaeth hon yn defnyddio mwy o dechnoleg, gwyddoniaeth, ac arian nag erioed o’r blaen. Ond eto mae pobl wedi gwthio systemau [gwleidyddol, economaidd, ac amgylcheddol] y byd at ymyl y dibyn.”—The Global Risks Report 2018, World Economic Forum.

PAM MAE CYMAINT O ARBENIGWYR YN POENI AM EIN DYFODOL NI AC AM DDYFODOL Y DDAEAR? DEWCH INNI EDRYCH AR RAI O’R HERIAU RYDYN NI’N EU HWYNEBU

  • TROSEDD SEIBER: Dywedodd y papur newydd The Australian: “Mae’r we yn mynd yn fwy ac yn fwy peryglus. Mae fel maes chwarae i hacwyr, paedoffilyddion, a bwlis. . . . Dwyn manylion adnabod ydy’r drosedd sy’n cynyddu gyflymaf yn y byd. . . . Mae ochr waethaf y ddynoliaeth yn dod i’r amlwg ar y we—ochr hyll a chreulon.”

  • ANNHEGWCH ARIANNOL: Yn ôl un adroddiad diweddar gan Oxfam International, mae gan yr wyth person mwyaf cyfoethog yn y byd gymaint o arian â hanner tlotaf y byd. Dywedodd Oxfam: “Mae ein systemau ariannol wedi methu. Maen nhw’n gwneud pobl gyfoethog yn fwy cyfoethog, tra bod y tlawd, yn mynd yn fwy tlawd. Ac mae’r rhan fwyaf o’r rheini yn ferched.” Mae rhai yn ofni y bydd yr annhegwch, sydd ond yn mynd yn waeth, yn achosi i bobl wrthryfela.

  • RHYFEL AC ERLEDIGAETH: Yn 2018, dywedodd adroddiad gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig: “Mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen wedi gorfod gadael eu cartrefi.” Mae dros 68 miliwn wedi bod yn y sefyllfa honno, fel arfer oherwydd rhyfel neu erledigaeth. Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: “Mae un person bob dau eiliad, mwy neu lai, yn cael ei orfodi i adael ei gartref.”

  • DINISTRIO’R AMGYLCHEDD: Dywedodd The Global Risks Report 2018: “Mae llawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn diflannu’n gyflym iawn . . . ac mae’r llygredd yn yr awyr ac yn y môr yn peryglu iechyd yn fwy nag erioed.” Hefyd mae’r nifer o bryfed yn lleihau’n gyflym mewn rhai gwledydd. Gan fod pryfed yn peillio planhigion, mae gwyddonwyr yn rhybuddio ein bod ni ar fin cael “Armagedon ecolegol.” Dydy riffiau cwrel ddim yn saff chwaith. Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod tua hanner y riffiau yn y byd wedi marw yn y 30 mlynedd diwethaf.

Allwn ni wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn gwneud y byd yn lle mwy diogel? Ai addysg yw’r ateb? Ie, meddai rhai. Ond pa fath o addysg? Bydd yr erthyglau sy’n dilyn yn ateb y cwestiynau hyn.