Cyflwyniad
Chwe Gwers Bwysig i Blant
A hoffech chi i’ch plentyn gael ei adnabod fel rhywun sydd:
Yn ddisgybledig?
Yn ostyngedig?
Yn dyfalbarhau?
Yn gyfrifol?
Yn aeddfed?
Yn onest?
Fydd plant ddim yn datblygu’r rhinweddau hyn ar eu pennau eu hunain. Maen nhw angen eich arweiniad.
Bydd y cylchgrawn hwn yn trafod chwe gwers bwysig y gallwch eu dysgu i’ch plant er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer bod yn oedolion.