Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cyflwyniad

Cyflwyniad

12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus

Rydyn ni’n clywed cryn dipyn am y problemau sy’n gallu chwalu teuluoedd. Ond beth am y pethau sy’n gwneud i deuluoedd lwyddo?

  • Rhwng 1990 a 2015, mae cyfradd ysgariad yn yr Unol Daleithiau wedi dyblu yn achos pobl sydd yn eu pum degau ac wedi treblu yn achos y rhai sydd dros chwe deg pum mlwydd oed.

  • Mae rhieni wedi drysu’n lân: Mae rhai arbenigwyr yn argymell y dylid canmol plant drwy’r amser tra bo eraill yn ffafrio ‘cariad cadarn.’

  • Mae pobl ifanc yn dod i oed heb wybod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer llwyddo mewn bywyd.

Er hynny, y ffaith yw . . .

  • Gall priodas fod yn gwlwm cryf sy’n rhoi boddhad.

  • Gall rhieni ddysgu sut i ddisgyblu eu plant mewn ffordd gariadus.

  • Gall pobl ifanc ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer bod yn oedolion.

Sut? Bydd y rhifyn hwn o Deffrwch! yn trafod 12 cyfrinach teuluoedd llwyddiannus.