Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

LLYWODRAETH FYDD YN TRECHU’R HER

Heddwch Di-Ben-Draw

Heddwch Di-Ben-Draw

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn annog pawb yn y byd i gydweithio, i barchu hawliau dynol, ac i amddiffyn y blaned. Pam? Oherwydd fel dywedodd Maher Nasser yn yr UN Chronicle, “Dydy newid hinsawdd, trosedd, annhegwch, gwrthdaro, terfysgaeth, heintiau, a phethau tebyg ddim yn parchu ffiniau.”

Mae rhai hyd yn oed wedi cefnogi’r syniad o gael llywodraeth fyd-eang. Ymysg y bobl hynny oedd yr athronydd a’r bardd Eidaleg Dante (1265-1321) a’r ffisegwr Albert Einstein (1879-1955). Credodd Dante fyddai heddwch ddim yn para mewn byd sydd wedi ei rannu gan wleidyddiaeth. Gwnaeth ef hyd yn oed fenthyg geiriau Iesu pan ddywedodd, “Mae teyrnas ranedig yn siŵr o chwalu.”—Luc 11:17.

Yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, lle cafodd dau fom atomig eu defnyddio, ysgrifennodd Albert Einstein lythyr agored at Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, gan ddweud, “Bydd rhaid i’r Cenhedloedd Unedig weithredu’n gyflym i sefydlu llywodraeth fyd-eang os ydy diogelwch am fod yn bosib drwy’r byd i gyd.”

Ond petasai llywodraeth o’r fath ar y ddaear, a fyddai’r gwleidyddion sy’n rheoli yn fedrus, yn onest, ac yn deg, neu a fydden nhw yr un mor llwgr, amhroffesiynol, a chas â’r rhai sydd wedi mynd o’u blaenau? O feddwl am hynny, mae geiriau’r hanesydd Prydeinig Lord Acton yn dod i feddwl. Dywedodd: “Tuedd grym yw llygru, ac mae grym llwyr yn llygru’n llwyr.”

Y gwir amdani yw, bydd rhaid i bawb yn y byd fod yn unedig os ydyn ni am fwynhau gwir heddwch. Ond sut gallwn ni gyrraedd y nod hwnnw? Ydy hynny hyd yn oed yn realistig? Ydy, yn ôl y Beibl. Ond sut? Oherwydd Duw fydd yn sefydlu’r llywodraeth hon yn hytrach na gwleidyddion llwgr. Wedi’r cwbl, Duw yn unig sydd â’r hawl i reoli dros ei greadigaeth. Mae’r Beibl hyd yn oed yn sôn am y llywodraeth honno, ac yn ei galw’n “Deyrnas Dduw.” (Luc 4:43, BCND) Ond beth yn union ydy’r Deyrnas, neu lywodraeth, honno?

“DELED DY DEYRNAS”

Gwnaeth Iesu Grist sôn am Deyrnas Dduw yng ngweddi’r Arglwydd, pan ddywedodd: “Deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear.” (Mathew 6:9, 10, BCND) Felly bydd Teyrnas Dduw yn sicrhau mai ewyllys Duw fydd yn cael ei wneud ar y ddaear, nid ewyllys pobl hunanol a barus.

Efallai eich bod chi hefyd wedi clywed am “deyrnas nefoedd.” (Mathew 5:3, BCND) Enw arall ar Deyrnas Dduw ydy hynny, oherwydd bydd hi’n rheoli dros y ddaear o’r nefoedd. Meddyliwch beth bydd hynny’n ei olygu. Fydd dim rhaid i ni ar y ddaear ei chefnogi’n ariannol nac yn faterol. Oni fydd hynny’n braf?

Fel mae’r gair “teyrnas” yn ei awgrymu, mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth frenhinol. Iesu Grist ydy Brenin y Deyrnas honno, a Duw sydd wedi rhoi’r awdurdod iddo. Dyma mae’r Beibl yn ei ddweud am Iesu:

  • “Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. . . . Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw.”—Eseia 9:6, 7.

  • “Derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. . . . Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.”—Daniel 7:14.

  • “Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd [Duw] a’i Feseia.”—Datguddiad 11:15.

Fel gwnaeth Iesu weddïo amdano, bydd ewyllys Duw yn cael ei gyflawni ar y ddaear o dan Deyrnas Dduw. O dan y Deyrnas honno, bydd pawb yn dysgu sut i ofalu am y blaned, fel ei bod yn iach ac yn llawn bywyd unwaith eto.

Ar ben hynny, bydd pawb yn dysgu ac yn cadw at yr un safonau. Felly, fydd neb yn achosi rhaniadau, nac yn amharu ar yr undod. Fel mae Eseia 11:9 yn dweud, “Fydd neb yn gwneud drwg . . . fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.”

Er gwaethaf ymdrechion y Cenhedloedd Unedig, does ’na ddim heddwch nac undod rhwng pobl y byd. Ond o dan Deyrnas Dduw, “byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.” (Salm 37:11) Ac ymhen amser, fydd na ddim hyd yn oed sôn am bethau fel trosedd, llygredd, tlodi, a rhyfel. Ond, pryd a sut bydd Teyrnas Dduw yn dechrau rheoli? A sut gallwch chi elwa o dan ei rheolaeth? Dewch inni weld.