AR GYFER POBL IFANC
9: Hunaniaeth
BETH MAE’N EI OLYGU?
Mae eich hunaniaeth yn mynd y tu hwnt i’ch enw a’r ffordd rydych chi’n edrych. Mae’n cynnwys eich gwerthoedd, eich daliadau, a’ch personoliaeth. A dweud y gwir, eich hunaniaeth yw popeth sy’n gwneud chi’n chi—ar y tu mewn ac ar y tu allan.
PAM MAE’N BWYSIG?
Pan fyddwch chi’n sicr o’ch hunaniaeth, byddwch chi’n fodlon amddiffyn eich daliadau yn hytrach na gadael i’ch ffrindiau eich rheoli.
“Os ydych chi’n ystyried manecwin yn ffenestr siop, dydyn nhw ddim yn dewis pa ddillad maen nhw’n eu gwisgo, eraill sy’n gwneud hynny, ac mae llawer o bobl yn gadael i hynny ddigwydd iddyn nhw.”—Adrian.
“Rydw i wedi dysgu sut i amddiffyn yr hyn sy’n iawn hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd. Rydw i’n gwybod pwy yw fy ngwir ffrindiau drwy’r hyn maen nhw’n ei wneud a’r ffordd rydw i’n ymddwyn yn eu cwmni.”—Courtney.
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Stopiwch gael eich mowldio gan y byd hwn. Yn hytrach, gadewch i Dduw newid y ffordd rydych chi’n meddwl.”—Rhufeiniaid 12:2.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
Ystyriwch y person ydych chi ar hyn o bryd, a’r person rydych chi eisiau bod trwy asesu eich cryfderau, eich gwendidau, a’ch daliadau. Ffordd dda o ddechrau ydy gofyn y cwestiynau canlynol.
Cryfderau: Pa dalentau a sgiliau sydd gennyf? Beth yw fy nghryfderau? (Er enghraifft: Ydw i’n brydlon? Yn hunanddisgybledig? Yn weithgar? Yn hael?) Pa bethau da rydw i’n eu gwneud?
GAIR I GALL: A ydych chi’n ei chael hi’n anodd meddwl am bethau da amdanoch chi’ch hun? Gofynnwch i riant neu ffrind agos am ba gryfderau y mae ef neu hi yn eu gweld ynoch chi a pham.
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Dylai pob un dalu sylw i’w weithredoedd ei hun, ac yna y bydd ganddo achos i lawenhau ynddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn cymhariaeth â rhywun arall.”—Galatiaid 6:4.
Gwendidau: Pa agweddau ar fy mhersonoliaeth sy’n rhaid imi weithio arnyn nhw fwyaf? Pryd rydw i’n fwyaf tebygol o gael fy nhemtio i wneud rhywbeth anghywir? Ym mha ffyrdd galla’ i ddangos mwy o hunanreolaeth?
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Os ydyn ni’n dweud, ‘Does gynnon ni ddim pechod,’ rydyn ni’n ein twyllo ein hunain.”—1 Ioan 1:8.
Daliadau: Pa safonau moesol rydw i’n eu dilyn, a pham? A ydw i’n credu yn Nuw? Pa dystiolaeth sydd wedi gwneud imi gredu yn ei fodolaeth? Pa weithredoedd rydw i’n eu hystyried yn annheg, a pham? Beth ydw i’n ei gredu am y dyfodol?
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Bydd deall yn dy warchod.”—Diarhebion 2:11.