Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | YDY’R BYD ALLAN O REOLAETH?

Chwilio am Atebion

Chwilio am Atebion

OS YDY’R holl newyddion drwg yn y byd yn gwneud ichi deimlo’n bryderus neu hyd yn oed yn ofnus, dydych chi ddim ar eich pennau eich hunain. Yn 2014, oherwydd yr holl bethau drwg a oedd yn cael eu hadrodd yn y cyfryngau, gwnaeth Barack Obama, arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, awgrymu bod llawer yn credu bod “y byd yn troi ar ei echel . . . yn gyflym iawn a does neb yn gallu ei reoli.”

Ond eto, yn fuan ar ôl gwneud y datganiad hwnnw, siaradodd yn frwd am wahanol ddatblygiadau a all ddatrys llawer o broblemau’r byd. Dywedodd fod rhai mentrau llywodraethol yn “newyddion da” a’i fod “yn y bôn yn obeithiol” ac “yn hynod o optimistaidd.” Mewn geiriau eraill, roedd yn credu mai ymdrechion pobl dda yw’r ffordd orau o reoli’r byd ac o osgoi trychineb byd-eang.

Mae llawer yn rhannu ei optimistiaeth. Er enghraifft, mae rhai yn ymddiried yn addewidion gwyddonwyr, ac yn rhagweld y bydd datblygiadau technolegol yn datrys problemau’r byd. Yn ôl un arbenigwr ym maes technoleg ddigidol ac arloesedd, erbyn y flwyddyn 2030 “bydd ein technoleg yn fil o weithiau yn fwy pwerus ac erbyn 2045, fe fydd yn filiwn o weithiau yn fwy pwerus.” Fe ychwanegodd: “Rydyn ni’n gwneud yn eithaf da. Er bod y problemau rydyn ni’n eu hwynebu yn waeth nag erioed, mae ein gallu i fynd i’r afael â nhw yn datblygu’n gyflymach nag y mae’r problemau yn codi.”

Pa mor ddrwg ydy cyflwr y byd mewn gwirionedd? Ydyn ni, mewn difri calon, ar drothwy trychineb byd-eang? Er bod rhai gwyddonwyr a gwleidyddion yn pregethu neges o obaith, mae llawer o bobl yn dal yn teimlo’n ansicr ynglŷn â’r dyfodol. Pam hynny?

ARFAU DINISTR TORFOL. Er gwaethaf eu hymdrechion gorau, dydy’r Cenhedloedd Unedig a chyfundrefnau eraill ddim wedi llwyddo ynglŷn â diarfogi niwclear. Yn hytrach, mae arweinwyr yn gwrthwynebu ac yn dilorni’r deddfau sy’n rheoli arfau. Mae’r gwledydd sy’n hanesyddol wedi cadw arfau niwclear yn brysur yn uwchraddio eu hen fomiau ac yn creu rhai llawer iawn mwy dinistriol. Ac erbyn hyn, mae gwledydd nad oedden nhw’n gallu lladd ar lefel torfol bellach yn gallu dinistrio rhannau helaeth o’r ddynoliaeth.

Mae’r ffaith fod gwledydd yn fwy parod ar gyfer rhyfel niwclear nag erioed o’r blaen yn gwneud y byd yn lle peryglus dros ben, hyd yn oed ar adegau o “heddwch.” “Byddai systemau arfog annibynnol sy’n gallu penderfynu ‘lladd’ heb unrhyw oruchwyliaeth ddynol, er enghraifft, yn peri gofid mawr,” meddai’r Bulletin of the Atomic Scientists.

EIN HIECHYD O DAN WARCHAE. Dydy gwyddoniaeth ddim yn gallu mynd â ni lawer pellach o ran iechyd da. Mae pwysau gwaed uchel, gordewdra, llygredd aer, a chamddefnyddio cyffuriau ar gynnydd—pob un yn ffactor risg sy’n cyfrannu at afiechydon. Mae mwy a mwy o bobl yn marw o glefydau anhrosglwyddadwy, rhai fel cancr, anhwylderau cardiofasgwlar, a diabetes. Mae’r nifer o bobl sy’n anabl oherwydd clefydau eraill, gan gynnwys salwch meddwl, yn cynyddu. Ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld epidemigau peryglus yn torri allan heb rybudd, er enghraifft, y firws Ebola a’r firws Zika. Y gwir plaen amdani yw bod salwch y tu hwnt i reolaeth dynolryw, a does dim gobaith y bydd y sefyllfa’n newid.

DYN YN YMOSOD AR NATUR. Mae ffatrïoedd yn parhau i lygru atmosffer y ddaear. Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn marw oherwydd iddyn nhw anadlu aer llygredig.

Mae unigolion, cymunedau, ac asiantaethau llywodraethol yn parhau i daflu carthion, gwastraff meddygol ac amaethyddol, plastig, a phethau eraill sy’n llygru i mewn i’r cefnforoedd. “Mae’r llygryddion hyn yn gwenwyno anifeiliaid a phlanhigion y môr, yn ogystal â’r bobl sy’n bwyta bwyd môr sydd wedi ei lygru,” esboniodd yr Encyclopedia of Marine Science.

Ac rydyn ni’n rhedeg allan o ddŵr yfed glân. Mae’r awdur gwyddonol o Brydain, Robin McKie, yn rhoi’r rhybudd amserol hwn: “Mae’r byd yn wynebu argyfwng dŵr a fydd yn cyffwrdd â phob cwr o’r ddaear.” Mae gwleidyddion yn cyfaddef bod diffyg dŵr yn broblem sydd wedi ei chreu gan ddyn ac sy’n achosi problemau peryglus iawn.

NATUR YN YMOSOD AR DDYN. Mae stormydd, corwyntoedd, tornados, teiffwnau, a daeargrynfeydd yn achosi llifogydd, tirlithriadau, a mathau eraill o ddinistr. Mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn cael eu lladd neu’n dioddef yn enbyd oherwydd grymoedd naturiol. Yn ôl un astudiaeth a gyhoeddwyd gan NASA, dylid disgwyl “mwy o stormydd mawr, tonnau gwres marwol, a chylchredau mwy eithafol o lifogydd a sychderau.” A fydd natur yn rhoi’r ergyd farwol i ddynolryw?

Mae’n debyg y gallwch chi feddwl am bethau eraill sy’n peryglu ein bywydau. Ond eto, ni wnewch chi ddod o hyd i atebion ynglŷn â’r dyfodol drwy ddadansoddi’r holl bethau drwg sy’n digwydd yn y byd heddiw. Efallai y byddai rhai’n dweud yr un peth am wrando ar wleidyddion neu ar wyddonwyr. Fel roedd yr erthygl flaenorol yn dweud, mae llawer, fodd bynnag, wedi dod o hyd i atebion i’r cwestiynau am sefyllfa’r byd a’r dyfodol. Ble cawn ni hyd i’r atebion hynny?