Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Trwy eu hesiampl, mae rhieni’n dysgu eu plant sut i garu eraill

CAM TUAG AT DDATRYS Y BROBLEM

Dysgu Beth Sy’n Dda a Drwg

Dysgu Beth Sy’n Dda a Drwg

Cafodd rhai bechgyn yn eu harddegau eu cyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fachgen arall tra eu bod nhw ar drip ysgol. Roedden nhw i gyd yn ddisgyblion mewn ysgol breifat uchel ei pharch yng Nghanada. Ar ôl y digwyddiad hwnnw, ysgrifennodd Leonard Stern yn y papur newydd Ottawa Citizen: “Dydy bod yn glyfar, na chael addysg dda a chyfoeth, ddim yn stopio pobl ifanc rhag gwneud pethau drwg.”

Dywedodd Stern hefyd: “Fel arfer, byddech chi’n disgwyl mai’r peth pwysicaf i rieni fyddai dysgu moesau da i’w plant. Ond y gwir ydy, mae llawer i weld yn poeni mwy am statws a chael addysg well.”

Yn sicr, mae addysg yn bwysig. Ond all hyd yn oed yr addysg orau ddim helpu rhywun i ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg. Felly, lle gallwn ni droi am arweiniad moesol?

YR ADDYSG ORAU

Mae’r Beibl yn debyg i ddrych. Drwy edrych ynddo, rydyn ni’n gweld ein gwendidau a lle mae angen inni wella. (Iago 1:23-25) Ond mae’r Beibl yn gwneud mwy. Mae’n ein helpu ni i wneud newidiadau a meithrin rhinweddau sy’n creu heddwch ac undod rhyngddon ni a phobl eraill. Ymhlith y rhinweddau hyn mae daioni, caredigrwydd, amynedd, hunanreolaeth, a chariad. Cariad ydy’r un sy’n “clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.” (Colosiaid 3:14) Ond pam mae cariad mor arbennig? Dewch inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

  • “Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio’i hun, nac yn llawn ohono’i hun. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni—beth sy’n ei wneud e’n llawen ydy’r gwir. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; . . . bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn chwalu.”—1 Corinthiaid 13:4-8.

  • “Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb.”—Rhufeiniaid 13:10.

  • “Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.”—1 Pedr 4:8.

Sut rydych chi’n teimlo pan ydych chi gyda phobl sy’n eich caru chi? Mae’n deimlad mor braf a diogel i fod yng nghwmni rhywun sydd eisiau’r gorau inni, a fyddai byth eisiau ein brifo ni.

Mae cariad yn gallu cael effaith fawr ar fywydau pobl. Mae’n gyffredin iawn i bobl newid eu ffordd o fyw, neu aberthu pethau, er lles y rhai maen nhw’n eu caru. Er enghraifft, pan ddaeth dyn o’r enw George * yn daid, wrth gwrs roedd ef eisiau treulio amser gyda’i ŵyr. Ond roedd George yn ysmygu’n drwm a doedd ei fab-yng-nghyfraith ddim eisiau iddo ysmygu o gwmpas y babi. Beth fyddai George yn ei wneud ac yntau wedi bod yn ysmygu ers 50 mlynedd? Gwnaeth cariad ei gymell i stopio. Dyna ichi wers bwerus!

Mae’r Beibl yn ein helpu ni i feithrin llawer o rinweddau, fel daioni, caredigrwydd, ac yn fwyaf oll, cariad

Mae dangos cariad yn rhywbeth rydyn ni’n ei ddysgu. Mae rhieni’n dysgu eu plant i ddangos cariad drwy eu bwydo nhw a’u hamddiffyn. Maen nhw’n neidio i’r adwy pan fyddan nhw wedi brifo neu’n sâl. Mae rhieni da, nid yn unig yn siarad â’u plant ac yn eu dysgu, ond maen nhw hefyd yn eu disgyblu. Bydd hynny’n helpu plant i wybod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Ar ben hynny, mae rhieni da yn gosod esiampl i’w plant ei dilyn.

Ond yn anffodus, mae rhai rhieni yn methu ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Ydy hynny’n golygu does ’na ddim gobaith i’w plant? Ddim o gwbl! Mae llawer o bobl a gafodd plentyndod anodd wedi gwneud newidiadau rhyfeddol yn eu bywydau, ac wedi tyfu i fod yn bobl garedig ac yn aelodau gwerthfawr yn y gymuned. Yn yr erthygl nesaf, cawn weld sut mae rhai wedi gwneud union hynny.

^ Newidiwyd yr enw.