Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GALLWCH LEDDFU STRAEN

Beth Ydy Straen?

Beth Ydy Straen?

Straen ydy ymateb eich corff i sefyllfa anodd. Mae’r ymennydd yn rhyddhau hormonau drwy eich corff i gyd. Mae’r rhain yn cyflymu curiad y galon, yn rheoli pwysedd gwaed, yn effeithio ar gynhwysedd yr ysgyfaint, ac yn tynhau cyhyrau. Cyn ichi fod yn ymwybodol ohono, mae’ch corff yn rhoi ei hun mewn “cyflwr parod” i weithredu. Ar ôl i’r sefyllfa anodd ddod i ben, ac i’r straen leihau, mae’ch corff yn dychwelyd i normal.

STRAEN POSITIF A NEGYDDOL

Ymateb naturiol ydy straen sy’n dechrau yn yr ymennydd i’ch galluogi chi i ddelio â sefyllfaoedd anodd neu beryglus. Gall straen positif eich galluogi i weithredu ac ymateb yn gyflym. Gall rhywfaint o straen hefyd eich helpu i gyrraedd eich nod, neu i berfformio’n well yn ystod arholiadau, cyfweliadau am swyddi, neu ddigwyddiadau chwaraeon.

Sut bynnag, gall straen hirdymor, eithafol, neu gronig fod yn niweidiol. Pan fydd eich corff mewn “cyflwr parod” yn aml neu drwy’r amser, gallech chi ddioddef yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn feddyliol. Efallai bydd eich ymddygiad yn newid, gan gynnwys y ffordd rydych chi’n trin eraill. Mae rhai yn camddefnyddio sylweddau neu’n troi at arferion drwg eraill er mwyn ceisio ymdopi â straen cronig. Gallai hyd yn oed arwain at iselder, gorflinder, neu feddyliau hunanladdol.

Er nad ydy straen yn effeithio ar bawb yn yr un ffordd, mae’n gallu cyfrannu at amryw o glefydau, ac mae’n gallu effeithio ar bron bob rhan o’r corff.