Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 3

Sut i Ddyfalbarhau

Sut i Ddyfalbarhau

BETH YW DYFALBARHAD?

Mae rhywun sy’n dyfalbarhau yn dal ati er gwaethaf unrhyw rwystr neu siom. Daw’r gallu hwn drwy brofiad. Yn union fel mae plentyn yn disgyn bob hyn a hyn wrth ddysgu cerdded, nid yw’n gallu bod yn llwyddiannus mewn bywyd heb wynebu rhai anawsterau.

PWYSIGRWYDD DYFALBARHAD

Mae rhai plant yn digalonni yn wyneb methiant, sefyllfaoedd anodd, neu feirniadaeth, ac eraill yn rhoi’r ffidil yn y to. Er hynny, mae’n rhaid iddyn nhw ddeall y canlynol:

  • Does neb yn llwyddo bob amser.—Iago 3:2.

  • Bydd pawb yn profi sefyllfaoedd anodd rywbryd neu’i gilydd.—Pregethwr 9:11.

  • Mae cael eich cywiro yn hanfodol er mwyn dysgu.—Diarhebion 9:9.

Bydd meithrin dycnwch yn helpu’ch plentyn i wynebu problemau bywyd â hyder.

SUT I DDYSGU DYFALBARHAD

Pan fydd eich plentyn yn methu.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed.”—Diarhebion 24:16.

Helpwch eich plentyn i weld y darlun llawn. Er enghraifft, beth fyddai ef yn ei wneud petai’n methu prawf yn yr ysgol? Efallai y byddai’n rhoi’r gorau iddi, gan ddweud: “Dw i’n dda i ddim!”

Dysgwch eich plentyn i ddal ati drwy ei helpu i feddwl am ffyrdd o wella. Drwy wneud hyn, yn hytrach na gadael i’r broblem ei reoli, fe fydd yn feistr arni.

Ar yr un pryd, peidiwch â datrys y broblem ar ran eich plentyn. Yn hytrach, helpwch ef i’w datrys drosto’i hun. Gallwch ofyn iddo, “Beth fedri di ei wneud i ddeall y pwnc yn well?”

Wrth wynebu anawsterau.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory!”—Iago 4:14.

Gall bywyd newid yn gyflym. Medr rhywun sy’n gyfoethog heddiw droi’n dlawd yfory, a pherson sy’n iach heddiw fynd yn sâl yfory. “Dydy’r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras, na’r cryfaf yn ennill y frwydr,” meddai’r Beibl. “Mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb.”—Pregethwr 9:11.

Fel rhiant, mae gennych chi’r hawl i amddiffyn eich plant rhag perygl. Ond, mewn gwirionedd, nid yw’n bosib diogelu eich plentyn rhag holl broblemau bywyd.

Wrth gwrs, efallai fod eich plentyn yn rhy ifanc i gael problemau ariannol neu golli swydd. Eto, gallwch ei helpu i ddelio â phroblemau eraill—er enghraifft, petai ffrind yn ei bechu neu petai’n colli aelod o’r teulu mewn marwolaeth. *

Pan fydd eich plant yn derbyn beirniadaeth adeiladol.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Gwrando ar gyngor . . . a byddi’n ddoeth yn y diwedd.”—Diarhebion 19:20.

Nid bwlio ydy beirniadaeth adeiladol; y mae’n arweiniad sy’n rhoi sylw i weithred neu agwedd sydd angen ei chywiro.

Pan ddysgwch eich plentyn i dderbyn cyngor, bydd pethau’n llawer gwell i bawb. Dywedodd un tad o’r enw John, “Os bydd plant yn cael eu hachub rhag pob camgymeriad, fyddan nhw byth yn dysgu. Byddan nhw’n mynd o un broblem i’r llall, a byddwch chithau’n gorfod treulio gweddill eich oes yn mynd ar eu holau yn diffodd y tanau maen nhw’n eu cynnau. Bydd bywyd wedyn yn ddiflas i’r rhieni ac i’r plentyn.”

Sut gallwch chi helpu’ch plentyn i fanteisio ar feirniadaeth adeiladol? Pan fydd eich plentyn yn cael ei gywiro yn yr ysgol, neu rywle arall, osgowch y tueddiad i fychanu’r cyngor. Yn lle hynny, gallwch ofyn:

  • “Pam rwyt ti’n meddwl cest ti dy gywiro?”

  • “Sut gelli di wella?”

  • “Beth fedri di ei wneud y tro nesaf mae hyn yn digwydd?”

Cofiwch, bydd beirniadaeth adeiladol yn helpu’ch plentyn, nid yn unig nawr, ond hefyd fel oedolyn.

^ Par. 21 Gweler yr erthygl “Help Your Child Cope With Grief,” yn rhifyn 1 Gorffennaf 2008 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.