Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Er mwyn datrys problem mae’n rhaid delio â gwraidd y broblem, nid y symptomau yn unig

YR HER

Beth Sydd Wrth Wraidd y Broblem?

Beth Sydd Wrth Wraidd y Broblem?

Ydych chi’n meddwl bod pobl yn gallu datrys yr holl broblemau sy’n bygwth ein heddwch, ein diogelwch, a’n dyfodol? Er mwyn trwsio unrhyw broblem yn llwyr, mae’n rhaid mynd i wraidd y broblem, yn hytrach na dim ond ceisio gwella’r symptomau.

I egluro, ystyriwch brofiad Tom, a aeth yn sâl ac a fu farw yn y pen draw. Dywedodd y meddyg yn yr ysbyty a edrychodd ar ôl Tom yn ei ddyddiau olaf: “Pan ddechreuodd ei symptomau, wnaeth neb feddwl edrych i weld beth oedd gwir achos ei salwch.” Mae’n ymddangos bod y rhai oedd yn edrych ar ôl Tom ar y dechrau ond wedi rhoi meddyginiaeth iddo i leddfu’r symptomau.

Ai dyna’r ffordd mae pobl yn mynd ati i geisio datrys problemau’r byd? Mae rhai llywodraethau yn gwneud eu gorau i gyflwyno cyfreithiau newydd, gosod camerâu, a rhoi mwy o blismyn ar y stryd. Er bod hyn yn lleihau trosedd i ryw raddau, nid yw’n delio â’r broblem go iawn, sef agweddau pobl. Dyna sy’n effeithio ar y ffordd maen nhw’n ymddwyn.

Dywedodd Daniel, sy’n byw mewn gwlad yn Ne America sy’n mynd yn fwy tlawd: “Dw i’n cofio adeg pan oedd bywyd yn normal a doedden ni ddim yn poeni y byddai pobl arfog yn dwyn oddi arnon ni. Ond does dim heddwch mewn unrhyw dref neu bentref bellach. Mae tlodi wedi gwneud i lawer o bobl ddangos eu hochr waethaf. Maen nhw’n farus, heb unrhyw barch tuag at fywydau pobl eraill na’u heiddo.”

Gwnaeth dyn o’r enw Elias * ffoi oddi wrth ryfel yn y Dwyrain Canol, ac yn y pen draw, dechreuodd astudio’r Beibl. Dywedodd: “Roedd dynion ifanc yn cael eu hannog gan wleidyddion, arweinwyr crefyddol, a’u teuluoedd eu hunain i fynd i ryfel, ac roedden nhw’n addo y byddai pob un yn cael ei drin fel arwr. Roedd hyn yn fy ngwneud i mor drist, oherwydd roedd pobl ar yr ochr arall yn dweud yr un peth! Roedd yn gwneud imi weld does dim pwynt trystio arweinwyr dynol.”

Mae un llyfr llawn doethineb yn dweud:

  • “[Mae] bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid.”—Genesis 8:21, Beibl Cysegr-lân.

  • “Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae’n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni.”—Jeremeia 17:9.

  • “O’ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, . . . anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas.”—Mathew 15:19.

Mae tueddiadau drwg yn llechu ym mhob un ohonon ni. Does neb wedi gallu newid hynny, ni waeth pa mor galed maen nhw wedi trio. Os unrhyw beth, mae’r tueddiadau hynny ond yn mynd yn waeth. Mae’r problemau a gwnaethon ni eu trafod yn yr erthygl flaenorol yn dystiolaeth o hynny. (2 Timotheus 3:1-5) Ac mae hynny’n wir er gwaethaf yr holl wybodaeth sydd ar gael heddiw, ac er ein bod ni’n gallu cyfathrebu ag eraill mewn mwy o ffyrdd nag erioed. Felly pam na allwn ni gael byd llawn heddwch? Ydy hynny y tu hwnt i’n gallu? Ydy hi’n bosib o gwbl?

