Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch yn y Teulu?

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch yn y Teulu?

PAM MAE PARCH YN Y TEULU YN BWYSIG

Mae parch yn y teulu yn creu awyrgylch sefydlog sy’n helpu gwŷr, gwragedd, a phlant i deimlo’n saff.

  • Mae’r llyfr The Seven Principles for Making Marriage Work yn dweud bod cyplau sy’n parchu ei gilydd yn dangos cariad “nid yn unig mewn pethau mawr ond mewn pethau bach o ddydd i ddydd.”

  • Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n dysgu i barchu eraill yn teimlo’n well amdanyn nhw eu hunain, yn mwynhau perthynas well â’u rhieni, ac yn dioddef llai o broblemau iechyd meddwl.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Gwnewch gynllun fel teulu. Yn gyntaf, diffiniwch “barch.” Yn ail, nodwch pa fath o ymddygiad sy’n dderbyniol a beth sy’n annerbyniol yn y teulu. Yn drydydd, trafodwch eich cynllun fel teulu fel bod pob aelod yn gwybod sut i ddangos parch.

“Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.

Gosodwch esiampl dda. Meddyliwch am eich ymddygiad. A ydych chi’n bychanu aelodau o’ch teulu am eu camgymeriadau, yn eu gwawdio nhw am eu safbwynt, yn eu hanwybyddu nhw, neu’n torri ar eu traws pan maen nhw’n siarad?

Tip: Ceisiwch weld parch fel rhywbeth mae eich cymar a’ch plant yn ei haeddu, nid fel rhywbeth mae’n rhaid iddyn nhw ei ennill.

“Byddwch yn awyddus i anrhydeddu eich gilydd.”—Rhufeiniaid 12:10.

Gallwch anghytuno heb fod yn bigog. Wrth fynegi eich hun, peidiwch â dweud pethau fel “rwyt ti’n wastad yn . . . ” neu “dwyt ti byth yn . . . ” Mae dweud pethau o’r fath yn gallu brifo aelodau o’ch teulu i’r byw a throi anghytundeb bach yn ffrae.

“Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” —Diarhebion 15:1.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?

Mae Tystion Jehofa yn annog teuluoedd i drin ei gilydd â pharch. Dyna’n aml ydy thema’r erthyglau, y llyfrau, y llyfrynnau, a’r fideos rydyn ni’n eu cyhoeddi, sydd ar gael am ddim.

I GYPLAU PRIOD: Gall y gyfres erthyglau Help ar Gyfer y Teulu helpu gwŷr a gwragedd . . .

  • i wrando’n well

  • i beidio â gwrthod siarad â’ch gilydd

  • i stopio dadlau

(Chwiliwch am “Help ar Gyfer y Teulu” ar jw.org)

I RIENI: Gall y gyfres erthyglau Help ar Gyfer y Teulu helpu rhieni i ddysgu eu plant . . .

  • i fod yn ufudd

  • i helpu o gwmpas y tŷ

  • i ddweud “os gwelwch yn dda” a “diolch”

(Chwiliwch am “Magu Plant” a “Magu Plant yn eu Harddegau” ar jw.org)

Gwelwch hefyd yr atodiad, “Questions Parents Ask,” yn y llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 1. (Chwiliwch am “Questions Parents Ask” ar jw.org)

I BOBL IFANC: Mae’r rhan ar jw.org Arddegau ac Oedolion Ifanc yn cynnwys erthyglau, fideos, a gweithgareddau i helpu pobl ifanc . . .

  • i gael perthynas dda â’u rhieni yn ogystal â’u brodyr a’u chwiorydd

  • i siarad â’u rhieni am reolau mewn ffordd barchus

  • i ennill hyder eu rhieni

(Chwiliwch am “Arddegau ac Oedolion Ifanc” ar jw.org)

Mae defnydd o’r wefan jw.org yn rhad ac am ddim. Does dim rhaid talu, cael tanysgrifiad, na chael aelodaeth, a dydyn ni ddim yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol.