Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?

PAM MAE PARCH AT ERAILL YN BWYSIG

Mae parch at eraill yn gallu cadw sefyllfa ddrwg rhag gwaethygu.

  • Mae dihareb yn y Beibl yn dweud: “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” (Diarhebion 15:1) Mae geiriau a gweithredoedd amharchus ond yn bwydo’r tân, ac yn aml yn arwain at ganlyniadau ofnadwy.

  • Dywedodd Iesu: “O lawnder y galon y mae’r geg yn siarad.” (Mathew 12:34) Gall geiriau amharchus ddatgelu sut rydyn ni’n wir yn teimlo am rai o hil, llwyth, cefndir, neu genedl sy’n wahanol i ni.

    Ar ôl holi mwy na 32,000 o bobl mewn 28 gwlad, dywedodd 65 y cant ohonyn nhw mai’r amarch maen nhw’n ei weld heddiw ydy’r gwaethaf maen nhw erioed wedi ei weld.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Yn yr ysgol neu yn y gwaith, dylech chi barchu pawb—hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno â nhw. Chwiliwch am bethau rydych chi’n gallu cytuno arnyn nhw. Bydd gwneud hynny’n eich helpu chi i osgoi bod yn feirniadol.

“Stopiwch farnu er mwyn ichi beidio â chael eich barnu.”—Mathew 7:1.

Dylech chi drin eraill yn y ffordd hoffech chi gael eich trin. Os ydych chi’n garedig a theg, bydd pobl eraill yn fwy tebygol o’ch trin chi yn yr un ffordd.

“Yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw.”—Luc 6:31.

Byddwch yn faddeugar. Peidiwch â meddwl y gwaethaf am eraill, ond maddeuwch iddyn nhw am ddweud neu wneud pethau angharedig.

“Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.”—Diarhebion 19:11.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?

Mae Tystion Jehofa yn annog pobl yn eu cymunedau i ddangos parch.

Rydyn ni’n cynnig gwersi am y Beibl am ddim i bawb, ond dydyn ni ddim yn gwthio ein daliadau na’n syniadau ar eraill. Yn hytrach, rydyn ni’n ceisio dilyn cyngor y Beibl drwy rannu ein neges “gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.”—1 Pedr 3:15; 2 Timotheus 2:24.

Dydyn ni ddim yn dangos ffafriaeth ac mae ’na groeso i bobl o bob cefndir ddod i’n cyfarfodydd ac i ddysgu am y Beibl. Rydyn ni’n ceisio bod yn oddefgar a ‘rhoi parch i bawb.’—1 Pedr 2:​17, BCND.

Rydyn ni’n dangos parch at y llywodraeth. (Rhufeiniaid 13:1) Rydyn ni’n ufudd i’r gyfraith ac yn talu trethi. Er nad ydyn ni’n cymryd ochrau mewn pethau gwleidyddol, rydyn ni’n parchu hawl pobl eraill i wneud penderfyniadau eu hunain.