YDYN NI’N CEISIO GWNEUD RHYWBETH AMHOSIB?

Hyd yn oed petasai’n bosib cael gwared ar holl agweddau drwg pobl drwy ryw wyrth, bydden ni’n dal yn methu gwneud y byd yn lle saff i bawb. Pam? Oherwydd dim ond pobl ydyn ni; mae ’na derfyn i beth allwn ni ei gyflawni ar ein pennau’n hunain.

Y gwir amdani yw, “na all pobl reoli eu bywydau.” (Jeremeia 10:23) Chafodd pobl ddim eu creu â’r gallu na’r hawl i reoli ei gilydd, yn union fel na chafodd pobl eu creu i fyw o dan y dŵr neu yn y gofod!

Yn union fel chawson ni ddim ein creu i fyw o dan y dŵr, chawson ni ddim ein creu i reoli dros bobl eraill

Meddyliwch am sut mae pobl yn teimlo pan mae eraill yn dweud wrthyn nhw sut i fyw, neu ba foesau i’w cadw. Dydyn nhw ddim yn ei hoffi! Mae pethau fel erthyliad, y gosb eithaf, a sut i ddisgyblu plant, i enwi ond ychydig, yn bynciau llosg ac yn gwahanu pobl. Y gwir amdani yw, er bod beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn gallu bod yn anodd ei dderbyn, mae’n gwneud synnwyr. Does gynnon ni’r gallu na’r hawl i reoli dros bobl eraill. Felly lle gallwn ni gael help?

Onid ydy hi’n gwneud synnwyr inni droi at yr un wnaeth ein creu ni. Mae llawer yn meddwl ei fod wedi anghofio amdanon ni, ond dydy hynny ddim yn wir, fel y gwelwn ni’n glir yn y Beibl. Mae Duw wedi llenwi’r llyfr hwnnw gyda doethineb i’n helpu. Drwy ei ddarllen a’i ddeall, byddwn ni’n dod i ddeall ein hunain yn well. Mae hefyd yn ein helpu ni i wneud synnwyr o hanes trist dynolryw. Mae’n hawdd gweld pam ysgrifennodd athronydd o’r Almaen: “Nid yw pobl na llywodraethau wedi dysgu dim o hanes, ac felly dydyn nhw ddim wedi newid eu ffordd o fyw.”

MAE DOETHINEB Y BEIBL YN EIN HAMDDIFFYN

Dywedodd un dyn doeth: “Profir gan bawb o’i phlant [neu ei chanlyniadau] fod doethineb Duw yn gywir.” (Luc 7:35, BCND) Mae enghraifft o’r doethineb hwnnw yn Eseia 2:22 sy’n dweud: “Peidiwch rhoi’ch ffydd mewn pobl.” Gall y cyngor hwnnw ein helpu ni i beidio â gobeithio am rywbeth fydd byth yn digwydd. Fel dywedodd Kenneth, sy’n byw mewn dinas llawn trais yng Ngogledd America: “Un ar ôl y llall, mae gwleidyddion yn addo gwneud pethau’n well, ond bob tro maen nhw’n methu mae’n atgoffa fi o ddoethineb y Beibl.”

Dywedodd Daniel a ddyfynnwyd yn gynharach: “Wrth i amser fynd heibio, dw i ond yn mynd yn fwy sicr nad ydy pobl yn gallu rheoli eraill yn dda. . . . Dydy pres yn y banc, nac mewn pensiwn, ddim yn golygu bod eich dyfodol yn saff. Dw i wedi gweld pobl yn cael eu dal allan ac yn dioddef oherwydd hynny.”

Mae’r Beibl yn gwneud mwy na’n helpu ni i beidio â gobeithio am bethau sy’n amhosib. Mae hefyd yn rhoi gobaith cadarn inni fel y cawn ni weld.

^ Newidiwyd yr enw.